Tâl, pensiynau a buddion
Cyflogwr Cyflog Byw
Drwy gynnig cyflogau cystadleuol, pensiwn hael, cynrychiolaeth Undebau Llafur ac ystod eang o fuddion i weithwyr, mae Llywodraeth Cymru yn arwain y ffordd fel Cyflogwr Cyflog Byw.
Cyflogau cystadleuol
Mae ein cyfraddau cyflog cystadleuol yn cymharu’n ffafriol ag Adrannau Gwasanaeth Sifil eraill.
Mae cynnydd cyflog cynyddrannol yn caniatáu i staff symud ymlaen i uchafswm y band cyflog o fewn tair blynedd.
Pensiynau’r Gwasanaeth Sifil
Mae’r holl staff wedi’u cofrestru’n awtomatig ar Alpha, sef Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil, gyda chyfraniadau hael gan y cyflogwr yn amrywio o 26.6% i 30.3% yn dibynnu ar gyflog.
Manteision ychwanegol
Rydyn ni’n cynnig amrywiaeth o fuddion ychwanegol i weithwyr:
- gan gynnwys Cynllun Beicio i’r Gwaith
- cynllun cynilo drwy’r gyflogres gydag Undeb Credyd
- gostyngiad o 5% ar docynnau tymor blynyddol ar y trenau
Gwyliau Blynyddol Hael
Mae pob cydweithiwr ar delerau ac amodau Llywodraeth Cymru yn elwa ar:
- 31 diwrnod o wyliau blynyddol â thâl
- 8 gwyliau banc
- 2 gwyliau braint
Absenoldeb rhiant
26 wythnos o dâl llawn ar gyfer absenoldeb mamolaeth a mabwysiadu, a 3 wythnos o dâl llawn ar gyfer absenoldeb tadolaeth i gefnogi chi a'ch teulu.
Gweithio’n Glyfar
Mae gennym ddull hybrid o weithio o bell, yn y swyddfa neu ar y safle gyda mannau gwaith ledled y wlad. Ar gyfer llawer o swyddi gallwch gytuno ar sut a ble rydych yn gweithio i wneud y mwyaf o'ch cynhyrchiant a lles.