Prif Swyddog Ymchwil
Rhagor o wybodaeth am rôl Prif Swyddog Ymchwil yn Llywodraeth Cymru
Mae Prif Swyddogion Ymchwil (Gradd 7) yn gyfrifol am arwain timau ymchwil ac am ddatblygu a goruchwylio rhaglenni ymchwil yn eu meysydd polisi.
Mae'r prif ddyletswyddau yn cynnwys y canlynol:
- gweithio ar draws adrannau i nodi a blaenoriaethu anghenion tystiolaeth a chyflawni yn erbyn yr anghenion hynny
- sefydlu a chynnal perthynas â rhanddeiliaid allweddol
- rhoi cyngor i Weinidogion sydd wedi'i seilio ar dystiolaeth
- cefnogi datblygiad a lles eu tîm ymchwil
Yn y fideo, mae Rhian yn sôn am y profiad o fod yn Brif Swyddog Ymchwil i Lywodraeth Cymru.
Gyrfaoedd Ymchwil Cymdeithasol
Darganfyddwch rolau eraill Ymchwil Cymdeithasol o fewn Llywodraeth Cymru.