Teg a chynhwysol
Lles staff yw ein prif flaenoriaeth
Rydym yn cydnabod ein bod yn fwy llwyddiannus a chreadigol pan fyddwn yn amrywiol. Cynhwysiant yn helpu i wneud penderfyniadau yn fwy effeithiol ac yn sicrhau bod ein mae polisïau'n adlewyrchu anghenion pawb yng Nghymru.
Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan bawb, gan gynnwys grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli ar hyn o bryd yn ein gweithlu fel pobl o bobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, pobl LHDTI+ a phobl anabl.
Model cymdeithasol o anabledd
Rydyn ni’n dilyn y model cymdeithasol o anabledd.
Nod Addasiadau yn y Gweithle yw cael gwared ar y rhwystrau sy’n analluogi. Gall y rhain fod yn addasiadau ffisegol neu fel arall, a gellir cytuno arnyn nhw a’u diwygio gydol y broses recriwtio ac ar ôl ymuno.
Rhwydweithiau amrywiaeth staff
Mae ein rhwydweithiau amrywiaeth staff yn rhoi llais i grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol. Mae’n gyfle i gwrdd ag eraill a rhannu profiadau, problemau a syniadau a chymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol. Mae’r rhwydweithiau hefyd yn gweithredu fel cyrff cynghori i lunwyr polisi mewnol.
Undebau llafur
Yn Llywodraeth Cymru, mae’r berthynas rhwng y cyflogwr a’r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol.
Gofalwch fod eich llais yn cael ei glywed drwy ymuno ag un o’n tri undeb llafur cydnabyddedig:
- y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol (PCS)
- Prospect
- FDA
Sefydliad gwrth-hiliol
Rydyn ni wedi ymrwymo i fod yn sefydliad Gwrth-hiliol a gweithio tuag at wneud Cymru’n genedl wrth-hiliol.
Cyflogwr gyfeillgar
Mae’r Ysgrifennydd Parhaol wedi llofnodi’r Adduned Menopos yn y Gweithle gan ymrwy - mo i fod yn gyflogwr sy’n menopos gyfeillgar. Mae gennym rwydwaith menopos ffyniannus.
Rydyn ni hefyd wedi llofnodi adduned y Gweithle Endometriosis Gyfeillgar.
Cynllun gwarantu cyfweliad
Rydyn ni’n gwarantu cyfweliad i unrhyw berson anabl neu gyn-filwr o’r Lluoedd Arfog y mae ei gais yn bodloni’r meini prawf gofynnol ar gyfer y swydd.
Addewid Changing Faces
Rydyn ni wedi llofnodi Adduned i Gael ein Gweld Changing Faces, sy’n ein hymrwymo i annog mwy o bobl sydd â gwahaniaeth gweladwy i ymuno â’n sefydliad.