Neidio i'r prif gynnwy

Bydd awyren siarter yn cludo tua hanner miliwn o wisgoedd hanfodol sy’n gallu gwrthsefyll hylif ar gyfer GIG Cymru yn cyrraedd Maes Awyr Caerdydd (14.15 heddiw, 1 Mai 2020).

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Mai 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r awyren wedi cael ei threfnu drwy gysylltiadau yng Nghymru gan adnewyddu’r stoc o’r gwisgoedd hyn, sydd wedi bod yn brin.

Bydd y cargo, sydd wedi dod o Hangzhou yn Tsieina, yn cynnwys digon o wisgoedd sy’n gallu gwrthsefyll hylif am dri mis ar gyfer gwasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru, a bydd yn galluogi Cymru i roi cymorth i rannau eraill o’r DU os oes angen.

Mae cyfanswm o 660,000 o wisgoedd wedi cyrraedd Maes Awyr Caerdydd yr wythnos hon - cyrhaeddodd 200,000 o wisgoedd sy’n gallu gwrthsefyll hylif o Phnom Penh yn Cambodia ddydd Mawrth [28 Ebrill].

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:

Ers dechrau’r pandemig, rydyn ni wedi bod yn gweithio’n galed iawn i sicrhau bod gennym y cyflenwad priodol o gyfarpar diogelu personol i Gymru.

Mae’r coronafeirws wedi rhoi’r cyflenwadau dan bwysau ym mhob cwr o’r byd. Mae’r awyren heddiw’n ganlyniad i lawer o waith caled tu ôl i’r llenni i sicrhau cyflenwadau newydd o wisgoedd i’n gweithwyr rheng flaen. Mae’r cyflenwadau o’r gwisgoedd hyn wedi bod dan bwysau mawr ond mae’r stoc newydd sydd wedi cyrraedd yn golygu bod gennym ddigon ar gyfer yr wythnosau a’r misoedd nesaf.

Fe hoffwn i ddiolch i Faes Awyr Caerdydd, y fyddin a’r heddlu am eu cefnogaeth gyda’r cyflenwad hwn o gyfarpar diogelu personol, a fydd yn helpu i ddiogelu ein staff iechyd a gofal ar y rheng flaen.

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda Phartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru a’r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol i sicrhau cyflenwadau rhyngwladol newydd o gyfarpar diogelu personol yn ogystal â datblygu cadwyni cyflenwi newydd yng Nghymru, gan adeiladu ar yr ymateb aruthrol gan fusnesau a diwydiannau Cymru.

Ddydd Sadwrn, cyrhaeddodd 10 miliwn o fasgiau o Tsieina. Bydd y rhain yn cael eu defnyddio gan GIG Cymru ac mewn lleoliadau gofal cymdeithasol ac mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cymorth ar y cyd i’r Alban a Gogledd Iwerddon hefyd.

Dywedodd Deb Bowen Rees, Prif Swyddog Gweithredol Maes Awyr Caerdydd:

Rydyn ni’n eithriadol falch o fod yn cefnogi’r ymdrech genedlaethol yn ystod y cyfnod rhyfeddol yma. Mae’r maes awyr yn parhau ar agor, oherwydd mae’n hanfodol – fel rhan o seilwaith trafnidiaeth strategol Cymru – ein bod ni mewn sefyllfa o hyd i gefnogi hedfan hanfodol, yn yr achos yma galluogi i gyflenwadau gyrraedd timau rheng flaen cyn gynted â phosib.

Rydyn ni’n barod i gefnogi unrhyw hediadau eraill y mae Cymru a’r DU eu hangen yn ystod yr wythnosau a’r misoedd sydd i ddod ac yn edrych ymlaen at ddychweliad hediadau masnachol a’n cwsmeriaid ni cyn gynted ag y bydd y cyfyngiadau symud yma drosodd.

Mae cefnogaeth filwrol i ddadlwytho’r cyfarpar diogelu personol wedi cael ei ddarparu gan filwyr wrth gefn Cymry Brenhinol 3, sydd â’u pencadlys ym Marics y Maendy.

Dywedodd comander y gefnogaeth filwrol i Gymru yn ystod pandemig y coronafeirws, y Brigadydd Andrew Dawes CBE:

Mae’r fyddin yng Nghymru yn eithriadol falch o gefnogi Llywodraeth Cymru a GIG Cymru yn ystod y cyfnod allweddol yma wrth i ni i gyd dynnu gyda’n gilydd.

Mae’r milwyr sy’n rhan o’r dasg yma’n filwyr wrth gefn Cymru i gyd bron ac maent wedi gwirfoddoli i gefnogi eu cymunedau a’r GIG i ddarparu cefnogaeth ym Maes Awyr Caerdydd yr wythnos yma.

Dywedodd Lee Waters, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth:

Bydd y danfoniad hwn yn sicrhau bod cyflenwadau hanfodol o wisgoedd sy’n gallu gwrthsefyll hylif yn sefydlog yng Nghymru. Rydym wedi bod yn gweithio’n galed iawn yng Nghymru i sicrhau bod gennym ddigon o gyfarpar diogelu personol, gan ddefnyddio pob ffynhonnell sydd ar gael inni – ond rydym yn awyddus iawn i ddatblygu cyflenwadau a wnaed yng Nghymru i’n diogelu ein hunain yn erbyn unrhyw oedi a chymhlethdodau pellach.

Rydym wedi cael ymateb enfawr i’n galwad am wneuthurwyr yng Nghymru, yn fawr ac yn fach, a all gynhyrchu cyfarpar diogelu personol angenrheidiol, gan gynnwys amddiffynwyr wyneb, feisorau a sgrybs ac rydym yn eithriadol o ddiolchgar. Yn ogystal â sicrhau cadernid ein cadwyni cyflenwi, mae’r ymdrech hon yng Nghymru hefyd yn rhoi hwb cymdeithasol ac economaidd gwerthfawr i gymunedau ar draws Cymru ar yr adeg heriol hon. Rydym yn cadw golwg ar beth arall y gellir ei wneud yn lleol.