Neidio i'r prif gynnwy

Yr hyn yr ydym yn ei wneud i gryfhau a gwella hawliau dynol yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Medi 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Mae gan Lywodraeth Cymru rwymedigaeth gyfreithiol i barchu, diogelu a chyflawni hawliau dynol.

Rhaid inni weithredu mewn ffordd sy'n bodloni'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau DynolDeddf Hawliau Dynol 1998.

Pam yr ydym yn cryfhau hawliau dynol

Rydym am gael cymdeithas gyfiawn a chyfartal. Mae ein Hamcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol yn cefnogi hyn.

Sut yr ydym yn cryfhau hawliau dynol

Rydym wedi comisiynu ymchwil ar gryfhau a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru

Gwnaeth yr adroddiad ymchwil argymhellion i Lywodraeth Cymru a sefydliadau sector cyhoeddus eraill eu cyflawni, er budd unigolion.

Mae ein hymateb i'r adroddiad ymchwil yn nodi'r camau blaenoriaeth yr ydym wedi cytuno i'w cymryd. 

Rydym hefyd yn gweithio ar ein hymrwymiadau yn y Rhaglen Lywodraethu (2021 i 2026). 

Grŵp Cynghori ar Hawliau Dynol

Mae'r Grŵp Cynghori ar Hawliau Dynol yn cynghori ac yn monitro cynnydd ar y camau yr ydym yn eu cymryd. Caiff y cyfarfodydd chwarterol eu cadeirio gan Ysgrifenyddion y Cabinet.

Gweithgor Opsiynau Deddfwriaethol ar Hawliau Dynol

Mae'r Gweithgor Opsiynau Deddfwriaethol ar Hawliau Dynol yn is-bwyllgor o'r Grŵp Cynghori ar Hawliau Dynol. Mae'r Gweithgor yn ystyried sut i ymgorffori hawliau dynol yng Nghymru.

Ein rhwymedigaethau rhyngwladol

Mae saith offeryn ar hawliau dynol rhyngwladol craidd y mae Llywodraeth y DU wedi cytuno i'w dilyn:

  • Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol.
  • Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Sifil a Gwleidyddol.
  • Confensiwn y Cenhedloedd Unedig yn erbyn Artaith a Thriniaeth neu Gosb Greulon, Annynol neu Ddiraddiol Arall.
  • Y Confensiwn Rhyngwladol ar Ddileu Pob Math o Wahaniaethu ar sail Hil.
  • Y Confensiwn ar Ddileu Pob Math o Wahaniaethu yn erbyn Menywod.
  • Y Confensiwn ar Hawliau Pobl ag Anableddau.
  • Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn.