Gyrfaoedd Cynnar Llywodraeth Cymru: Szy
O reolwr cartref gofal i ddod o hyd i'm hangerdd mewn gwasanaethau cyhoeddus
Yn ôl yn 2006, dechreuais bennod newydd yn fy nhaith gyrfa gan ymuno â Llywodraeth Cymru a symud o fy rôl fel rheolwr cartref gofal preswyl i oedolion ifanc ag anableddau. Roeddwn i'n chwilio am sefydlogrwydd a dyma ddod ar draws llwybr annisgwyl yn y gwasanaethau cyhoeddus. Er imi gael fy nenu yn y lle cyntaf at swydd benodol ym maes amaethyddiaeth, derbyniais swydd ran amser gydag Arolygiaeth Gofal Cymru gan ddechrau ar fy ngyrfa yn Llywodraeth Cymru.
Dechreuodd fy nhaith gyda'r sefydliad yn Aberystwyth, man cychwyn a wnaeth fy arwain yn y pen draw i Gaerdydd yn 2018. Gan fod fy nhîm presennol ar wasgar yng Nghaerdydd, Abertawe a Merthyr Tudful, rwy' wedi profi amrywiaeth Cymru yn uniongyrchol, o ran rolau a lleoliadau.
Gan ddechrau fel Swyddog Cymorth Tîm yn Arolygiaeth Gofal Cymru, roedd fy swydd yn cynnwys trefnu cyfweliadau ar gyfer darparwyr gwasanaethau gofal, rheoli data, ac ymwneud â rhanddeiliaid. Symudais o gwmpas o un swydd i'r llall, o gymorth TG i ddatblygu polisïau. Cefais gyfle mewnol i gwblhau prentisiaeth NVQ Lefel 4 i gael dyrchafiad a wnaeth agor drysau at gyfleoedd newydd imi. Rwy' bellach yn Rheolwr Llywodraethu a Busnes Cenedl Noddfa gan ganolbwyntio ar faterion mudo a chymorth i geiswyr lloches, yn enwedig y rhai o Wcráin. Mae'n rôl sy'n cyd-fynd â'm hangerdd i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl.
Pam Llywodraeth Cymru? Mae'r amodau gweithio hyblyg a'r ystod eang o rolau sydd ar gael yn wych, ond y prif reswm pam fy mod wrth fy modd yn gweithio yma yw cael y cyfle i gyfrannu at newid ystyrlon, boed hynny drwy gymorth TG, datblygu polisïau neu wasanaeth uniongyrchol i'r gymuned.
Un o adegau fy ngyrfa a roddodd y boddhad mwyaf imi oedd y gwaith a wnes i ar grantiau tai, a wnaeth helpu dros 1,000 o aelwydydd, gan gynnwys ceiswyr lloches o Wcráin, i symud o'r strydoedd i lety addas.
Os ydych chi'n ystyried gyrfa gyda Llywodraeth Cymru, yna mae fy nghyngor yn syml: ewch amdani. Mae'r sefydliad yn llawer mwy amrywiol nag yr oeddwn i erioed wedi'i ddisgwyl, gan gynnig digon o gyfleoedd ar gyfer twf personol a phroffesiynol – ac ynghyd â'r trefniant gweithio hybrid hefyd, nid oes cyfyngiad ar ble rydych chi'n byw, cyn belled â bod gennych gysylltiad â'r rhyngrwyd gartref. Mae'n amgylchedd cefnogol sydd â diwylliant sy'n meithrin hyder a datblygiad. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu gofod diogel a chynhwysol gyda rhwydweithiau cefnogol i'ch helpu i archwilio a dod o hyd i'ch maes arbenigol. Gall eich gyrfa newid a datblygu gyda chi wrth i'ch gwerthoedd, eich angerdd a'ch diddordebau newid dros amser, ac mae'r sefydliad yn sicr yn cefnogi hynny.
Cofrestrwch ar gyfer rhybuddion swyddi
Ewch i Swyddi Llywodraeth Cymru i gofrestru ar gyfer cyfrif a chofrestru ar gyfer rhybuddion swyddi.