Neidio i'r prif gynnwy

Mae gwasanaethau arbenigol yn barod i helpu pawb sydd mewn perygl o ddioddef trais neu gamdriniaeth ddomestig oherwydd y rheolau newydd ar aros gartref i ymladd yn erbyn y coronafeirws.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Ebrill 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Gwnaeth y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip Jane Hutt bwyso ar bobl i gadw’n saff, gan gynnig set o fesurau i helpu’r rheini sy’n wynebu’r risg fwyaf, yn enwedig menywod a dynion a allai ei chael hi’n anodd gofyn am help os ydynt wedi’u hynysu yn eu cartref gyda phartner sy’n dreisgar neu’n eu camdrin.

Nid yw pob aelwyd yn lle diogel – gall fod yn lle peryglus lle gall pobl wynebu mwy o drais a gofid seicolegol yn ogystal â chael eu hynysu fwyfwy.

Gall argyfyngau fel pandemig y coronafeirws arwain at gynnydd yn nifer yr achosion o gamdrin domestig ac mae’r cyfnod hwn o hunan ynysu yn arbennig o anodd.

O gael eu gorfodi i hunan ynysu, gellir defnyddio hynny fel erfyn i reoli trwy orfodaeth neu fel esgus i fod yn dreisgar.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip Jane Hutt:

Rwy’n ofidus iawn y gallai’r hunan ynysu a’r cadw pellter cymdeithasol hyn ei gwneud hi’n haws i bobl orfodi eu rheolaeth neu fod yn dreisgar â phobl eraill ar yr aelwyd. Rwy’n gwybod y gall gorfodi pobl i hunan ynysu ar aelwydydd lle ceir camdriniaeth ddomestig arwain at gynnydd yn yr achosion o drais rhywiol a chorfforol.

Rwy’n deall hefyd bod llawer o ddioddefwyr yn ei chael hi’n anodd gofyn am help, rhag i’w partneriaid eu clywed neu am nad ydynt yn gallu gadael y tŷ.

Gall cael eu gorfodi i hunan ynysu a’r diffyg rhyddid gael effaith ar y rheini sydd wedi dioddef camdriniaeth yn y gorffennol, gan ddwyn profiadau amhleserus i’r cof a’u gwneud yn fwy digalon a gofidus.

Mae ein gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a’r heddlu yn gweithio’n galed i helpu’r rheini sy’n dioddef camdriniaeth ddomestig a thrais rhywiol ym mhob ffordd bosibl.

Rwyf am dawelu’ch meddyliau a dweud bod gwasanaethau arbenigol yn barod i’ch helpu. Rydym ni yma i’ch helpu.

Os ydych yn dioddef camdriniaeth neu drais domestig, cysylltwch â llinell gymorth Byw Heb Ofn nawr. Os ydych chi’n ddyn ac wedi dioddef neu oroesi, mae’r llinell gymorth DYN yn cynnig yr un math o help.

Cadwch yn ddiogel a gofynnwch am help trwy ba ddull bynnag fedrwch chi – byddwn yno i wrando.

Os ydych chi neu rywun rydych yn ei nabod yn dioddef camdriniaeth gorfforol neu emosiynol gan bartner, dyma rai ffyrdd o gael help:

  • Mae’r llinell gymorth Byw Heb Ofn ar gael 24 awr y dydd – ffoniwch nhw am ddim ar 0808 8010 800 unrhyw bryd, os ydy hi’n ddiogel ichi wneud hynny. Gallwch hefyd anfon neges destun neu e-bost neu gael we-sgwrs.
  • Os nad oes gennych le diogel i siarad, ond bod angen help arnoch chi ar unwaith, bydd heddluoedd ledled Cymru’n gallu ymateb i alwad 999 tawel – deialwch 999 ac yna 55 i ddangos nad ydych yn gallu siarad ond bod angen help arnoch chi.
  • Rydym yn talu am lochesi argyfwng i bobl nad oes ganddynt le diogel i’w alw’n gartref – gan gynnwys pobl sy’n dioddef camdriniaeth yn y cartref.
  • Ac rydym wedi darparu arian a chyngor i helpu i ddarparu unedau a llety cymunedol i bobl sydd mewn perygl o fod yn ddigartref, gan gynnwys y rheini sydd wedi goroesi camdriniaeth ddomestig.
  • Rydym yn annog pawb i gadw golwg ar eu hanwyliaid – cadwch mewn cysylltiad, tra’n aros yn ddiogel, trwy Skype, FaceTime a fideo WhatsApp. Cofiwch y gallai pobl eraill fod yn gwrando felly byddwch yn ofalus wrth holi.
  • Crewch god neu arwydd argyfwng fel bod pobl sy’n agos atoch chi yn gwybod bod angen help arnoch chi ac y dylent ffonio’r heddlu.
  • Os gallwch wneud hynny heb beryglu’ch hun, cysylltwch â’ch gwasanaeth camdrin domestig lleol neu’r llinell Byw Heb Ofn, i ddatblygu cynllun fydd yn eich cadw’n ddiogel gartref neu gynllun diogel ar gyfer gadael.
  • Os medrwch chi, llenwch fag o bethau hanfodol (pasbort, manylion banc, dillad) a’i adael gyda ffrind neu gymydog y gallwch ymddiried ynddo.
  • Defnyddiwch siopau lleol os nad oes modd siopa ar-lein. Manteisiwch ar y cyfle i siarad â rhywun.