Datblygiad gyrfa
Dysgu a datblygu
Rydyn ni’n angerddol am eich datblygiad a’ch dyfodol ac yn falch o gynnig amgylchedd lle gall ein gweithwyr ddatblygu a ffynnu.
Hyfforddiant
Rydyn ni’n eich annog i fabwysiadu dull dysgu hunangyfeiriedig, gan chwilio am y cyfleoedd sy’n gweddu i’ch arddull ddysgu a’ch anghenion dysgu o’n catalog dysgu helaeth.
Gallwch gael mynediad ar-lein, wyneb yn wyneb a thrwy e-ddysgu drwy ein Lab Dysgu a Champws y Llywodraeth.
Lleoliadau profiad tymor byr
Mae ein lleoliadau profiad tymor byr yn cynnig cyfleoedd cysgodi a phrofiad gwaith ledled y sefydliad a thu hwnt.
Gallwch hefyd manteisio ar rwydweithiau proffesiynol, hyfforddiant, mentora, cyfeillio a chysgodi.
Hyfforddi a mentora
Mae ein Rhwydwaith Coetsio a Mentora mewnol ar gael i bawb, ar bob gradd ac ar unrhyw gam o’ch gyrfa.
Rydyn ni hefyd yn cynnig mentora o chwith, lle mae unigolion sydd â phrofiad penodol a byw yn mentora uwch-gydweithwyr.
Cyfleoedd i gamu ymlaen yn fewnol
Mae cyfleoedd camu ymlaen yn fewnol yn cynnwys y gallu:
- i symud o gwmpas y sefydliad ar yr un radd
- gweithio ar radd uwch dros dro er mwyn ennill profiad
Ac mae cyfleoedd am ddyrchafiad parhaol ar gael yn rheolaidd hefyd
Secondiadau a benthyciadau
Mae secondiadau a benthyciadau yn gyfle gwych i brofi sefydliadau ac adrannau’r llywodraeth eraill.
Rydyn ni’n aml yn cefnogi opsiynau mewnol ac allanol i unigolion fel ffordd o rannu, datblygu a chynyddu gwybodaeth rhwng timau a sefydliadau.