Neidio i'r prif gynnwy

Crynodeb o’r prif ganfyddiadau

Lle mae’r ddarpariaeth yn fwyaf effeithiol

Safonau

Mewn ychydig o ysgolion, mae gan ddisgyblion wybodaeth a dealltwriaeth drylwyr o hanes lleol a hanes Cymru.

Mewn ychydig iawn o ysgolion, lle mae hanes Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig wedi’i flaenoriaethu a’i gynllunio’n dda, mae disgyblion yn datblygu dealltwriaeth eang o hanes o sawl safbwynt.

Mae disgyblion mewn llawer o ysgolion yn mwynhau dysgu am hanes a diwylliant lleol a Chymru. Yn benodol, maent yn mwynhau gweithgareddau lle maent yn dysgu am arwyddocâd digwyddiadau ac unigolion lleol yng nghyd-destun hanes Cymru, Prydain a’r byd. Pan gânt gyfle i astudio hanes Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, mae disgyblion yn mwynhau astudio cyfraniad unigolion amrywiol at hanes. Wrth iddynt aeddfedu, mae disgyblion yn gwerthfawrogi sut bydd eu dealltwriaeth o hanes a diwylliant yn eu helpu i ddatblygu’n ddisgyblion moesegol a gwybodus o Gymru a’r byd. Mae disgyblion yn mwynhau trin arteffactau a thystiolaeth gyffyrddadwy, darllen nofelau wedi’u seilio ar ddigwyddiadau hanesyddol, defnyddio adnoddau digidol, a pharatoi a chyflwyno dadleuon wrth ystyried safbwyntiau gwahanol.

Pan gânt y cyfle i wneud hynny, mae disgyblion yn mwynhau dysgu am hanes, hunaniaeth a diwylliant lleol a Chymru. Er enghraifft, mae disgyblion yn mwynhau dysgu am ddigwyddiadau fel Tryweryn, Cilmeri a Therfysgoedd Beca. Yn benodol, maent yn mwynhau gweithgareddau lle maent yn dysgu am arwyddocâd digwyddiadau ac unigolion lleol yng nghyd-destun hanes Cymru, Prydain a’r byd. Pan gânt gyfle i astudio hanes Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, mae disgyblion yn mwynhau astudio cyfraniad unigolion amrywiol at hanes, fel John Ystumllyn, Martin Luther King, Harriet Tubman a Nelson Mandela. Wrth iddynt aeddfedu, mae disgyblion yn gwerthfawrogi sut bydd eu dealltwriaeth o hanes a diwylliant yn eu helpu i ddatblygu’n ddisgyblion moesegol a gwybodus o Gymru a’r byd. Mae disgyblion yn mwynhau trin arteffactau a thystiolaeth gyffyrddadwy, darllen nofelau wedi’u seilio ar ddigwyddiadau hanesyddol, defnyddio adnoddau digidol, a pharatoi a chyflwyno dadleuon wrth ystyried safbwyntiau gwahanol.

Darpariaeth

Mewn ychydig o ysgolion, mae staff yn defnyddio hanes lleol a hanes Cymru yn sbardun ar gyfer cynllunio testunau a chreu cysylltiadau rhwng hanes lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i ddatblygu dealltwriaeth disgyblion o’u lle yn y byd.

At ei gilydd, mae darpariaeth hanes Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig ar ei chryfaf mewn ysgolion mewn ardaloedd amlddiwylliannol ac amrywiol yng Nghymru.

Mae gan fwyafrif yr athrawon wybodaeth bynciol gyffredinol briodol am ardal leol eu hysgol a hanes Cymru. Hefyd, mae ganddynt wybodaeth bynciol addas am hanes rhyngwladol Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig.

Mae llawer o ysgolion yn cynllunio profiadau cyfoethogi gwerthfawr i ddisgyblion, gan gynnwys ymweliadau â mannau lleol o ddiddordeb. Mae llawer o ysgolion cynradd yn gwahodd preswylwyr a grwpiau lleol i rannu eu profiadau a hanes yr ardal. Mae ychydig o ysgolion uwchradd yn cynllunio cyfleoedd i grwpiau neu gymdeithasau hanes lleol ymgysylltu â disgyblion. Lle caiff hyn ei wneud yn dda, mae gweithgareddau’n tanio diddordeb a brwdfrydedd disgyblion tuag at hanes lleol a hanes Cymru. Mae’r rhan fwyaf o ysgolion yn trefnu darpariaeth addas i hyrwyddo diwylliant Cymru drwy weithgareddau’r cwricwlwm a digwyddiadau ysgol, gan gynnwys Eisteddfod ysgol. Mae’r rhan fwyaf o ysgolion cyfrwng Cymraeg yn cynnig cyfleoedd helaeth i ddisgyblion ddatblygu eu dealltwriaeth o’r Gymraeg a diwylliant Cymru, er enghraifft drwy gynnig cyfleoedd i ddisgyblion gymryd rhan mewn perfformiadau sy’n adrodd storïau a chwedlau lleol a Chymreig.

