Neidio i'r prif gynnwy

Yn ôl canlyniadau arolwg twristiaeth a gyhoeddwyd heddiw, mae'r tywydd da yn ystod mis Mai a dechrau Mehefin wedi rhoi hwb i'r diwydiant − ac mae’n  llawn hyder am yr haf sydd ar ddod.

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Mehefin 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Er ei bod yn araf ar y diwydiant twristiaeth ddechrau 2018 oherwydd y tywydd drwg, mae Baromedr Busnesau Twristiaeth Cymru yn dangos ei bod yn llawer gwell ar y  diwydiant erbyn hyn. Mae 33% o'r busnesau wedi gweld mwy o ymwelwyr yn ystod hanner tymor mis Mai/Mehefin o gymharu â'r llynedd, ac mae bron hanner ohonynt wedi gweld yr un niferoedd â’r llynedd.

Y rheswm mwyaf cyffredin o lawer am y gwelliant hwn yw’r tywydd gwell – dyna a ddywedwyd gan 56% o'r busnesau a welodd fwy o ymwelwyr.  Ar ôl y cynnydd hwn yn nifer yr ymwelwyr, mae 87% o'r rheini a gymerodd ran yn yr arolwg yn teimlo'n llawn hyder am yr haf sydd o'u blaen. 

Er mwyn cefnogi y dechrau da i’r flwyddyn bydd ymgyrch Blwyddyn y Môr Croeso Cymru yn parhau cyn gwyliau'r haf er mwyn sicrhau bod Cymru yn denu y pobl hynny sy'n chwilio am wyliau byr a diwrnodau allan yn ystod yr haf. 

Pwyslais ymgyrch ddigidol yr haf yw manteisio ar dueddiadau diwylliannol fel y 'diwylliant optio allan', gan dargedu pobl ifanc broffesiynol sydd am gael llonydd a throi eu cefn ar dechnoleg am y tro a chael profiadau yn hytrach na phethau materol. Bydd ymgyrch yr haf yng Nghymru ei hun yn hoelio sylw ar hyrwyddo 'Arfordiroedd Byw' ac ar ddangos yr holl amrywiaeth o brofiadau a phethau i'w gwneud ar hyd arfordir Cymru.  

Bydd llawer o brosiectau Blwyddyn y Môr, sy'n cael eu cyllido gan Lywodraeth Cymru, yn dwyn ffrwyth dros yr haf ac yn eu plith bydd anghenfil anhygoel o'r môr, a fydd i'w weld mewn deg lle ar hyd yr arfordir ac a fydd yn rhoi neges bwysig am foroedd glân. Yn crwydro'r wlad hefyd fydd 'Môr Cymru' – profiad realiti estynedig 7D a gynigir gan yr Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt. 

Dywedodd y Gweinidog Twristiaeth, yr Arglwydd Elis-Thomas: 

"Dros y misoedd diwethaf, dwi wedi gweld â'm llygaid fy hun ansawdd ac amrywiaeth yr hyn sydd gan Gymru i'w gynnig a pha mor galed mae’r diwydiant yn gweithio i roi’r  profiad gorau i ymwelwyr. Mae twristiaeth yn sector byd-eang hynod gystadleuol a byddwn ni'n parhau i gydweithio â'r diwydiant i wella hyd yn oed yn fwy ac i arloesi. Mae’n rhaid i ni barhau  i roi rhesymau cryf i bobl ymweld â Chymru – beth bynnag y tywydd.”