Eich lles
Eich lles chi yw ein blaenoriaeth
Mae gennym amrywiaeth o gynigion i sicrhau bod ein cydweithwyr yn derbyn gofal da.
Rhaglen Cymorth i Weithwyr 24/7
Fel gweithiwr Llywodraeth Cymru byddwch yn cael mynediad i ein Rhaglen Cymorthi Weithwyr cyfrinachol am ddim ar gael 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn.
Iechyd galwedigaethol
Fynediad at ein Gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol gyda chyngor meddygol annibynnol os yw iechyd a gwaith yn effeithio ar ei gilydd.
Yr awr lesiant
Mae’r Awr Lesiant yn caniatáu i bawb dreulio cyfnod yn ystod yr wythnos waith yn ymroi i weithgaredd iechyd neu les, er enghraifft cerdded, myfyrio neu ymarfer corff.
Cynghreiriaid iechyd meddwl
Mae ein Cynghreiriaid Iechyd Meddwl yn rhwydwaith o wirfoddolwyr o fewn Llywodraeth Cymru y gallwch droi atynt am gyngor a chymorth fel unigolyn neu fel rheolwr llinell.
Mae Employers for Carers yn darparu cyngor a chymorth i ofalwyr a’u rheolwyr llinell.
Profion llygaid am ddim
Mae gennym gynllun prawf llygaid sy’n caniatáu i staff wneud cais am brawf llygaid gydag optegydd o’u dewis bob dwy flynedd a byddwn yn talu’r bil.
Canolfan ffitrwydd
Mae Canolfan Ffitrwydd ar y safle ar gael yn ein swyddfa ym Mharc Cathays Caerdydd.
Ymunwch â Chyngor Chwaraeon y Gwasanaeth Sifil i ddefnyddio’r ganolfan a manteisio ar yr ystod eang o weithgareddau, gostyngiadau a chynigion am ddim.
Amrywiaeth o batrymau gwaith
Rydym yn cynnig amrywiaeth o patrwm gwaith, gan gynnwys:
- rhan-amser
- rhannu swyddi
- oriau cywasgedig
- gweithio yn ystod y tymor
Absenoldeb arbennig
Hyd at 5 diwrnod o wyliau â thâl ar gyfer gwirfoddoli, absenoldeb arbennig i gyflawni dyletswyddau cyhoeddus neu ddelio â materion domestig.
Elusen ar gyfer Gweision Sifil
Mae’r Elusen ar gyfer Gweision Sifil yn darparu cefnogaeth ymarferol, ariannol ac emosiynol i Weision Sifil, ddoe a heddiw.