Mae amrywiaeth ethnig ysgolion cynradd ac uwchradd ar draws Cymru yn amrywio’n eang. Mae’r rhan fwyaf o ysgolion sydd wedi’u lleoli mewn cymunedau amlethnig yn gwahodd grwpiau ac unigolion lleol i siarad am ddiwylliannau, credoau, traddodiadau a hanesion gwahanol. Defnyddia ychydig o ysgolion mewn ardaloedd llai amrywiol dechnoleg ddigidol i feithrin cysylltiadau â grwpiau amlddiwylliannol, ac unigolion ac ysgolion sydd wedi’u lleoli mewn cymunedau amlethnig.

Arweinyddiaeth

Mae’r rhan fwyaf o uwch arweinwyr ac arweinwyr canol yn yr ysgolion y cysylltwyd â nhw yn nodi bod y Cwricwlwm i Gymru yn cynnig cyfle sylweddol i gyfoethogi a gwella addysgu hanes lleol a hanes Cymru.

Mae ychydig iawn o ysgolion yn dechrau ystyried safonau a chynnydd disgyblion mewn hanes lleol, Cymru a Phobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig i nodi a chynllunio meysydd i’w gwella.

Yn gyffredinol, mae partneriaethau AGA cyfredol yn cynnwys hanes Cymru mewn darpariaeth yn y brifysgol. Mae partneriaethau AGA yn dechrau datblygu eu darpariaeth ar gyfer addysgu gwrth-hiliaeth ac amrywiaeth mewn elfennau craidd ac elfennau pwnc.

Mewn ychydig o’r ysgolion y cysylltwyd â nhw, mae staff wedi ymgysylltu â sefydliadau ac elusennau allanol sy’n hyrwyddo cydraddoldeb hiliol yn ddiweddar i gynnig dysgu proffesiynol ar wrth-hiliaeth ac amrywiaeth yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig.

Lle mae’r ddarpariaeth yn llai cryf

Safonau

Mewn ychydig iawn o ysgolion, gwna disgyblion gysylltiadau ystyrlon rhwng eu hardal leol a hanes Cymru, Prydain a’r byd.

Mewn llawer o ysgolion, nid yw disgyblion yn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth gadarn a chydlynol o hanes eu hardal leol na hanes Cymru. Yn aml, mae hyn oherwydd nad yw cyfleoedd i astudio’r agweddau hyn yn cael eu cynllunio’n strategol. Yn gyffredinol, mae gallu disgyblion i alw digwyddiadau a bywyd hanesyddol yng Nghymru i gof ar ei gryfaf pan fyddant wedi ymweld ag amgueddfa neu safle hanesyddol sy’n dod â’r digwyddiadau hyn yn fyw.

Yn y rhan fwyaf o ysgolion a gafodd eu cynnwys yn yr arolwg, mae gan ddisgyblion wybodaeth a dealltwriaeth gyfyngedig o hanes pobl a chymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig. Gall llawer o ddisgyblion enwi unigolion o hanes rhyngwladol ond, yn gyffredinol, mae ganddynt ddealltwriaeth gyfyngedig o’u harwyddocâd hanesyddol.

Nid yw’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn gwybod am hanes unigolion a chymunedau Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yng Nghymru.

Mae faint o hanes Cymru a Phobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig sy’n cael ei astudio gan ddisgyblion TGAU a Safon Uwch yn dibynnu ar y pynciau sy’n cael eu dewis gan ddisgyblion, a’r testunau sy’n cael eu dewis o’r ystod sy’n cael eu cynnig gan y bwrdd arholi. Mae’r gwahaniaeth o ran faint o hanes Cymru a Phobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig sy’n cael ei gynnwys mewn testunau yn ei gwneud yn anodd asesu a chymharu gwybodaeth a dealltwriaeth disgyblion o hanes Cymru a Phobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig.

Darpariaeth

Mewn llawer o ysgolion, mae cynllunio’r cwricwlwm ar gyfer hanes lleol a hanes Cymru yn gyfyngedig.

Mewn lleiafrif o ysgolion cynradd, nid yw hanes lleol a hanes Cymru yn rhan annatod o gwricwlwm yr ysgol, a chânt eu hystyried yn elfen ‘ychwanegol’. Mewn llawer o ysgolion uwchradd, mae gwersi’n cynnwys cyfeiriadau brysiog yn unig at hanes lleol a hanes Cymru. Nid yw athrawon yn cynllunio cyfleoedd i ddisgyblion ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth gydlynys o’r ardal leol a Chymru ar draws cyfnodau hanesyddol. Caiff disgyblion ychydig iawn o gyfleoedd i greu cysylltiadau â digwyddiadau yn hanes Prydain a’r byd, a datblygu eu medrau hanes yng nghyd-destun hanes Cymru. Mae’r cyfleoedd i astudio hanes lleol a hanes Cymru yng nghyfnod allweddol 4 ac mewn hanes UG a Safon Uwch wedi’u cyfyngu i’r hyn a gynigir ym manylebau’r arholiadau.

Mae lleiafrif o ysgolion yn cynnwys hanes Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn eu cwricwlwm. Mae testunau’n canolbwyntio’n bennaf ar hanes rhyngwladol ac amrywiaeth ddiwylliannol mewn gwledydd heblaw Cymru. Ychydig iawn o ysgolion sy’n addysgu disgyblion am gyfraniad unigolion a chymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig at hanes Cymru.

