Neidio i'r prif gynnwy
Working with us logo

Gweithiwch ar draws nifer o sectorau ac adrannau

Bydd gweithio gyda ni yn rhoi cyfle i chi wneud gwahaniaeth i fywydau pobl ar draws Cymru gyfan.  Mae’n ddewis gwych ar gyfer gyrfa hir ac amrywiol. 

Ein gwerthoedd

Mae tegwch, creadigrwydd, partneriaeth, a phroffesiynoldeb wrth wraidd sut rydyn ni’n gweithio. Rydyn ni’n cynnig amgylchedd gwaith hyblyg a chefnogol gyda lles gweithwyr yn flaenoriaeth ac rydyn ni’n angerddol dros annog ein holl weithwyr i wireddu eu potensial, waeth beth fo’u cefndir.

Amrywiaeth o gyfleoedd

P’un a oes gennych chi ddiddordeb mewn cefnogi ein nod o gyrraedd Cymru Sero Net, gofal iechyd cynaliadwy o ansawdd uchel, diwygio addysgol, neu yn ein gweledigaeth o ddod yn genedl Wrth-hiliol, mae digon o gyfleoedd i wneud gwahaniaeth gyda ni.

Gweithio gyda’n gilydd dros Gymru well

Gweithiwch mewn amgylchedd cadarnhaol, cynhwysol i gefnogi’r Prif Weinidog a Gweinidogion Cymru i adeiladu Cymru decach, wyrddach, fwy cyfartal nawr ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. 

Gyda chydweithio wrth wraidd popeth a wnawn, mae cyfleoedd hefyd i chi weithio gyda phartneriaid ar draws y gwasanaeth cyhoeddus.

Proffesiynau

Mae 27 o broffesiynau yn ein sefydliad, sy’n cynrychioli cydweithwyr sy’n gweithio mewn meysydd mor amrywiol â: 

  • chyfathrebu
  • gwyddoniaeth
  • polisi
  • arolygiaethau
  • adnoddau dynol
  • arolygu
  • thechnoleg ddigidol

Mae pob proffesiwn yn cael ei arwain gan uwch noddwr ac mae aelodau’n derbyn diweddariadau rheolaidd ar gyfleoedd hyfforddi a datblygu sy’n berthnasol i’w proffesiwn.

Professiynau dan sylw

Gwnewch wahaniaeth gyda Llywodraeth Cymru

Mae gennym ni gyfleoedd i bawb.