Neidio i'r prif gynnwy

Sut gall sefydliadau diwylliannol wella opsiynau teithio i’w lleoliadau.

Deall problemau teithio

Mae’n gallu bod yn anodd cyrraedd mannau diwylliannol oherwydd cost a diffyg trafnidiaeth gyhoeddus. Er mwyn helpu i ddeall problemau o ran cyrraedd y lleoliad gall sefydliadau diwylliannol wneud y canlynol:

  • cynnal arolygon
  • holi grwpiau cymunedol
  • trefnu grwpiau ffocws

Datblygu cynllun trafnidiaeth

Yn seiliedig ar eu dealltwriaeth o'r problemau gall y sefydliadau ddatblygu cynllun trafnidiaeth i wella mynediad. Efallai y gallai'r canlynol helpu:

Wrth gynllunio prosiectau neu weithgareddau newydd, dylai cyrff diwylliannol gynnwys trafnidiaeth o'r dechrau. Mae'n bwysig iawn mewn cymunedau â chysylltiadau cyhoeddus gwael, neu i gynulleidfaoedd sy'n annhebygol o fod â'u trafnidiaeth eu hunain.

Gwella mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus

Mae enghreifftiau o sut y gallai sefydliadau diwylliannol wella mynediad drwy drafnidiaeth gyhoeddus yn cynnwys:

  • talu am drefniadau tocynnau ar y cyd â darparwyr trafnidiaeth
  • gweithio gyda darparwyr trafnidiaeth i wneud gwasanaethau'n fwy cyfleus, er enghraifft safle bws y tu allan i'r lleoliad
  • marchnata digwyddiadau ar y cyd â darparwyr trafnidiaeth i wella presenoldeb

Gallai Traveline Cymru eich helpu i gynllunio sut i wella mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus.

Datblygu eich gwasanaethau trafnidiaeth eich hun

Gall cyrff diwylliannol hefyd ddefnyddio opsiynau trafnidiaeth gymunedol gan gynnwys:

  • cynlluniau ceir gwirfoddol
  • gwasanaethau teithio grŵp
  • gwasanaethau rheolaidd ar lwybr sefydlog

Cysylltwch â'r Gymdeithas Cludiant Cymunedol am ragor o wybodaeth.

Trafnidiaeth ar gyfer ymweliadau ysgolion

Mae ymweliadau â lleoliadau diwylliannol a safleoedd hanesyddol yn opsiwn pwysig i ysgolion, ac maent yn cefnogi sawl agwedd ar y cwricwlwm. Mae'r Grant Datblygu Disgyblion yn cynnig cymorth ar gyfer gweithgareddau celfyddydol a diwylliannol. Gall ysgolion ddefnyddio'r grant ar gyfer ymweliadau diwylliannol a thrafnidiaeth. 

Gall ysgolion wneud cais am arian oddi wrth Cyngor Celfyddydau Cymru i helpu i ariannu ymweliadau â rhai lleoliadau.

Dylai sefydliadau diwylliannol ystyried rhoi cymhorthdal ar gyfer costau trafnidiaeth, neu ddarparu eu cerbydau eu hunain.