Neidio i'r prif gynnwy

Hawliwch help gyda chostau ysgol

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig cefnogaeth drwy gynnig Cinio Ysgol am Ddim a’r Grant Hanfodion Ysgol.

Prydau Ysgol am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd
Mae pob plentyn yn yr ysgol gynradd nawr yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim.
Grant Hanfodion Ysgol
Gallwch gael hyd at £200 ar gyfer Hanfodion Ysgol i’ch plentyn ac arian ychwanegol i’w hysgol.
Cinio Ysgol am Ddim yn yr ysgol uwchradd
Os ydych chi’n hawlio rhai budd-daliadau mae’n bosib fod eich plentyn yn gymwys i gael Cinio Ysgol am Ddim a chefnogaeth ychwanegol.

Gwiriwch a ydy’ch plentyn yn gymwys a hawliwch help

Prydau Ysgol am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd

Gall pob plentyn mewn ysgol gynradd nawr fwynhau prydau ysgol am ddim.

Hyd yn oed os yw’ch plentyn yn derbyn Prydau Ysgol am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd, mae dal rhaid i chi wirio os ydyn nhw’n gymwys i dderbyn y Grant Hanfodion Ysgol.

Prydau Ysgol Am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd

Dysgwch fwy am Brydau Ysgol Am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd.

Grant Hanfodion Ysgol

Mae’n bosib fod eich plentyn yn gymwys i hawlio help ariannol o hyd at £200 ar gyfer:

  • gwisg ysgol, gan gynnwys cotiau ac esgidiau
  • gweithgareddau ysgol: gall hyn fod yn dysgu offeryn cerdd, cit chwaraeon ac offer ar gyfer gweithgareddau ar ôl ysgol
  • hanfodion dosbarth, fel beiros, pensiliau a bagiau

Help gyda Hanfodion Ysgol

Gwiriwch os allwch chi hawlio help gyda Hanfodion Ysgol.

Cinio Ysgol am Ddim

Ysgol uwchradd

Os ydych chi’n hawlio rhai budd-daliadau neu os yw’ch amgylchiadau ariannol wedi newid yn ddiweddar, gwiriwch a ydych chi’n gymwys i dderbyn Cinio Ysgol am Ddim a’r Grant Hanfodion Ysgol ac arian ychwanegol ar gyfer eich ysgol.

Ysgol gynradd

Hyd yn oed os yw’ch plentyn eisoes yn derbyn Prydau Ysgol am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd, mae dal angen i chi wirio a ydych yn gymwys i dderbyn cefnogaeth ychwanegol, megis y Grant Hanfodion Ysgol ac arian ychwanegol ar gyfer eich ysgol.

Cinio Ysgol Am Ddim

Gallai eich plentyn gael Cinio Ysgol Am Ddim.

Cefnogaeth i chi a chyllid i'ch ysgol

Pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer Cinio Ysgol am Ddim, gallai eich ysgol gael cyllid ychwanegol.

Dysgwch fwy am y cyllid ychwanegol sydd ar gael i’ch ysgol drwy’r Grant Datblygu Disgyblion.

Hawlio help ychwanegol gyda chostau byw

Dysgwch fwy am yr help a’r cyngor sydd ar gael i’ch helpu gyda’r costau byw uwch.