Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, cyhoeddodd Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, fod £14.67 miliwn wedi'i ddyrannu i landlordiaid cymdeithasol i'w helpu i brynu tir ar gyfer adeiladu mwy o dai ledled Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Mawrth 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r arian ar gael drwy gynllun Tir ar gyfer Tai, sy'n galluogi Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig i fenthyg arian i brynu tir i adeiladu arno. Gan mai darparu benthyciadau y mae'r cynllun, mae'r arian yn cael ei ailgylchu wrth i'r benthyciadau gael eu had-dalu. 

Bydd 17 o gynlluniau'n cael eu cefnogi yn yr ail gylch cyllid hwn ar gyfer 2018-19, gan godi'r cyfanswm a fuddsoddwyd yn y flwyddyn ariannol hon i dros £32 miliwn. Mae hyn yn cynnwys £4.2 miliwn sydd wedi cael ei ad-dalu a'i ailfuddsoddi. Ers dechrau'r cynllun yn 2015, mae £52 miliwn wedi cael ei fuddsoddi, a 4,100 o gartrefi wedi'u hadeiladu oherwydd hynny ledled Cymru. Mae 84% o'r rhain yn dai fforddiadwy. 

Gwnaeth y Gweinidog y cyhoeddiad wrth ymweld â datblygiad gan Gymdeithas Tai Taf yn safle hen siop DIY FA Jones ar Penarth Road yng Nghaerdydd. Disgwylir i'r gwaith arno ddod i ben ym mis Gorffennaf. Bydd yn darparu uned fanwerthu a 19 o fflatiau un neu ddwy ystafell wely, gan gynnwys dwy fflat sydd yn hygyrch mewn cadair olwyn. Dechreuodd y gwaith adeiladu ym mis Mai 2017 a bydd y safle'n cael ei drosglwyddo ym mis Gorffennaf 2019.

Cafodd y prosiect fenthyciad o £504,000 gan Tir ar gyfer Tai i'w alluogi i brynu'r safle ym mis Mai 2017. Mae'r benthyciad hwnnw wedi cael ei ad-dalu a'i ailgylchu i'r cyllid sydd ar gael yn y flwyddyn ariannol hon. 

Dywedodd Julie James:

Mae a wnelo tai â chymaint yn fwy na briciau a morter. Mae mor bwysig bod tai diogel, fforddiadwy ar gael i bawb yng Nghymru fel y gallant gyflawni eu potensial.

Rydyn ni wedi ymrwymo i greu 20,000 o gartrefi fforddiadwy yn ystod tymor y llywodraeth hon, ac un yn unig o'r ffyrdd yr ydym yn buddsoddi i gyflawni hyn yw'r Cynllun Tir ar gyfer Tai. 

Gan mai cynllun benthyciadau yw hwn, pan ad-delir yr arian mae'n cael ei ailfuddsoddi mewn prosiectau newydd ac oherwydd hynny mae'n darparu llawer mwy o werth na'r £52 miliwn yr ydym wedi'i fuddsoddi hyd yn hyn. Mae'n enghraifft ardderchog o'r ffordd rydyn ni'n gweithio gyda landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i adeiladu tai ac i wella bywydau pobl yng Nghymru.

Dywedodd Elaine Ballard, Prif Weithredwr Cymdeithas Tai Taf:

Mae'r arian hwn wedi ein helpu i roi bywyd newydd i safle pwysig ar Penarth Road, sy'n borth i Gaerdydd. Mae galw am dai bob amser yn yr ardaloedd canolog hyn, a bydd tenantiaid y dyfodol yn elwa ar y rhwydweithiau cymunedol cryf y mae'r Gymdeithas yn rhan ohonynt. Yn eu tro, bydd y trigolion newydd hyn yn cael cyfle i gymryd rhan yn y gymdogaeth gref ac amrywiol hon a’i chryfhau.

Mae'r 17 cynllun a gymeradwywyd wedi'u lleoli yng Nghaerdydd, Ceredigion, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Sir Benfro, Powys, Rhondda Cynon Taf, Abertawe a Wrecsam.