Ychydig iawn o ysgolion sy’n archwilio neu’n mapio darpariaeth ar gyfer hanes Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig er mwyn sicrhau bod testunau fel gwrth-hiliaeth, tuedd ddiarwybod, rhagfarn ac amrywiaeth yn cael ffocws digonol yn eu cwricwlwm.

Mae diffyg gwaith pontio ar gyfer hanes yn gyffredinol yn golygu bod gan athrawon mewn ysgolion uwchradd ychydig iawn o wybodaeth am yr hyn y mae disgyblion wedi’i ddysgu am hanes lleol, hanes Cymru neu hanes Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yng nghyfnod allweddol 2. Mewn ychydig iawn o achosion, mae ysgolion cynradd clwstwr yn cydweithio â’i gilydd a’u hysgol uwchradd i gytuno ar yr hyn sy’n cael ei addysgu yng nghyfnod allweddol 2 a 3. Mewn lleiafrif o ysgolion uwchradd, mae ffactorau yn cynnwys ailadrodd testunau mewn cyfnodau allweddol, a ffocws cryf ar baratoi disgyblion ar gyfer asesiadau TGAU, yn cyfyngu ar faint o hanes lleol, hanes Cymru a hanes Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig y mae disgyblion yn ei astudio.

Nid oes gan y rhan fwyaf o athrawon yr wybodaeth i addysgu disgyblion yn effeithiol am gyfraniad unigolion a chymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig at hanes Cymru.

Arweinyddiaeth

Er bod llawer o arweinwyr yn cydnabod pwysigrwydd amrywiaeth, gwrth-hiliaeth a hanes a diwylliant Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, ni chaiff hyn ei adlewyrchu yn eu cynllunio strategol ar gyfer y cwricwlwm na’u harlwy dysgu proffesiynol i staff bob tro. Dim ond lleiafrif o ysgolion sy’n dechrau cynnwys yr agweddau hyn yn bwrpasol yn eu darpariaeth.

Er bod llawer o uwch arweinwyr yn nodi bod staff yn wybodus am hanes a diwylliant yr ardal leol a Chymru, nid oes llawer o dystiolaeth o sut mae ysgolion yn gwerthuso gwybodaeth a dealltwriaeth athrawon o hanes a diwylliant lleol, Cymru a Phobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig.

O’r athrawon y cysylltwyd â nhw a ymgymerodd â’u haddysg gychwynnol athrawon yng Nghymru, ychydig ohonynt yn unig a grybwyllodd eu bod wedi cael hyfforddiant ar hanes Cymru wrth gwblhau eu cyrsiau addysg gychwynnol athrawon (AGA). Ychydig iawn ohonynt a grybwyllodd eu bod wedi cael hyfforddiant mewn hanes a diwylliant Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig.

Yn y rhan fwyaf o ysgolion, ychydig iawn o ddysgu proffesiynol y gall athrawon fanteisio arno yn ymwneud â hanes a diwylliant lleol, Cymru a Phobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig. Ychydig iawn o ddysgu proffesiynol arbenigol y mae awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol yn ei gynnig ar y meysydd penodol hyn. O ganlyniad, mae bron pob ysgol yn dibynnu ar eu hyfforddiant mewnol eu hunain i gynllunio ac addysgu hanes lleol, Cymru a Phobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig.

Cyfeiria’r rhan fwyaf o’r ysgolion a gynhwyswyd yn yr arolwg at ddiffyg adnoddau addas ar gyfer addysgu hanes lleol, Cymru a Phobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig. Dywed llawer o athrawon eu bod yn cael trafferth dod o hyd i ffynonellau crai hanesyddol addas wrth gynllunio profiadau dysgu dilys ac ystyrlon, yn enwedig ar gyfer disgyblion cyfnod allweddol 2 a chyfnod allweddol 3.

Argymhellion

Dylai ysgolion a cholegau:

  • argymhelliad 1: sicrhau bod disgyblion yn datblygu eu gwybodaeth a dealltwriaeth o hanes a diwylliant eu hardal leol a Chymru, wrth ystyried safbwyntiau gwahanol a chreu cysylltiadau â hanes a diwylliant y byd ehangach
  • argymhelliad 2: sicrhau bod disgyblion yn datblygu dealltwriaeth o wrth-hiliaeth ac amrywiaeth, a sut y gallant ddod yn ddinasyddion moesegol a gwybodus Cymru a’r byd
  • argymhelliad 3: sicrhau bod disgyblion yn datblygu dealltwriaeth o sut mae unigolion a chymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn cyfrannu at hanes a diwylliant Cymru a’r byd ehangach 
  • argymhelliad 4: cryfhau trefniadau pontio fel bod profiadau dysgu ar gyfer hanes lleol, Cymru a Phobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn adeiladu ar rai’r cyfnodau allweddol blaenorol ac yn osgoi ailadrodd gwaith
  • argymhelliad 5: gwerthuso eu cwricwlwm a darpariaeth i gynllunio sut byddant yn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth disgyblion o hanes lleol a hanes Cymru, gwrth-hiliaeth ac amrywiaeth, a hanes a diwylliant Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig

Dylai awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol:

