Neidio i'r prif gynnwy

Darganfod am eich hawliau fel plant a phobl ifanc

Deall eich hawliau

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo'n llwyr i hyrwyddo hawliau plant ac mae wedi arwain y ffordd yn y maes hwn. Mae gan bob plentyn yng Nghymru hawliau – nid oes unrhyw amodau ynghlwm wrthynt ac nid oes gan neb y pŵer i roi amodau ynghlwm wrthynt, na chymryd hawliau oddi arnoch.

Mae gan blant a phobl ifanc hawliau o dan Ddeddf Hawliau Dynol 1998, ond mae ganddynt hefyd hawliau o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP). Mae'n rhaid i bob Llywodraeth sydd wedi ymrwymo i CCUHP, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, sicrhau bod plant, pobl ifanc ac oedolion yn gwybod am CCUHP ac yn ei ddeall.

Beth yw CCUHP?

Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) yn dwyn ynghyd hawliau dynol plant a phobl ifanc, hyd at 18 oed, fel rhan o un Confensiwn rhyngwladol. Mae CCUHP yn cynnwys 54 o erthyglau sy'n ymdrin â sawl agwedd ar fywyd plentyn ac yn nodi'r hawliau y mae gan blant yr hawl iddynt. Ystyrir bellach bod yr hawliau hyn yn gysylltiedig â thair thema - sef hawliau Amddiffyn, Darparu a Chyfranogi.

Mae gan bob plentyn hawliau beth bynnag fo'u hethnigrwydd, rhyw, crefydd, cyfeiriadedd rhywiol, anabledd neu sgiliau iaith, ni waeth pwy ydyn nhw, ble maen nhw'n byw neu unrhyw statws arall.

Mae erthyglau 1 i 42 CCUHP yn cyflwyno hawliau ar sut y dylai plant a phobl ifanc gael eu trin fel eu bod yn ddiogel, yn cael eu haddysgu, yn iach ac yn hapus. Mae’r 12 erthygl arall yn ymwneud â sut y dylai llywodraethau ac oedolion weithio gyda’i gilydd i sicrhau bod gan bob plentyn hawl i’w hawliau.

Yr hawliau hyn yw'r pethau sy'n bwysig i sicrhau’r canlynol ar gyfer plant a phobl ifanc:

  • eu bod yn ddiogel;
  • na wahaniaethir yn eu herbyn;
  • bod eu buddiannau gorau wedi'u diogelu;
  • eu bod yn cael y pethau sydd eu hangen arnynt i oroesi a datblygu;
  • eu bod yn cael dweud eu dweud mewn penderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywydau.

Y gyfraith yng Nghymru

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i wella bywydau pobl yng Nghymru a'i gwneud yn lle gwell i fyw a gweithio ynddo. Yn 2011 cyflwynodd Llywodraeth Cymru Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011. Mae'r Mesur yn gosod dwy ddyletswydd ar Weinidogion Cymru:

  • rhoi sylw dyledus i CCUHP a'i Brotocolau Dewisol wrth arfer eu swyddogaethau; a
  • hyrwyddo gwybodaeth am CCUHP a'i Brotocolau Dewisol, a chymryd camau i hybu dealltwriaeth ohonynt, ymhlith y cyhoedd (gan gynnwys plant a phobl ifanc)

Mae'r ddyletswydd i roi sylw dyledus i CCUHP yn golygu bod yn rhaid i Weinidogion ystyried hawliau plant ym mhopeth a wnânt, ond rhaid iddynt hefyd feddwl am sut mae'r penderfyniadau a wnânt yn effeithio ar bethau eraill fel yr amgylchedd, yr economi neu'r Gymraeg a diwylliant.

Un arall o swyddi Llywodraeth Cymru yw sicrhau bod plant a phobl ifanc yn ymwybodol o'u hawliau o dan CCUHP. Mae hynny'n golygu bod angen inni eich gwneud yn ymwybodol o'r hawliau y mae gennych hawl iddynt. Mae hefyd yn golygu bod angen inni sicrhau bod ffordd ichi roi adborth inni ar eich hawliau

Rôl plant a phobl ifanc wrth lunio polisïau

Mae Erthygl 12 o CCUHP yn ymwneud â hawliau plant a phobl ifanc i fynegi eu barn, eu teimladau a'u dymuniadau, ac i'w barn gael ei hystyried a'i chymryd o ddifrif.

Asesiadau o’r effaith ar hawliau plant

Cymru yw un o'r ychydig wledydd sydd â ffordd ffurfiol o edrych ar sut mae penderfyniadau'n effeithio ar hawliau plant. Pan wneir penderfyniadau, rydym yn cynnal Asesiad o'r Effaith ar Hawliau Plant.

