Neidio i'r prif gynnwy

Deddf Digollediad Tir 1973

A487: ffordd osgoi Caernarfon i Bontnewydd

1. Mae Gweinidogion Cymru drwy hyn yn rhoi hysbysiad bod y darn o briffordd a nodir yn yr Atodlen isod wedi'i hagor i draffig cyhoeddus ar 18 Chwefror 2022. Gelwir y dyddiad hwnnw yn "ddyddiad perthnasol".

2. O dan Ran I o Ddeddf Digollediad Tir 1973 (fel y'i diwygiwyd) (y cyfeirir ati o hyn ymlaen fel y Ddeddf), gall unrhyw un sydd â buddiant cymhwyso mewn tir hawlio iawndal os yw gwerth y buddiant hwnnw wedi'i ddibrisio gan fwy na £50 gan ffactorau ffisegol a achosir gan y defnydd o'r briffordd a newidiwyd. Y ffactorau ffisegol yw sŵn, dirgryniad, arogl, mygdarthau, mwg a goleuadau artiffisial ac unrhyw sylwedd solet neu hylifol sy’n cael ei ryddhau i'r tir.

3. Y diwrnod cyntaf y gellir hawlio iawndal yw'r diwrnod ar ôl i ddeuddeg mis ddod i ben o'r dyddiad perthnasol ac fe'i gelwir yn "ddiwrnod hawlio cyntaf". Y diwrnod hawlio cyntaf ar gyfer y briffordd hon a newidiwyd yw 18 Chwefror 2023. Ni ellir gwneud hawliad cyn y diwrnod hawlio cyntaf, ac eithrio'r amgylchiadau a ddisgrifir ym mharagraff 4 yr hysbysiad hwn.

4. Gellir gwneud hawliad yn ystod y cyfnod rhwng y dyddiad perthnasol a'r diwrnod hawlio cyntaf dim ond pan fo'r hawlydd wedi gwneud contract i werthu ei fuddiant/buddiant yn yr eiddo neu, yn achos eiddo nad ydynt yn anheddau, i roi tenantiaeth. Rhaid gwneud yr hawliad rhwng llunio’r contract a chyn i'r eiddo gael ei werthu neu’r denantiaeth ei rhoi. Ni all Gweinidogion Cymru dderbyn hawliad ar ôl i eiddo gael ei werthu neu denantiaeth ei rhoi. Ni thelir unrhyw iawndal mewn perthynas â hawliad o'r fath cyn y diwrnod hawlio cyntaf.

5. Yn rhinwedd adran 19(2A) o'r Ddeddf ac o dan Ddeddf Cyfyngiadau 1980, bydd hawliad yn cael ei wahardd os nad yw'r hawlydd wedi gwneud y canlynol o fewn chwe blynedd o'r diwrnod hawlio cyntaf, gan gynnwys y dyddiad hwnnw: a) Wedi cytuno'n ysgrifenedig ar gynnig o iawndal (gan gynnwys unrhyw brisiad rhesymol a threuliau cyfreithiol) a wneir gan Weinidogion Cymru yn ysgrifenedig; neu b) Os na cheir cytundeb felly, mae wedi’i gyfeirio at y Tribiwnlysoedd Tiroedd er mwyn gofyn iddynt benderfynu ar yr iawndal. Pan fo hawliad wedi'i wahardd o dan Ddeddf Cyfyngiadau 1980, ni all fod yn ofynnol i Weinidogion Cymru dalu iawndal mwyach.

6. Ni ellir hawlio iawndal o dan Ran I o'r Ddeddf lle caffaelwyd rhan o'r eiddo ar gyfer cyflawni'r newidiadau i'r briffordd. Yn hytrach, telir iawndal am dir a gaffaelwyd o dan reolau gwahanol.

7. I hawlio iawndal o dan Ran I o'r Ddeddf, rhaid bod buddiant cymhwyso yn y tir wedi'i gaffael cyn i'r newidiadau gael eu cwblhau a chyn iddo fod yn agored i draffig cyhoeddus am y tro cyntaf. Rhaid i'r hawlydd hefyd feddu ar y buddiant cymhwyso ar ddyddiad gwneud yr hawliad. Rhaid i'r hawlydd allu dangos tystiolaeth o'i fuddiant/buddiant yn yr eiddo pan fydd Gweinidogion Cymru yn gofyn iddo/iddi wneud hynny. Ni thelir iawndal os na ellir gwirio buddiant cymwys hawlydd yn yr eiddo. Pennir buddiannau mewn tir sy'n gymwys i gael iawndal yn adran 2 o'r Ddeddf. 

8. Asesir iawndal drwy gyfeirio at brisiau eiddo sy'n gyfredol ar y diwrnod hawlio cyntaf. Rhoddir ystyriaeth i'r defnydd o'r briffordd a newidiwyd, fel y mae'n bodoli ar y diwrnod hawlio cyntaf. Rhoddir ystyriaeth hefyd i unrhyw gynnydd y gellir ei ddisgwyl wedyn o ran defnydd o’r briffordd a newidiwyd yn y cyflwr y mae ar y diwrnod hawlio cyntaf.

9. Gall unrhyw berson sydd â hawl i fuddiant cymhwyso sy'n ystyried bod ganddo/ganddi hawliad o dan y darpariaethau a nodwyd gael rhagor o wybodaeth a ffurflenni hawlio drwy e-bostio part1claims@llyw.cymru neu drwy ysgrifennu at y Tîm Hawliadau a Sŵn Rhan 1, Seilwaith Economaidd, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ gan ddyfynnu'r cyfeirnod BZ910228-431-1.

10. Mae'r hysbysiad hwn yn cynnwys crynodeb o'r gyfraith. Ni fwriedir iddo fod yn ddatganiad cyflawn na llawn ohono. Dylai unrhyw un sy'n bwriadu gwneud hawliad ystyried cael cyngor proffesiynol annibynnol.

Atodlen

Mae darn 9.8km o ffordd newydd bellach wedi'i gwblhau rhwng cylchfan y Goat (cyffordd yr A499/A487) a Chylchfan Plas Menai sy'n cysylltu'r ffordd osgoi hon â ffordd osgoi'r A499 a'r A487 yn y Felinheli.

Adeiladwyd y ffordd newydd er mwyn;

  • ei gwneud hi’n haws teithio heb dagfeydd traffig
  • ei gwneud hi'n haws teithio rhwng Penrhyn Llŷn, Porthmadog, Bangor a'r A55
  • lleihau llygredd sŵn ac aer i bobl sy'n byw ar hyd yr A487
  • ei gwneud hi’n fwy diogel i bobl deithio rhwng trefi
  • ei gwneud hi’n haws i gerbydau nwyddau trwm deithio yn yr ardal
  • ei gwneud hi’n fwy diogel i deithio rhwng Caernarfon a Bontnewydd drwy gerdded a beicio

Gellir cael copi print bras o'r Hysbysiad hwn drwy ffonio Tîm Hawliadau a Sŵn Rhan 1 ar 03000 256475.