Hawliwch help gyda chostau ysgol
Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig cefnogaeth drwy gynnig Cinio Ysgol am Ddim a’r Grant Hanfodion Ysgol.
Gwiriwch a ydy’ch plentyn yn gymwys a hawliwch help
Prydau Ysgol am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd
Gall pob plentyn mewn ysgol gynradd nawr fwynhau prydau ysgol am ddim.
Hyd yn oed os yw’ch plentyn yn derbyn Prydau Ysgol am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd, mae dal rhaid i chi wirio os ydyn nhw’n gymwys i dderbyn y Grant Hanfodion Ysgol.
Prydau Ysgol Am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd
Dysgwch fwy am Brydau Ysgol Am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd.
Grant Hanfodion Ysgol
Mae’n bosib fod eich plentyn yn gymwys i hawlio help ariannol o hyd at £200 ar gyfer:
- gwisg ysgol, gan gynnwys cotiau ac esgidiau
- gweithgareddau ysgol: gall hyn fod yn dysgu offeryn cerdd, cit chwaraeon ac offer ar gyfer gweithgareddau ar ôl ysgol
- hanfodion dosbarth, fel beiros, pensiliau a bagiau
Help gyda Hanfodion Ysgol
Gwiriwch os allwch chi hawlio help gyda Hanfodion Ysgol.
Cinio Ysgol am Ddim
Ysgol uwchradd
Os ydych chi’n hawlio rhai budd-daliadau neu os yw’ch amgylchiadau ariannol wedi newid yn ddiweddar, gwiriwch a ydych chi’n gymwys i dderbyn Cinio Ysgol am Ddim a’r Grant Hanfodion Ysgol ac arian ychwanegol ar gyfer eich ysgol.
Ysgol gynradd
Hyd yn oed os yw’ch plentyn eisoes yn derbyn Prydau Ysgol am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd, mae dal angen i chi wirio a ydych yn gymwys i dderbyn cefnogaeth ychwanegol, megis y Grant Hanfodion Ysgol ac arian ychwanegol ar gyfer eich ysgol.
Cinio Ysgol Am Ddim
Gallai eich plentyn gael Cinio Ysgol Am Ddim.
Cefnogaeth i chi a chyllid i'ch ysgol
Pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer Cinio Ysgol am Ddim, gallai eich ysgol gael cyllid ychwanegol.
Dysgwch fwy am y cyllid ychwanegol sydd ar gael i’ch ysgol drwy’r Grant Datblygu Disgyblion.
Hawlio help ychwanegol gyda chostau byw
Dysgwch fwy am yr help a’r cyngor sydd ar gael i’ch helpu gyda’r costau byw uwch.