Neidio i'r prif gynnwy

Wrth ymweld â bwyty Dylan’s yn Llandudno, dywedodd Lesley Griffiths, y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru fod y diwydiant lletygarwch yn cynnig gyrfaoedd gwerth chweil, amrywiol a chyffrous.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Awst 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Dylan's yn cynnal ei academi hyfforddi lletygarwch ei hunan, mewn partneriaeth â Grŵp Llandrillo Menai, gyda'r bwriad o greu rhaglen hyfforddiant prentisiaeth gynaliadwy a hygyrch i bobl ifanc sy'n ceisio dod o hyd i yrfa foddhaol a gwerth chweil mewn lletygarwch, gyda swydd yn cael ei chynnig ar ddiwedd eu cwrs.

Mae Dylan's hefyd wedi cefnogi ymgyrch recriwtio Croeso Cymru a lansiwyd i annog mwy o bobl i ddiwydiant twristiaeth a lletygarwch Cymru i fynd i'r afael â’r prinder staff sy'n bodoli ledled y wlad ar hyn o bryd.

Gydag amrywiaeth enfawr o rolau yn cael eu cynnig ar hyn o bryd, mae Croeso Cymru, yn dod â lleisiau o bob rhan o'r sector ynghyd i dynnu sylw at fanteision niferus gweithio yn y sector lletygarwch – a helpu i roi profiadau gwych i westeion a chwsmeriaid.

Mae'r ymgyrch mewn partneriaeth â Cymru'n Gweithio, yn darparu un llwybr syml i bobl ifanc rhwng 16-24 oed yng Nghymru gael mynediad i'r sector drwy gynnig Gwarant i Bobl Ifanc. Mae'n annog pobl i ymuno â'r 'gwneuthurwyr profiadau' ac yn tynnu sylw at y cyfleoedd gyrfa niferus ac amrywiol yn y sector.

Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, Lesley Griffiths:

"Mae hi wedi bod yn wych clywed am y gwaith y mae Dylan's yn ei wneud i annog a hyfforddi pobl ifanc yn y diwydiant lletygarwch.  Rydym yn gwybod bod y diwydiant yn wynebu problemau recriwtio yn dilyn pandemig Covid-19, ac mae hyn wedi achosi sawl her i fusnesau ar ôl dwy flynedd anodd.  Mae'n bwysig ein bod yn tynnu sylw at y llwybrau gyrfa hynod werth chweil ac amrywiol y mae'r diwydiant lletygarwch yn eu cynnig.

 "O waith cegin, blaen tŷ, rheoli i hyrwyddo - mae yna ystod eang o opsiynau ar gael.  Mae'n ddiwydiant gwerth chweil i weithio ynddo, lle nad oes dau ddiwrnod yr un fath.  Mae'r enghreifftiau o ddilyniant gyrfaoedd mae Dylan's wedi eu rhannu fel rhan o ymgyrch Croeso Cymru yn dangos yn glir yr hyn y gellir ei gyflawni drwy yrfa mewn lletygarwch.

 "Rwy'n dymuno'n dda i bawb sy'n cymryd rhan yn yr academi ar gyfer y dyfodol, ac os yw pobl eisiau gweithio mewn amgylchedd creadigol, gwerth chweil a chyflym, byddwn yn eu hannog i feddwl am letygarwch."

Dywedodd Andy Foster, Rheolwr Gyfarwyddwr Dylan's:

"Nid yw lletygarwch yn ymwneud â'r croeso a'r bwyd yn unig, mae yna lawer sy'n mynd ymlaen y tu ôl i'r llenni, nifer enfawr o rolau nad yw pobl fel arfer yn meddwl amdanynt mewn perthynas â'r diwydiant.

"Ein nod yw dangos faint o gyfle i dyfu sydd o fewn y sector, gan wobrwyo ein holl gadetiaid gwych gyda chyflog teg am eu cyfraniadau a'u buddsoddiad yn y broses."