  • argymhelliad 6: cynnig cyfleoedd dysgu proffesiynol addas i athrawon ddatblygu eu gwybodaeth a dealltwriaeth o addysgu amrywiaeth, gwrth-hiliaeth, a hanes a diwylliant Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yng Nghymru a’r byd ehangach
  • argymhelliad 7: gynnig cyfleoedd dysgu proffesiynol addas i athrawon ddatblygu eu gwybodaeth am hanes lleol a hanes Cymru, ac i rannu arfer orau
  • argymhelliad 8: cynnig cyfleoedd dysgu proffesiynol i athrawon ddatblygu eu haddysgu o ran medrau pwnc penodol mewn hanes a’r dyniaethau, yn enwedig i athrawon nad ydynt yn arbenigwyr
  • argymhelliad 9: cynnig cymorth i ysgolion i werthuso eu cwricwlwm a darpariaeth gyfredol ar gyfer hanes a diwylliant lleol a Chymru, a hanes a diwylliant Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, a sut i gynllunio ar gyfer gwella

Ymateb Llywodraeth Cymru

Bydd swyddogion addysg yn ysgrifennu at awdurdodau lleol a chonsortia i dynnu eu sylw at yr argymhellion a osodir arnynt hwy ac ar ysgolion yn yr adroddiad hwn a'u cefnogi i gyflawni'r argymhellion hyn.

Rydym hefyd wedi ystyried canfyddiadau'r adroddiad fel rhan o'n paratoadau ar gyfer cyflwyno'r Cwricwlwm i Gymru. 

Cafodd y Cwricwlwm i Gymru ei ddatblygu gan ein proffesiwn addysgu gyda chymorth arbenigwyr ac mae'n rhoi hyblygrwydd i ysgolion gynllunio eu cwricwla i gefnogi dysgwyr, gydag ysgolion cynradd yn gweithredu'r cwricwlwm newydd o Medi 2022 ymlaen ac ysgolion uwchradd yn cael yr hyblygrwydd i weithredu o 2022 neu 2023. Pedwar diben y cwricwlwm yw'r weledigaeth a'r dyhead a rennir ar gyfer pob person ifanc ac maent yn orfodol ar gyfer cynllunio a datblygu cwricwlwm ysgol. Gan adeiladu ar hyn, bydd pob ysgol yn cael cyfle i gynllunio a gweithredu eu cwricwlwm eu hunain drwy’r dull cenedlaethol sy'n sicrhau cysondeb i ddysgwyr ledled y wlad.

Mae'r Cwricwlwm i Gymru hefyd yn cynnwys elfennau gorfodol yn y Datganiadau o'r Hyn sy'n Bwysig ar gyfer pob Maes Dysgu a Phrofiad (Maes). Mae'r Datganiadau o'r Hyn sy'n Bwysig yn cynnig cysyniadau lefel uwch ar gyfer pob Maes i alluogi dysgwyr i feithrin profiadau, gwybodaeth a sgiliau.

Mae astudio hanes Cymru a straeon am Gymru yn elfen bwysig o ran bodloni pedwar diben y cwricwlwm. Drwy’r Cod Datganiadau o'r Hyn sy'n Bwysig a Maes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau, mae hanes Cymru yn rhan orfodol o'r cwricwlwm.

Fe wnaethom ymgynghori’n eang ar y fersiynau drafft o 27 datganiad o’r hyn sy’n bwysig, chafwyd cefnogaeth eang iddynt. Gyda'i gilydd, roedd y datganiadau hyn yn cynrychioli'r hyn yr ydym am i bob dysgwr 16 oed yng Nghymru ei ddysgu.

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru gryfhau’r datganiadau o’r hyn sy’n bwysig ar gyfer Dyniaethau y dilyn ymgynghoriad yng ngwanwyn 2021 er mwyn sicrhau bod astudio hanes Cymru yn glir a gorfodol i bob ysgol a lleoliad.

Cyhoeddwyd y Cod Datganiadau o'r Hyn sy'n Bwysig dilynol gan Lywodraeth Cymru yn nhymor yr hydref 2021, ochr yn ochr â diweddariadau i ganllawiau fframwaith Cwricwlwm i Gymru ar-lein, gan gryfhau'r datganiadau ar hanes Cymru a chynnwys straeon Pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.

Gan ystyried y safbwyntiau a'r cyngor gan arbenigwyr, mae'r Datganiadau o'r Hyn sy'n Bwysig ar gyfer y Dyniaethau bellach yn datgan:

Drwy glywed straeon eu hardal leol a straeon Cymru yn gyson, yn ogystal â straeon y byd ehangach, gall dysgwyr ddatblygu dealltwriaeth o natur gymhleth, lluosieithog ac amrywiol cymunedau ddoe a heddiw. Mae’r straeon hyn yn amrywiol, yn cwmpasu gwahanol gymunedau, yn ogystal â straeon pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn enwedig. Mae hyn hefyd yn galluogi dysgwyr i ddatblygu dealltwriaeth gyffredin o hanes, treftadaeth ddiwylliannol, amrywiaeth ethnig, hunaniaethau, profiadau a safbwyntiau eu hardal leol, Cymru a’r byd yn ehangach.

