Gyrfaoedd Cynnar Llywodraeth Cymru: Jamie
Gweithle lle rwy'n gallu bod yn fi fy hun
Dechreuais ar fy nhaith gyda Llywodraeth Cymru fel gweithiwr achlysurol ym mis Mai 2008, gan symud i rôl Swyddog Cymorth Tîm yn llawn amser ym mis Mawrth 2009. Fy swydd gyntaf oedd gyda'r tîm Tir Gofal ym Mhenrhyndeudraeth. Gan fod gen in ddiddordeb mewn gwasanaethau cyhoeddus, roedd y cyfle gyda Llywodraeth Cymru yn cyd-fynd yn berffaith â'r llwybr gyrfa roeddwn i'n awyddus i'w ddilyn.
Dros y blynyddoedd, rwy' wedi gweithio mewn rolau amrywiol, gan ddechrau yn Taliadau Gwledig Cymru, ac yn ddiweddarach, symud i'r Gwasanaethau Gwybodaeth, Llyfrgelloedd ac Archifau. Yno, roeddwn i'n canolbwyntio ar ganfod cofnodion Llywodraeth Cymru i'w cadw'n barhaol yn yr Archifau Gwladol, yn ogystal â threialu'r broses ar gyfer trosglwyddo cofnodion yn ddigidol. Ar hyn o bryd, rwy'n gyfrifol am ganfod cofnodion sy'n berthnasol i ymchwiliad COVID-19 a gweithio gyda chyfreithwyr ac ymgynghorwyr allanol.
Rwy'n mwynhau natur uchel ei broffil ac amrywiol fy ngwaith a'r cyfleoedd mae'n ei roi i feithrin perthynas ag eraill yn y sefydliad a thu hwnt. Er fy mod wedi fy lleoli yng Nghaernarfon a bod y tîm ar wasgar yng Nghaerdydd, Merthyr Tudful ac Aberystwyth, mae technoleg fodern yn golygu bod modd cydweithio'n hwylus a chynnal cysylltiadau cymdeithasol yn hawdd.
Cyn ymuno, roeddwn i'n dychmygu bod y Gwasanaeth Sifil yn lle eitha' llym, heb fod yn amrywiol iawn, na llawer o gyfleoedd i fod yn greadigol. Ond mae fy mhrofiadau wedi bod i'r gwrthwyneb yn llwyr. Rydych chi'n dod i ddeall yn sydyn bod y sefydliad yn cynnwys pobl amrywiol o bob math o gefndiroedd. Yn rhan o PRISM, ein rhwydwaith staff LHDTQ+, rwy'n teimlo fy mod yn cael fy annog i ddod â fi fy hun i'r gwaith, ac mae presenoldeb amlwg Uwch Weision Sifil a Gweinidogion LHDTQ+ yn meithrin diwylliant cynhwysol o'r brig i lawr.
Yr hyn rwy'n ei garu fwyaf am weithio i Lywodraeth Cymru yw ei hyblygrwydd a'r pwyslais ar ddatblygiad personol. Mae cyfrannu at wasanaethau cyhoeddus sydd o fudd i bobl Cymru yn rhoi boddhad mawr imi. Mae fy nghyngor i ddarpar ymgeiswyr yn syml: peidiwch ag oedi cyn gwneud cais a gofynnwch am help os oes angen!
Cofrestrwch ar gyfer rhybuddion swyddi
Ewch i Swyddi Llywodraeth Cymru i gofrestru ar gyfer cyfrif a chofrestru ar gyfer rhybuddion swyddi.