Daeth yr ymgynghoriad i ben 31 Hydref 2013.
Manylion am y canlyniad
![](/sites/default/files/styles/file_thumb/public/publication-doc-thumbnails/Summary_of_responses_69.jpg?itok=mEJnenBw)
Crynodeb o'r ymatebion (Saesneg yn unig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 523 KB
![](/sites/default/files/styles/file_thumb/public/publication-doc-thumbnails/Full_responses_3.jpg?itok=avSG_3pz)
Holl ymatebion (Saesneg yn unig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 5 MB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Rydym am gael eich barn am newidiadau i hawliau datblygu a ganiateir i helpu i hwyluso'r seilwaith angenrheidiol yng Nghymru i sicrhau mynediad i fand eang y genhedlaeth nesaf.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Rydym am eich sylwadau ar y newidiadau arfaethedig i’r hawliau datblygu a ganiateir sydd wedi’u hamlinellu yn Rhan 24 “Development by Electronic Communications Code Operator (Wales)” o Atodlen 2 i Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995 (O.S. 1995/418) fel y’i diwygiwyd.
Rhennir y papur ymgynghori yn 4 prif adran:
- seilwaith telegyfathrebu yng Nghymru
- cyflwyno band eang sefydlog
- cyflwyno band eang symudol
- yr addasiadau arfaethedig i’r hawliau datblygu a ganiateir presennol a rhai materion cysylltiedig.
Mae Atodiad 2 a geir ynghlwm yn cynnwys Asesiad Effaith Rheoleiddiol drafft.
Dogfennau ymgynghori
![](/sites/default/files/styles/file_thumb/public/publication-doc-thumbnails/130729permitted-development-for-broadband-en-thumb_jpg.jpg?itok=nf3_MKKp)