Gyrfaoedd Cynnar Llywodraeth Cymru
Beth yw Gyrfaoedd Cynnar?
Gyrfaoedd Cynnar yn Llywodraeth Cymru yw’r cam cyntaf trwy’r drws i’ch gyrfa yn y Gwasanaeth Sifil yng Nghymru.
Mae yna lawer o ffyrdd i ymuno â Llywodraeth Cymru drwy lwybr Gyrfaoedd Cynnar – bod hynny fel Swyddog Cymorth Tîm, Prentis, drwy’r Llwybr Carlam i Raddedigion, neu Interniaeth.
Drwy gofleidio gwahanol safbwyntiau, creadigrwydd a thalent cydweithwyr sy’n ymuno â ni yn gynnar yn eu gyrfaoedd, neu fel rhan o newid gyrfa, rydym yn falch o gael amgylchedd lle mae arloesedd yn ffynnu ac amrywiaeth yn cael ei ddathlu. Dom Houlihan, Cyfarwyddwr Pobl a Lleoedd
Ydych chi'n barod i wneud gwahaniaeth i Gymru?
Cofrestrwch ar gyfer rhybuddion swyddi
Ewch i Swyddi Llywodraeth Cymru i gofrestru ar gyfer cyfrif a chofrestru ar gyfer rhybuddion swyddi.
Pam Llywodraeth Cymru?
Ydych chi erioed wedi meddwl sut deimlad yw gallu gwneud gwahaniaeth diriaethol i fywydau pobl yng Nghymru? Bydd eich gwaith yn cyfrannu at lwyddiant amcanion Llywodraeth Cymru ac yn cyfrannu at ganlyniadau gwell i bobl Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru yn cyflogi dros 5,000 o staff ledled Cymru. Mae ein swyddi hefyd yn amrywiol dros ben, ac yn rhoi’r cyfle i chi weithio mewn meysydd fel iechyd, addysg, yr amgylchedd, chwaraeon, twristiaeth, digidol, cyllid a llawer mwy.
Dechreuwch eich gyrfa gwasanaeth cyhoeddus gyda ni, fel gweithiwr Llywodraeth Cymru gallwch weld yr holl bethau rydyn ni'n eu gwneud. Mae llawer o'r staff wedi'u lleoli yn y swyddfa neu yn y cartref tra bod rhai eraill allan yn yr awyr agored yn gweithio fel swyddog gorfodi morol, ceidwad castell, swyddog traffig, swyddog cyswllt fferm neu rywbeth arall yn llwyr.
Beth am edrych ar rai o’n tystebau gan ein cydweithwyr a ddechreuodd fel Swyddogion Cymorth Tîm?
Faint fydd fy nghyflog?
Eich cyflog cychwynnol blynyddol fydd £23,258 a byddwch yn gymwys i fod yn aelod o Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil.
Mae gennym strwythur tâl cynyddrannol sy'n cynyddu flwyddyn ar ôl blwyddyn i uchafswm o £26,901 ar gyfer y Radd Cymorth Tîm.
Faint o wyliau byddaf yn cael?
Byddwch yn cael 31 diwrnod o wyliau bob blwyddyn yn ogystal â 10 diwrnod o wyliau banc a braint.
Beth yw'r buddion?
Edrychwch ar ein Pecyn Buddion Cyflogeion i weld yr ystod lawn o fuddion y byddwch yn eu cael fel cyflogai Llywodraeth Cymru.
Pwy all wneud cais?
Er mwyn gwneud cais rhaid ichi fodloni’r amodau canlynol:
- fod yn 16 mlwydd oed, neu’n hyn, erbyn eich dydidad cychwyn
- bydd angen ichi fodloni gofynion cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil a chydymffurfio â deddfwriaeth mewnfudo’r DU er mwyn gwneud cais.
Nid oes angen:
- unrhyw brofiad gwaith blaenorol
- unrhyw gymhwysterau ffurfiol
Cymerwch olwg ar ein llyfrgell fideo
Gwyliwch ein ‘Fideo Croeso’ i glywed gan ein Hysgrifennydd Parhaol, a chydweithwyr eraill ar draws y sefydliad, am yr hyn y gallwch ei ddisgwyl wrth weithio i Lywodraeth Cymru.