Neidio i'r prif gynnwy

Rhagor o wybodaeth am rôl Uwch-swyddog Ymchwil yn Llywodraeth Cymru

Mae gan Uwch-swyddogion Ymchwil rôl debyg i Swyddogion Ymchwil ond eu bod yn ysgwyddo mwy o gyfrifoldeb o fewn y tîm. Bydd Uwch-swyddog Ymchwil yn arwain prosiectau ymchwil unigol a bydd ganddynt fwy o annibyniaeth yn eu gwaith.

Mae'r prif ddyletswyddau yn cynnwys y canlynol: 

  • arwain o ran rheoli a chyflawni prosiectau ymchwil
  • cynorthwyo timau polisi i nodi eu hanghenion tystiolaeth a mynd i'r afael â nhw
  • datblygu cysylltiadau strategol â'r gymuned ymchwil ehangach yng Nghymru a'r DU

Yn y fideo, mae Rhys yn sôn am y profiad o fod yn Uwch-swyddog Ymchwil i Lywodraeth Cymru.

Gyrfaoedd Ymchwil Cymdeithasol

Darganfyddwch rolau eraill Ymchwil Cymdeithasol o fewn Llywodraeth Cymru.