Mae Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates, wedi llongyfarch pedwar o gwmnïau o'r De sydd wedi gweld cynnydd aruthrol yn eu hallforion ar ôl cael help Llywodraeth Cymru.
Wrth siarad am eu llwyddiant, dywedodd Ysgrifennydd yr Economi:
"Drwy allforio, mae'n bosibl gweddnewid busnes a'i symud ymlaen i'r lefel nesaf. Mae cwmnïau fel Laser Wise Solutions, Osteoplus, Airbond ac Energist i gyd yn enghreifftiau gwych o'r hyn sy'n bosib pan fydd busnesau sydd am allforio mwy yn cael y cyngor, arweiniad a help iawn.
"Ac mae cynyddu gwerth allforion a nifer yr allforwyr yng Nghymru yn bwysicach nag erioed nawr wrth i'r Deyrnas Unedig baratoi i adael yr UE.
"Mae Llywodraeth Cymru'n awyddus i weithio gyda chwmnïau sydd am gynyddu'u hallforion a chynnig yr help sydd ei angen arnyn nhw, beth bynnag yw eu sefyllfa o ran eu datblygiad.
"Rwy am eu helpu i efelychu'r cynnydd yn eu hallforion y mae cwmnïau fel Laser Wise Solutions eisoes wedi'u profi a byddwn yn annog cwmnïau sydd am allforio mwy i gysylltu â ni i gael mwy o wybodaeth am y rhaglen o help arbenigol rydym ni'n ei chynnig."
Mae Laser Wise Solutions yn dylunio ac yn cynhyrchu peiriannau laser yn Nhrefforst sy'n tynnu arhaenau oddi ar geblau a gwifrau. Ar ôl cael help y rhaglen Cymorth Allforio, oedd yn cynnwys ymuno â theithiau Masnach Llywodraeth Cymru â'r Unol Daleithiau, mae trosiant eu busnes wedi tyfu o £1.5m yn 2016 i £2.2m yn 2017.
Ers cael help Llywodraeth Cymru, mae'r cwmni wedi cipio gwerthu £791.5k o fusnes yn yr Unol Daleithiau, £31.2k ym Mecsico, £71k yn Tsieina ac £84k yn Ynysoedd Philippines.
Yn Abertawe, mae OsteoPlus, cwmni sy'n dylunio ac yn datblygu offer llawfeddygol, wedi llwyddo i gipio gwerth £130k yn rhagor o fusnes o'r Unol Daleithiau, tra bo Energist, un o brif gwmnïau'r DU am ddatblygu a chynhyrchu systemau technoleg ysgafn a laser ar gyfer triniaethau meddygol a chosmetig, wedi denu gwerth £725,000 o fusnes o Ddwyrain Asia.
Ym Mhont-y-pŵl, mae Airbond, cwmni sy'n cynhyrchu deunydd cyfansawdd ar gyfer y diwydiannau awyrofod a modurol wedi ennill gwerth £11,000 yn ychwanegol o fusnes o Ddwyrain Asia.
Mae OsteoPlus, Energist ac Airbond i gyd wedi cael help Llywodraeth Cymru a help trwy'r rhaglen Cymorth Allforio sy'n derbyn nawdd yr UE ac a fu'n rhedeg rhwng 2009 a 2015.
Bu'r rhaglen yn helpu cwmnïau oedd am allforio trwy gymysgedd o fentora a hyfforddiant, cyngor ar fasnachu ac ar ddewis y farchnad iawn, teithiau masnach, arddangosfeydd ac ymweliadau tramor i ddatblygu busnes.