Mae astudio hanes Cymru yn ei holl amrywiaeth a'i gymhlethdod yn glir ac yn orfodol i ysgolion a lleoliadau. Yn y Cwricwlwm i Gymru, bydd yn ofynnol i ddysgwyr glywed yn gyson â stori Cymru er mwyn i'r ysgolion hyn gyflawni eu dyletswyddau. I roi ein hymrwymiad cyffredin i ddysgu hanes Cymru y tu hwnt i amheuaeth, byddwn yn ymgynghori ar newidiadau pellach i’r Cod Datganiadau o’r Hyn sy'n Bwysig yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf i ddarparu cyfeiriad penodol at 'hanes Cymru a'r byd'. Byddwn yn cadarnhau bod y canllawiau statudol sy’n ategu hyn yn cefnogi’r newid hwn yn llawn.

Nododd Llywodraeth Cymru y cyhoeddiad ‘Hanes yn y Tir' fel adnodd defnyddiol i athrawon a darparwyd y llyfr i ysgolion ar ddechrau 2022 fel rhan o ystod o gamau gweithredu gan Lywodraeth Cymru i gefnogi'r gwaith o addysgu hanes Cymru mewn ysgolion.

Mae'r llyfr yn cyflwyno'n weledol hanes Cymru dros gyfnod o 5,000 o flynyddoedd ac yn trafod hanes Cymru o gyfnod y gymdeithas a'r aneddiadau cynharaf hyd at heddiw, gan ddefnyddio mapiau a darluniau i edrych ar bwyntiau pwysig yn ein gorffennol ac ar draws cymunedau. Mae'r llyfr yn esbonio'r ffordd y mae tirwedd Cymru wedi'i llunio gan ei hanes. Rydym bellach yn edrych ar sut y gallwn gefnogi athrawon ac ysgolion i ddefnyddio'r llyfr hwn fel rhan o'u haddysgu.

Byddwn yn comisiynu'r gwaith o ddatblygu llinell amser cyffredinol o hanes Cymru, ac yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid, gan gynnwys haneswyr ac academyddion, dros y misoedd nesaf i edrych ar ffyrdd pellach o gefnogi athrawon wrth i ni symud tuag at weithredu'r Cwricwlwm i Gymru yn llawn a rôl ganolog a chryfach hanes Cymru yn ei holl amrywiaeth.

Mae’r Rhwydwaith Cenedlaethol yn ystyried y materion allweddol yn ymwneud â rhoi’r cwricwlwm ar waith drwy sgyrsiau. Caiff y sgyrsiau hyn eu cynnal ar lefel genedlaethol a rhanbarthol mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a chonsortia rhanbarthol ac, fel y bo'n briodol, awdurdodau lleol. Maen yn adeiladu ar ddysgu proffesiynol ar lefel ranbarthol, gan ddod ag ymarferwyr ynghyd ledled Cymru i ddatblygu dulliau o ymdrin â materion gweithredu cenedlaethol.

Mae sgyrsiau’r Rhwydwaith Cenedlaethol yn cael eu harwain gan ymarferwyr addysgu ac yn agored i bob ysgol a lleoliad. Mae’r Rhwydwaith yn dwyn ynghyd athrawon o ysgolion, arbenigwyr cwricwlwm ac amrywiaeth o randdeiliaid i gydweithio i fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd i ddiwygio a nodi a mynd i'r afael â'r rhwystrau i weithredu’r Cwricwlwm i Gymru.

Ym mis Ebrill 2022, cynhaliodd Llywodraeth Cymru sgwrs Rhwydwaith Cenedlaethol ar hanes Cymru yn ei holl amrywiaeth. Casglodd y sgwrs hon safbwyntiau gan ysgolion a rhanddeiliaid i ddatblygu dulliau cyffredin o addysgu hanes lleol a hanes Cymru a sut all y Gymraeg a chymunedau amrywiol chwarae rhan hanfodol o ran hunaniaeth a pherthyn. Rydym nawr yn edrych ar sut y gallwn gefnogi athrawon ymhellach, gan gynnwys cynnal rhagor o sgyrsiau Rhwydwaith Cenedlaethol ar hanes a diwylliant Cymru, gan gynnwys hanesion a diwylliant Pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yng Nghymru, a hanes a sefyllfa bresennol y Gymraeg mewn cyd-destunau cenedlaethol a lleol.

Ochr yn ochr â’r gwaith ehangach ar weithredu’r Cwricwlwm i Gymru, penodwyd yr Athro Charlotte Williams OBE i gadeirio’r Gweithgor Cymunedau, Cyfraniadau a Chynefin Pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn y Cwricwlwm Newydd yn 2020. Cyhoeddodd y Grŵp ei adroddiad terfynol ym mis Mawrth 2021 a derbyniodd Llywodraeth Cymru yr holl argymhellion.

Bydd gweithredu’r argymhellion a wnaed yn yr adroddiad thematig Estyn fel rhan o’r gwaith o weithredu argymhellion y Gweithgor Cymunedau, Cyfraniadau a Chynefin Pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn y Cwricwlwm Newydd yn rhan annatod o addysgu a chyflwyno hanes Cymru i sicrhau bod addysgu hanes, hunaniaeth a diwylliant Cymru yn wirioneddol amrywiol, a'n bod yn galluogi dysgwyr i ddeall a datblygu ymdeimlad cryf o'u hunaniaeth a'u llesiant eu hunain fel rhan o'u cynefin.

