Helen Armstrong Comisiynydd
Mae Helen Armstrong yn aelod o Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru.
Mae Helen Armstrong yn uwch weithredwr llwyddiannus, strategol a chreadigol gyda dros ugain mlynedd o brofiad yn y sector tai. Mae gan Helen gefndir rheoli prosiectau cymhleth hirdymor.
Helen yw sylfaenydd The Mindful Growth Company sy'n darparu hyfforddiant a mentora mewn modd ystyriol i berchnogion/rheolwyr ac uwch weithredwyr. Mae Helen hefyd yn Aelod Cyswllt Tai Pawb, y sefydliad cydraddoldeb blaenllaw, gan ddarparu hyfforddiant, hwyluso ac ymgynghori ar eu rhan.