Neidio i'r prif gynnwy
Charlotte

O Adnoddau Dynol i addysg, o Dubai i'r diwydiannau creadigol – gyrfa amrywiol o dwf a chyfleoedd

Dechreuais ar fy nhaith gyda Llywodraeth Cymru yn 2012 pan oeddwn i'n 21 oed, gan symud o fy rôl fel derbynnydd mewn Clwb Iechyd. Fy swydd gyntaf oedd ar Ddesg Gymorth Adnoddau Dynol, lle'r oeddwn i'n ymdrin ag ymholiadau dros y ffôn, wyneb yn wyneb ac ar e-bost. Gwnaeth y swydd gyntaf hon agor y drws i yrfa amrywiol iawn.

Ers hynny, rwy' wedi gweithio yn Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, yr Adran Addysg, ac amryw o dimau Adnoddau Dynol, lle gwnaeth y sefydliad ariannu a'm helpu i ennill fy nghymwysterau Adnoddau Dynol ffurfiol. Un o'r penodau mwyaf cyffrous oedd lleoliad 13 mis o hyd yn Dubai, lle roeddwn i'n gweithio yn rhan o'r adran Cysylltiadau Rhyngwladol.

Bellach, rwy'n rhan o Cymru Greadigol, yr asiantaeth datblygu economaidd ar gyfer y sector creadigol yng Nghymru. Rwy'n arwain ac yn cynnal digwyddiadau, yn ymdrin â cheisiadau am nawdd, ac yn helpu'r tîm marchnata a chyfathrebu i ysgogi twf yn ein diwydiannau creadigol. Er fy mod wedi fy lleoli yn Llundain, mae gweddill fy nhîm yng Nghaerdydd.

Pam Llywodraeth Cymru? Mae'r sefydliad yn rhoi llawer o bwyslais ar weithio o bell a gweithio'n hyblyg, ac mae ystod enfawr o lwybrau gyrfa a chyfleoedd datblygu ar gael i bobl sy'n barod i archwilio a dysgu. Rwy'n hoff iawn o'r cyswllt â sectorau gwahanol a'r cyfle i ddilyn fy niddordebau personol fy hun yn y gwaith. 

Pan ymunais i, roeddwn i'n disgwyl sefydliad mwy 'statig', ond cefais fy synnu ar yr ochr orau gan yr amgylchedd egnïol, nifer y cyfleoedd a'r amcanion sy'n newid, gan gynnwys rolau rhyngwladol ac adrannau newydd.

Un o uchafbwyntiau fy ngyrfa oedd byw a gweithio yn Dubai am gyfnod o 13 mis, gan gyfrannu at weithgareddau Llywodraeth Cymru yn Expo Dubai 2020. 

Mae fy nhaith yn profi nad oes angen gradd arnoch i gael gyrfa lwyddiannus ac amrywiol. Ymunais gyda chymwysterau TGAU a Safon Uwch, a chefais fy ysgogigan barodrwydd i fanteisio ar heriau newydd ac achub ar gyfleoedd. Mae Llywodraeth Cymru yn lle gwych i archwilio sectorau gwahanol a darganfod eich diddordebau. Drwy fod yn rhagweithiol ac yn ymroddedig, gallwch ddatblygu a manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd sydd ar gael. Rydych chi'n sicr yn elwa ar yr hyn rydych chi'n ei roi!

Dod o hyd i swydd wag Swyddog Cymorth Tîm

Mae gennym amrywiaeth o gyfleoedd cyffrous ar gyfer Swyddogion Cymorth Tîm ar gael ar draws sawl adran.