Ym mis Mehefin 2022 fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru yr adroddiad blynyddol sy'n nodi'r cynnydd a wnaed wrth weithredu'r argymhellion hyn.

Mae'r cynnydd a wnaed hyd yma yn cynnwys cyhoeddi ein cynllun i recriwtio mwy o bobl o gefndiroedd ethnig lleiafrifol i Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA), sy'n amlinellu cyfres gychwynnol o gamau gweithredu. Mae’r gwaith o weithredu’r cynllun yn mynd rhagddo’n dda a dyma'r cam cyntaf mewn strategaeth ehangach y bydd angen gweithredu arni ar draws pob maes addysg os ydym am fynd i'r afael yn llawn â'r materion yn ymwneud ag anghydraddoldeb hiliol. Rydym wedi cyflwyno cymhelliant ariannol i ddenu ymgeiswyr o gefndiroedd ethnig lleiafrifol i ddilyn cyrsiau AGA o’r flwyddyn academaidd hon.

Rydym yn cydnabod bod llawer i'w wneud i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau ac mae cynyddu amrywiaeth yn y gweithlu yn parhau i fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Mae hyn nid yn unig o ran cynrychiolaeth yn yr ardaloedd hynny sydd â demograffeg ethnig lleiafrifol uwch ymhlith dysgwyr ond ar draws pob rhan o Gymru.

Rydym wedi cyflwyno categori newydd i Wobrau Addysgu Proffesiynol Cymru o'r enw "Gwobr Betty Campbell MBE am hyrwyddo cyfraniadau a safbwyntiau cymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol". Mae'r wobr yn hyrwyddo ac yn dathlu cynhwysiant ac yn cydnabod ymwybyddiaeth ragorol o bwysigrwydd addysg gynhwysol fel rhan o gymdeithas sy'n wynebu ac yn mynd i'r afael â hiliaeth o bob math. Ysgol Uwchradd Llanwern oedd y cyntaf i dderbyn y wobr ym mis Gorffennaf.

Rydym wedi cynnal trafodaethau gyda chyrff llywodraethu i weld sut y gallent ddylanwadu ar ysgolion a'u harwain i hyrwyddo amrywiaeth, a phrofwyd a datblygwyd disgrifiad rôl enghreifftiol ar gyfer Hyrwyddwyr Cydraddoldeb ac Amrywiaeth gyda swyddogion cymorth llywodraethwyr o awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol. Ar wahân, sefydlwyd gweithgor o swyddogion cymorth llywodraethwyr i adolygu canllawiau cwyno ysgolion gyda'r bwriad o'u cryfhau o ran cwynion am wahaniaethu. Nododd rhai ysgolion yr angen am hyfforddiant pellach ac, mewn ymateb i'r canfyddiadau, mae cymorth pellach i lywodraethwyr wedi'i gynnwys yn Llythyr Cylch Gwaith yr Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol ar gyfer 2022 i 2026 i ymdrin â'r bwlch. Bydd yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol yn arwain y gwaith o ddatblygu adnoddau i gefnogi rôl yr Hyrwyddwr Cydraddoldeb ac Amrywiaeth ar gyrff llywodraethu ysgolion, gyda'r nod o arwain at ddull ysgol gyfan o ddathlu amrywiaeth mewn ysgolion.

Ym mis Mawrth, fe wnaethom gomisiynu deunyddiau ategol newydd ar gyfer athrawon i'w galluogi a'u paratoi i addysgu hanes a chyfraniadau Pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol fel rhan o stori Cymru. Mae'r cyflenwr llwyddiannus yn gweithio gydag amrywiaeth o sefydliadau allanol i ddatblygu'r deunyddiau ar gyfer athrawon a fydd yn eu paratoi i gynnwys addysgu am hanesion a chymunedau ethnig lleiafrifol yn yr ystyr ehangaf a dylai gynnwys, er enghraifft, cymunedau Eidaleg, Gwyddelig, Pwyleg a Sipsiwn, Roma a Theithwyr, fel rhan o stori Cymru. Rydym yn disgwyl i’r adnoddau hyn fod ar gael ym mis Mawrth 2023.

Rydym hefyd yn comisiynu deunyddiau ategol er mwyn galluogi athrawon i gynllunio eu cwricwlwm i adlewyrchu hanes a chymunedau amrywiol Cymru. Mae hyn yn cynnwys datblygu llinell amser i gefnogi addysgu a dysgu hanesion a chyfraniadau Pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol ynghyd â map rhyngweithiol o Gymru.

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gydag amrywiaeth o randdeiliaid ar y maes gwaith hwn gan gynnwys Estyn, Consortia Rhanbarthol, a chadeirydd y Gweithgor Cymunedau, Cyfraniadau a Chynefin Pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn y Cwricwlwm Newydd, sydd wedi cytuno i gefnogi Llywodraeth Cymru i weithredu'r argymhellion mewn rôl gynghori.