Ers mis Ionawr 2021 rydym wedi cyhoeddi'r holl asesiadau hyn o'r effaith – gallwch eu darllen ar wefan LLYW.CYMRU

Rhoi adborth inni am eich hawliau

Rydym yn croesawu adborth a chwynion gennych, oherwydd bydd dysgu o'r hyn a wnawn yn dda a nodi meysydd i'w gwella yn helpu i gryfhau'r ffordd yr ydym yn cefnogi hawliau plant ar draws Llywodraeth Cymru.

Rhoi adborth inni

Gallwch roi adborth inni ar hawliau plant drwy anfon e-bost atom yn customerhelp@llyw.cymru.

Gwneud cwyn

Gallwch wneud cwyn drwy lenwi’r ffurflen gwyno ar LLYW.CYMRU neu drwy anfon e-bost i complaints@llyw.cymru .

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am roi adborth a gwneud cwyn yma.

Dysgu am eich hawliau

Mae hawliau plant yn rhan o Gwricwlwm Cymru, gan gynnwys addysgu a dysgu i gefnogi dysgwyr i ddeall eu hawliau a meithrin eu diddordeb mewn hawliau yn fwy cyffredinol.

Gallwch gael gwybod mwy am hawliau yn y cwricwlwm yma.

Rôl Comisiynydd Plant Cymru

Mae'r Comisiynydd Plant yn gweithredu'n annibynnol i Weinidogion Cymru. Mae hyn yn caniatáu iddi adolygu gweithgareddau Llywodraeth Cymru a chyflawni ei rôl i ddiogelu a hyrwyddo hawliau a lles plant.

Mae'r Comisiynydd Plant yn cyhoeddi adroddiad bob blwyddyn, sy'n cynnwys argymhellion ynghylch sut y gallwn wella'r ffordd yr ydym yn meddwl am hawliau plant.

Sefydliadau a all gefnogi eich hawliau

Mae llawer o sefydliadau yng Nghymru hefyd a all eich cefnogi i wireddu a defnyddio eich hawliau, ac rydym wedi rhestru rhai o'r rhain isod.

Sefydliad Disgrifiad

UNICEF

Mae UNICEF yn gweithio mewn dros 190 o wledydd a thiriogaethau i achub bywydau plant, i amddiffyn eu hawliau, ac i'w helpu i gyflawni eu potensial, o'u plentyndod cynnar i'r glasoed.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth drwy unicef.org

Comisiynydd Plant Cymru

Prif nod y Comisiynydd Plant yw diogelu a hyrwyddo hawliau a lles pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru.

Rôl Comisiynydd Plant Cymru:

  • Cefnogi plant a phobl ifanc i ddysgu am eu hawliau, sy’n cael eu hamlinellu yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (yr UNCRC)
  • Gwrando ar blant a phobl ifanc i gael gwybod beth sy’n bwysig iddyn nhw
  • Cynghori plant, pobl ifanc a’r rhai sy’n gofalu amdanyn nhw os ydyn nhw’n meddwl eu bod nhw wedi cael eu trin yn annheg
  • Dylanwadu ar y llywodraeth a chyrff eraill sy’n dweud eu bod nhw’n mynd i wneud gwahaniaeth i fywydau plant, gan wneud yn siŵr eu bod nhw’n gwneud y newidiadau positif hynny y maen nhw wedi’u haddo
  • Siarad o blaid plant a phobl ifanc yng Nghymru am faterion pwysig

Gallwch cael rhagor o wybodaeth drwy complantcymru.org.uk

Plant yng Nghymru

Plant yng Nghymru yw'r corff ymbarél cenedlaethol ar gyfer sefydliadau ac unigolion sy'n gweithio gyda phlant, pobl ifanc a'u teuluoedd yng Nghymru. Maent yn gweithio'n agos â Llywodraeth Cymru a sefydliadau eraill yng Nghymru i sicrhau bod hawliau plant yn flaenllaw o ran polisi a gwneud penderfyniadau. Maent hefyd yn gweithio'n uniongyrchol gyda phlant a phobl ifanc ar nifer o brosiectau, ac yn ddiweddar maent wedi dechrau aelodaeth benodol ar gyfer Plant a Phobl Ifanc.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth drwy childreninwales.org.uk

Senedd Ieuenctid Cymru

Gallwch ddefnyddio Senedd Ieuenctid Cymru fel llwyfan i leisio eich barn, i siarad am y pethau yr ydych eu heisiau ac sydd eu hangen arnoch, ac i godi'r materion sy'n bwysig i chi.

Mae Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru yn rhoi sylw i’ch materion ac yn eu trafod ar lefel genedlaethol. Maen nhw’n cyflawni hynny drwy gasglu barn pobl ifanc eraill ledled y wlad, ac wedyn yn gweithio gyda'r rhai sydd â'r pŵer i wneud y newidiadau hynny.

