Bydd cyflenwadau hanfodol o gyfarpar diogelu personol (PPE) ar gyfer gweithwyr iechyd a gofal rheng flaen yng Nghymru’n cael eu hedfan i mewn heddiw (dydd Mawrth Ebrill 28) i Faes Awyr Caerdydd.
Bydd awyren siarter yn cludo 200,000 o wisgoedd sy’n gallu gwrthsefyll hylif yn cyrraedd o Gambodia.
Mae’r awyren sy’n cyrraedd heddiw wedi cael ei threfnu drwy gysylltiadau yng Nghymru a dyma’r gyntaf o ddwy sydd i gyrraedd yr wythnos hon. Byddant yn dod â chyflenwadau hanfodol o wisgoedd ar gyfer staff y GIG a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Bydd cyfanswm o 660,000 o wisgoedd yn cael eu hedfan i Faes Awyr Caerdydd ar yr awyrennau o Phnom Penh yn Cambodia a Hangzhou yn Tsieina.
Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:
“Ers dechrau’r pandemig, rydyn ni wedi bod yn gweithio’n galed iawn i sicrhau ein bod ni’n parhau â chyflenwad priodol o gyfarpar i Gymru.
“Mae’r coronafeirws wedi rhoi’r cyflenwadau dan bwysau ym mhob cwr o’r byd. Mae’r awyren heddiw’n ganlyniad i lawer o waith caled tu ôl i’r llenni i sicrhau cyflenwadau newydd o wisgoedd i’n gweithwyr rheng flaen.
“Fe hoffwn i ddiolch i Faes Awyr Caerdydd, y fyddin a’r heddlu am eu cefnogaeth gyda’r cyflenwad hwn o gyfarpar diogelu personol, a fydd yn helpu i warchod ein staff iechyd a gofal ar y rheng flaen.”
Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda Phartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru a’r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol i sicrhau cyflenwadau rhyngwladol newydd o gyfarpar diogelu personol yn ogystal â datblygu chadwyni cyflenwi Cymru.
Ddydd Sadwrn, cyrhaeddodd 10m o fasgiau o Tsieina. Bydd y rhain yn cael eu defnyddio gan GIG Cymru ac mewn lleoliadau gofal cymdeithasol ond mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cymorth ar y cyd i’r Alban a Gogledd Iwerddon hefyd.
Dywedodd Deb Bowen Rees, prif swyddog gweithredol Maes Awyr Caerdydd:
“Rydyn ni’n eithriadol falch o fod yn cefnogi’r ymdrech genedlaethol yn ystod y cyfnod rhyfeddol yma. Mae’r maes awyr yn parhau ar agor, oherwydd mae’n hanfodol – fel rhan o seilwaith trafnidiaeth strategol Cymru – ein bod ni mewn sefyllfa o hyd i gefnogi hedfan hanfodol, yn yr achos yma galluogi i gyflenwadau gyrraedd timau rheng flaen cyn gynted â phosib.
“Rydyn ni’n parhau’n barod i gefnogi unrhyw hedfan arall y mae Cymru a’r DU ei angen yn ystod yr wythnosau a’r misoedd sydd i ddod ac yn edrych ymlaen at ddychweliad hediadau masnachol a’n cwsmeriaid ni cyn gynted ag y bydd y cyfyngiadau symud yma drosodd.”
Mae cefnogaeth filwrol i ddadlwytho’r cyfarpar diogelu personol wedi cael ei ddarparu gan filwyr wrth gefn Cymry Brenhinol 3, sydd â’u pencadlys ym Marics y Maendy.
Dywedodd comander y gefnogaeth filwrol i Gymru yn ystod pandemig y coronafeirws, y Brigadydd Andrew Dawes CBE:
“Mae’r fyddin yng Nghymru yn eithriadol falch o gefnogi Llywodraeth Cymru a GIG Cymru yn ystod y cyfnod allweddol yma wrth i ni i gyd dynnu gyda’n gilydd.
“Mae’r milwyr sy’n rhan o’r dasg yma’n filwyr wrth gefn Cymru i gyd bron ac maent wedi gwirfoddoli i gefnogi eu cymunedau a’r GIG i ddarparu cefnogaeth ym Maes Awyr Caerdydd yr wythnos yma.”
Ychwanegodd Ken Skates, y Gweinidog ar gyfer yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru:
“Mae Maes Awyr Caerdydd yn strategol bwysig i Gymru ac economi Cymru – mae’n braf iawn ei weld yn chwarae rhan mor bwysig mewn cynnal cyflenwadau hanfodol o gyfarpar diogelu personol i’n gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen.”