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • argymhelliad 10: gydweithio ag awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol i sicrhau bod yr arlwy dysgu proffesiynol genedlaethol yn rhoi blaenoriaeth uchel i ddatblygu hyfforddiant ac adnoddau ar gyfer gwrth-hiliaeth, amrywiaeth ac addysgu hanes a diwylliant lleol, Cymru a Phobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig

Ymateb a derbyn

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda chonsortia rhanbarthol ac amrywiaeth o sefydliadau ac asiantaethau eraill i ddatblygu dysgu proffesiynol penodol mewn ymateb i ofynion y cwricwlwm newydd i gefnogi'r gwaith o ddatblygu sgiliau newydd ar gyfer ymarferwyr ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru.

Cyflwynwyd nifer o argymhellion i Lywodraeth Cymru ar gyfer cefnogi ymarferwyr yn adroddiad terfynol y Gweithgor Cymunedau, Cyfraniadau a Chynefin Pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn y Cwricwlwm Newydd a Chynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol Llywodraeth Cymru. Roedd yr argymhellion yn cynnwys datblygu ystod o ddysgu proffesiynol fel hyfforddiant ar wrth-hiliaeth a chynhwysiant a hanes a chyfraniadau pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol at stori Cymru.

Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â Phrifysgol Fetropolitan Caerdydd, y tîm gweithredol, aelodau o Rwydwaith BAME Ed (Cymru) a chlymblaid o bartneriaid sydd ag ystod amrywiol o arbenigedd, profiad byw a phroffesiynol i ddatblygu cymorth dysgu proffesiynol newydd i ysgolion. Mae amrywiaeth o bartneriaid allweddol a sefydliadau cymunedol ar lawr gwlad yn cyfrannu at y gwaith hwn ynghyd â sefydliadau eraill megis Cyngor Celfyddydau Cymru a Llenyddiaeth Cymru. Mae'r gwaith allgymorth ar gyfer partneriaid yn parhau. Teitl swyddogol y prosiect hwn yw Dysgu Proffesiynol ar Amrywiaeth a Gwrth-hiliaeth (DARPL).

Ym mis Mawrth 2022, cynhaliodd tîm DARPL ddigwyddiad Mewnwelediad Polisi Llywodraeth Cymru gyda 70 o fynychwyr byw. Cynlluniwyd y digwyddiad hwn i godi ymwybyddiaeth o brosiect DARPL a'r datblygiadau cadarnhaol iawn ar lawr gwlad hyd yma i gefnogi ysgolion i fynd i'r afael â materion a newidiadau sylweddol, sensitif a chymhleth er mwyn symud i amgylchedd gwrth-hiliol ym mhob un o'n hysgolion. Mae recordiad llawn o'r digwyddiad ar gael ar Hwb. Cafodd y recordiad hwn hefyd ei ffrydio ar sianel Cymru yn ystod Uwchgynhadledd Addysg y Byd a gynhaliwyd ym mis Mawrth.

Mae campws rhithiol newydd ar gyfer Dysgu Proffesiynol ar Amrywiaeth a Gwrth-hiliaeth (DARPL) wedi cael ei ddatblygu a’i lansio er mwyn darparu lle canolog i ysgolion hyrwyddo digwyddiadau sydd i ddod, ymchwil ac adnoddau newydd, ac i ddangos y partneriaid sy'n ymwneud â DARPL.

Mae'r consortia rhanbarthol a phartneriaethau wedi bod yn bartneriaid allweddol ym mhrosiect DARPL, gan gynnig dysgu proffesiynol, cyngor a chymorth, deunyddiau adolygu gan gymheiriaid a chefnogi'r gwaith o hyrwyddo rhaglenni.

Dyrannwyd arian ychwanegol hefyd i’r consortia rhanbarthol i gael eu cefnogaeth i ddatblygu a chyflwyno rhaglenni dysgu proffesiynol cenedlaethol ar feysydd allweddol a sicrhau eu bod yn rhan o’r cymorth ar gyfer y meysydd pwysig hyn o Ddysgu Proffesiynol wrth symud ymlaen.

Bydd cyllid arall yn galluogi sefydliadau ac asiantaethau ehangach (gan gynnwys sefydliadau'r trydydd sector) i gael eu cynnwys a'u cefnogi i ddatblygu cynigion dysgu proffesiynol penodol sy'n ymateb i ofynion y cwricwlwm newydd fel y bo'n briodol.

Ym mis Ebrill, cynhaliwyd sgyrsiau gydag athrawon drwy’r Rhwydwaith Cenedlaethol a ganolbwyntiodd ar hanes Cymru a hanes pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol. Mae'r adborth a gafwyd o'r sesiynau hyn yn helpu i lywio’r Cwricwlwm i Gymru, sy'n cael ei adolygu'n barhaus, ac yn benodol rhaglen dysgu proffesiynol Llywodraeth Cymru. Rydym bellach yn ystyried sut y gallwn weithio gyda rhanddeiliaid allanol, gan gynnwys prifysgolion a haneswyr, i greu cyfleoedd dysgu pellach i athrawon:

  • argymhelliad 11: cydweithio â Cymwysterau Cymru i sicrhau bod cymwysterau TGAU a Safon Uwch yn y dyfodol yn cynnwys cyfleoedd i ddisgyblion ddatblygu eu dealltwriaeth o hanes a diwylliant lleol, Cymru a Phobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig

Ymateb a derbyn

Mae adolygiad Cymwysterau Cymru o'r cymwysterau presennol a’r gwaith o ddatblygu cyfres newydd Cymru o gymwysterau cyffredinol yn mynd rhagddo dan y prosiect “Cymwys ar gyfer y Dyfodol”. Mae Cymwysterau Cymru’n parhau i weithio'n agos gyda'r sector a rhanddeiliaid ehangach i gyd-lunio cynigion ar gyfer set o gymwysterau o ansawdd uchel sy'n cyd-fynd ag athroniaethau'r cwricwlwm newydd, ac i fanteisio ar gyfleoedd sy'n dod i'r amlwg o ran dulliau asesu. Mae Cymwysterau Cymru yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus i brofi a helpu i fireinio'r cynigion drafft hyn ymhellach. Mae diwygio cymwysterau ar gyfer pobl ifanc 14 i 16 oed (TGAU a chymwysterau ehangach) yn chwarae rhan bwysig o ran sicrhau bod y cwricwlwm newydd yn cael ei weithredu'n llwyddiannus ac i alluogi gwireddu'r cyfleoedd a gyflwynir gan y Cwricwlwm i Gymru yn llawn.

Mae codi proffil hanes Cymru mewn ysgolion yn un o brif flaenoriaethau Llywodraeth Cymru sydd wedi cael mwy o sylw ar ôl ei chynnwys yn y Cytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru. Mae'r Cwricwlwm i Gymru, ar draws pob maes, yn pwysleisio pwysigrwydd gosod dysgu yn ei gyd-destunau lleol a chenedlaethol. Mae Maes y Dyniaethau yn amlinellu methodoleg ar gyfer dewis cynnwys ar gyfer hanes, gan gyfeirio ysgolion a lleoliadau at yr angen i glywed yn gyson am stori ardal y dysgwyr, Cymru a'r byd ehangach.

Cymwysterau Cymru sy'n arwain y prosiect diwygio sylweddol ar gyfer ein system gymwysterau. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod cymwysterau TGAU a'r cymwysterau 14 i 16 ehangach (cynnwys y cymhwyster a’r trefniadau asesu) yn adlewyrchu ac yn gallu cefnogi Fframwaith y Cwricwlwm i Gymru a diwallu anghenion dysgwyr yn y dyfodol.

Fel rhan o'r broses gyd-lunio, cafodd pob gweithgor ar lefel pwnc sydd â'r dasg o lunio syniadau ar gyfer gofynion cymwysterau ar gyfer pynciau unigol set gyffredin o bapurau gwybodaeth gefndir ar yr agweddau ar gymwysterau yn y dyfodol y bydd yn ofynnol iddynt eu hystyried. Roedd yn cynnwys amlinelliad o ddisgwyliadau Llywodraeth Cymru o ran sut bydd cyfres newydd Cymru o gymwysterau yn cyfrannu at ein uchelgeisiau a’n hymrwymiadau. Mae disgwyliadau penodol wedi’u cynnwys hefyd bod natur gyd-ddibynnol, gymhleth ac amrywiol hanes Cymru, gan gynnwys hanes Pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, yn cael ei adlewyrchu'n llawn yn yr ymarfer hwn. Er enghraifft, mae un o’r papurau hyn yn canolbwyntio ar amlddiwylliannaeth ac amrywiaeth a sicrhau y caiff yr ystyriaethau hyn eu hymgorffori wrth gynllunio cymwysterau newydd ym mhob maes pwnc, nid dim ond yn y rhai mwyaf amlwg fel hanes. Bydd y papur hwn yn cyfeirio'n benodol at y gwaith a'r argymhellion yn adroddiad yr Athro Williams.

Mae Cymwysterau Cymru wedi ac yn parhau i ymgysylltu â'r dystiolaeth ymchwil ddiweddaraf ynghylch materion yn ymwneud â chynrychiolaeth Pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn y cwricwlwm a chymwysterau, megis yr adroddiad diweddar ar lenyddiaeth mewn lliw a gyhoeddwyd gan Ymddiriedolaeth Runnymead (Saesneg yn unig), a byddant yn defnyddio canfyddiadau ymchwil o'r fath i helpu i lywio eu syniadau.

Fel rhan o'u hymgysylltiad â rhanddeiliaid yn ystod y broses gyd-lunio, mae Cymwysterau Cymru’n parhau i sicrhau eu bod yn ymgysylltu ag ystod eang o grwpiau sy'n cynrychioli Pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol. Mae hyn er mwyn sicrhau bod y grwpiau cynrychioliadol hyn yn gallu rhannu eu barn, eu profiad a'u persbectif drwy gydol y broses o ddatblygu cymwysterau.

Mae Cymwysterau Cymru wedi ymrwymo i archwilio'r potensial i ymgorffori mwy o hyblygrwydd yng nghynnwys ac asesu cymwysterau ac annog cyrff dyfarnu i adlewyrchu hyn mewn manylebau. Dylai hyn ganiatáu i ysgolion gael mwy o ymreolaeth a rhyddid yn y pynciau y maent yn dewis eu haddysgu. Dylai hyn annog ysgolion i ddarparu profiadau addysgu a dysgu amrywiol, gan gynnwys o amgylch grwpiau Pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, yn y cyfnod cymwysterau.

Manylion cyhoeddi

Cafodd yr adroddiad ei gyhoeddi ar 7 Hydref 2021 a gellir ei weld ar wefan Estyn.