Swyddogion Ymchwil
Rhagor o wybodaeth am rôl Swyddog Ymchwil yn Llywodraeth Cymru
Mae Swyddogion Ymchwil yn helpu cydweithwyr polisi, dadansoddwyr eraill a phartneriaid allanol i gwmpasu a chynllunio prosiectau ymchwil i gefnogi blaenoriaethau adrannol.
Mae'r prif ddyletswyddau yn cynnwys y canlynol:
- cyfrannu at gomisiynu a rheoli contractau allanol
- cynnal gwaith dadansoddi data mewnol a phrosiectau ymchwil ar raddfa fach
- cyfleu canfyddiadau ymchwil i randdeiliaid amrywiol.
Yn y fideo hwn, mae Anna yn sôn am y profiad o fod yn Swyddog Ymchwil i Lywodraeth Cymru.
Gyrfaoedd Ymchwil Cymdeithasol
Darganfyddwch rolau eraill Ymchwil Cymdeithasol o fewn Llywodraeth Cymru.