Neidio i'r prif gynnwy

Yma i helpu gyda chostau byw

Mae pawb angen help a chefnogaeth o bryd i’w gilydd.

Gyda chostau byw yn cynyddu, mae llawer o bobl yng Nghymru angen yr help hwnnw nawr.

Mae Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth o fewn ei gallu i roi arian yn ôl ym mhocedi pobl.

Mae cymorth ar gael i chi a allai eich helpu gyda rhywfaint o’ch costau byw.

Ffoniwch linell gymorth Advicelink Cymru ‘Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi’

Os nad ydych chi’n siŵr pa gymorth sydd ar gael i chi, gall Advicelink Cymru eich helpu i ddarganfod beth sydd ar gael a sut i hawlio’r hyn sy’n ddyledus i chi.

Pan fyddwch yn ffonio Advicelink Cymru ar 0808 250 5700, byddwch yn cael cyngor cyfrinachol am ddim ynghylch arian a allai fod yn ddyledus i chi.

Gall Advicelink Cymru eich helpu gyda’r canlynol:

  • gwneud cais am fudd-daliadau lles, fel Taliad Annibyniaeth Personol, Lwfans Gofalwr a Chredyd Pensiwn
  • cael cymorth gan Lywodraeth Cymru

Gall llinell gymorth Advicelink Cymru hefyd drefnu i chi gael help gyda dyledion a materion ariannol personol.

Sut ydw i’n cysylltu ag Advicelink Cymru?

Cysylltwch ag un o gynghorwyr Advicelink Cymru heddiw drwy ffonio’r llinell gymorth am ddim ar 0808 250 5700.

Mae’r llinellau ar agor o ddydd Llun i dydd Gwener rhwng 9am a 5pm. Croesewir galwadau yn Gymraeg.

Beth fydd yn digwydd pan fyddaf yn ffonio’r llinell gymorth?

Pan fyddwch yn cysylltu ag Advicelink Cymru, bydd cynghorydd hyfforddedig yn siarad â chi am eich amgylchiadau ac yn eich helpu i ddarganfod pa gymorth sydd ar gael i chi.

Bydd y cynghorydd yn eich cefnogi drwy gydol y broses hawlio ac yn eich helpu i lenwi unrhyw ffurflenni hawlio.

Gall y cynghorydd hefyd egluro pa dystiolaeth fydd ei hangen i gefnogi eich cais.

Cael help a chefnogaeth gyda chostau byw

Dysgwch ragor am yr ystod o gymorth a chyngor sydd ar gael i’ch helpu chi.