Mae 60 o bobl ifanc rhwng 11 a 18 oed sy'n aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru. Mae'r materion y bydd Senedd Ieuenctid Cymru yn codi ymwybyddiaeth ohonynt yn cael eu dewis gan bobl ifanc eu hunain. Bydd Senedd Ieuenctid Cymru yn:

  • Grymuso pobl ifanc Cymru godi ymwybyddiaeth o'r materion sy’n bwysig i bobl ifanc a'u trafod.
  • Gwrando ar bobl ifanc yng Nghymru, cynrychioli eu barn, a gweithredu ar y materion sy'n bwysig i bobl ifanc.
  • Gweithio gyda phobl ifanc yng Nghymru, rhannu'r hyn y maen nhw’n ei gyflawni o ran y materion y mae pobl ifanc wedi'u codi.

Mae Senedd Ieuenctid Cymru yn gweithio'n uniongyrchol â Senedd Cymru i sicrhau bod lleisiau pobl ifanc yn cael eu clywed, gan y rhai sydd â'r pŵer i wneud y newidiadau sydd eu hangen.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth drwy seneddieuenctid.senedd.cymru

NSPCC

Mae'r NSPCC yn cefnogi teuluoedd yng Nghymru sydd angen help i sicrhau bod plant yn cael y cyfle gorau mewn bywyd.

Mae gan yr NSPCC ganolfannau gwasanaethau yng Ngogledd a De Cymru sy'n cynnig cymorth i blant, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol. Maent yn cefnogi rhieni a theuluoedd i ofalu am eu plant ac yn darparu cymorth therapiwtig i helpu plant i symud ymlaen a gwella o'r niwed y mae camdriniaeth yn ei achosi.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth drwy nspcc.org.uk

Achub y Plant

Mae Achub y Plant yn gweithio ochr yn ochr â phlant mewn mwy na 100 o wledydd, gan gynnwys y DU.

Ar y cyd, a chydag aelodau Achub y Plant ledled y byd, maent wedi gosod tair nod. Erbyn 2030, eu huchelgeisiau yw'r canlynol;

  • nid oes unrhyw blentyn yn marw o achosion y gellir eu hatal cyn eu pumed pen-blwydd
  • mae pob plentyn yn dysgu drwy gael addysg sylfaenol o safon
  • nid yw trais yn erbyn plant yn cael ei oddef mwyach

Gallwch gael rhagor o wybodaeth drwy savethechildren.org.uk

Meic

Meic ydy’r gwasanaeth llinell gymorth i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru. I ddarganfod beth sy’n digwydd yn eich ardal leol neu am help i ymdrin â sefyllfa anodd, bydd Meic yn gwrando pan na fydd unrhyw un arall yn gwneud. Nid ydynt yn barnu a byddant yn helpu wrth roi gwybodaeth, cyngor defnyddiol a’r gefnogaeth sydd ei hangen arnoch i wneud newid.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth drwy meiccymru.org

Chwarae Cymru

Mae Chwarae Cymru yn gweithio i godi ymwybyddiaeth ynghylch angen a hawl plant a phobl ifanc i chwarae ac i hyrwyddo arfer dda ar bob lefel o'r broses o wneud penderfyniadau, ac ym mhob man lle gallai plant chwarae. Maent yn cynnig cyngor ac arweiniad i gefnogi pawb sydd â diddordeb mewn darparu neu gyfrifoldeb dros ddarparu ar gyfer chwarae plant. A hynny fel bod Cymru un diwrnod yn wlad sy'n cydnabod ac yn darparu'n dda ar gyfer anghenion chwarae pob plentyn.

Eu cenhadaeth yw "Ymgyrchu dros Gymru chwarae-gyfeillgar a phledio achos hawl pob plentyn i chwarae”

Gallwch gael rhagor o wybodaeth drwy chwaraecymru.org.uk

NYAS

Mae NYAS (Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol) yn cynnig eiriolaeth a chynrychiolaeth gyfreithiol i blant ac oedolion sy'n agored i niwed pan fydd penderfyniadau pwysig yn cael eu gwneud amdanynt. Gallai'r plant a'r bobl ifanc y mae NYAS yn gweithio gyda nhw fod mewn gofal, fod ag anabledd neu ag anghenion arbennig, bod yn destun cynlluniau amddiffyn plant, yn cael anawsterau iechyd meddwl neu efallai bod eu rhieni'n gwahanu.

Mae NYAS yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau gan gynnwys:

  • Llinell gymorth eiriolaeth genedlaethol.
  • Eiriolaeth i blant mewn gofal a'r rhai mewn angen – gan gynnwys plant sy'n destun cynlluniau amddiffyn plant, pobl sy'n gadael gofal, plant a phobl ifanc ag anableddau.
  • Darparu ymwelwyr annibynnol i blant mewn gofal.
  • Cynrychiolaeth gyfreithiol i blant drwy gyfraith teulu breifat.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth drwy nyas.net