Neidio i'r prif gynnwy

Nodau’r ymchwil

Mae Llywodraeth Cymru am wneud Cymru'r wlad fwyaf cyfeillgar i LHDTC+ yn Ewrop. Yn 2023, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Chynllun Gweithredu LHDTC+ sy’n amlinellu sut y mae’n bwriadu cyrraedd y nod hwn. Mae'r Cynllun Gweithredu yn cyd-fynd a gynlluniau gweithredu a strategaethau eraill Llywodraeth Cymru, megis Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliol Cymru, a mae nhw gyd yn bwydo i mewn i Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol.  Mae'n bwysig ystyried sut mae'r rhain yn rhyngweithio. Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Alma Economics i gynnal asesiad gwerthuso er mwyn darparu argymhellion ar sut y dylid gwerthuso'r Cynllun Gweithredu LHDTC+. Bydd gwerthusiad yn helpu i benderfynu a yw Cynllun Gweithredu LHDTC+ yn llwyddiannus ac yn cyflawni ei nodau bwriadedig o wella bywydau a phrofiadau pobl LHDTC+ yng Nghymru.

Methodoleg

Cynhaliwyd asesiad o ddichonoldeb ac addasrwydd gwahanol fethodolegau gwerthuso i benderfynu ar y dull gorau o werthuso'r Cynllun Gweithredu yn y dyfodol. Defnyddiwyd y Llyfr Magenta (Tasglu Gwerthuso a Thrysorlys EM, 2020) fel canllaw i werthuso, sicrhau arfer gorau ac ymgysylltu â rhanddeiliaid. Defnyddiwyd adolygiad o ddogfennau’n ymwneud â'r Cynllun Gweithredu LHDTC+ a chyfweliadau â swyddogion Llywodraeth Cymru i gwmpasu’r prosiect cyn cynnal adolygiad llenyddiaeth ansystematig. Ymgysylltwyd â rhanddeiliaid drwy gyfweliadau, a lluniwyd Theori Newid o’r sgyrsiau hyn. Defnyddiwyd yr allbynnau o’r adolygiad llenyddiaeth, ymgysylltu â rhanddeiliaid, Theori Newid ac asesiad data i hysbysuyr asesiad gwerthuso yn ei flaen.

Dechreuodd hyn gydag adolygiad o ddogfennaeth allweddol yn ymwneud â'r Cynllun Gweithredu LHDTC+, gan gynnwys diweddariadau cynnydd, argymhellion y Panel Arbenigol Annibynnol LHDTC+, a strategaethau cysylltiedig. Cynhaliwyd cyfweliadau cwmpasu gyda swyddogion Llywodraeth Cymru hefyd i ddyfnhau'r ddealltwriaeth o’r Cynllun Gweithredu LHDTC+ a sut mae’n berthnasol i gynlluniau ac amcanion eraill Llywodraeth Cymru. Yn dilyn hyn, cynhaliwyd adolygiad llenyddiaeth, a oedd yn canolbwyntio ar werthusiadau presennol o bolisïau a rhaglenni LHDTC+ tebyg. Roedd y llenyddiaeth yn cynnwys llenyddiaeth a adolygwyd gan gymheiriaid a llenyddiaeth nas adolygwyd gan gymheiriaid, a nodwyd bod 52 o bapurau yn berthnasol. Roedd hwn yn ymarfer targededig gyda chwmpas cyfyngedig, ac ni ddylid ei ystyried yn gynhwysfawr. Hysbysodd yr adolygiad hwn yr asesiad gwerthusadwyedd trwy ddarparu dealltwriaeth o risgiau, heriau ac atebion posibl yn ymwneud â methodolegau ac offer gwerthuso penodol.

Ymgysylltwyd â Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid allanol sy’n cynrychioli sefydliadau LHDTC+ drwy gydol yr asesiad gwerthuso, gan ddefnyddio cyfweliadau un-i-un a grwpiau bach lled-strwythuredig. Cynhaliwyd cyfanswm o 36 o gyfweliadau gyda 50 o gyfweleion. Darparodd yr ymgysylltu hwn ddealltwriaeth o ba ganlyniadau ac effeithiau y gellid eu disgwyl o'r Cynllun Gweithredu, sut y dylid mesur yr effeithiau trwy ddefnyddio data presennol, a sut i ddiffinio a mesur gweithrediad llwyddiannus. Roedd y trafodaethau hefyd yn cynnwys barn ar ddulliau posibl o werthuso yn y dyfodol.

Defnyddiwyd canfyddiadau o'r cyfweliadau hefyd i ddrafftio Theori Newid sy'n disgrifio'n weledol y mecanweithiau a ddefnyddir i gynhyrchu canlyniadau ac effaith trwy’r gweithgareddau a'r camau gweithredu a geir yn y Cynllun Gweithredu LHDTC+. Defnyddir Theori Newid i gefnogi'r asesiad gwerthusadwyedd trwy nodi effeithiau pwysig a mecanweithiau achosol y byddai angen eu hasesu mewn gwerthusiad, ac y dylid felly eu hystyried yn yr asesiad gwerthusadwyedd. Mae hefyd yn helpu i nodi dangosyddion allweddol i fonitro cynnydd ac effaith y Cynllun Gweithredu LHDTC+, sydd yn ei dro yn pennu pa ddata y dylid ei gasglu cyn gwerthusiadau yn y dyfodol i’r diben hwn.

Defnyddiwyd yr allbynnau o’r adolygiad o lenyddiaeth, ymgysylltu â rhanddeiliaid, Theori Newid ac asesiad data i lywio’r asesiad o opsiynau gwerthuso i benderfynu pa ddull oedd fwyaf ymarferol ac addas.

Prif ganfyddiadau

Adolygiad llenyddiaeth

Wrth werthuso rhaglenni cymhleth, mae’r llenyddiaeth yn pwysleisio pwysigrwydd defnyddio Theori Newid i egluro’r llwybr achosol sylfaenol rhwng ymyriad polisi a’i ganlyniad cymdeithasol dymunol o fewn systemau cymhleth. Dylid cydnabod rôl dylanwadau allanol o safbwynt dylanwadu ar effaith y Cynllun Gweithredu yn y dewis o ddull gwerthuso, oherwydd mae’n debyg y bydd yn anodd nodi achosiaeth gyda'r fath ganlyniadau. Mae’r dystiolaeth hefyd yn awgrymu defnyddio dull methodolegau cymysg i werthuso (h.y. y rhai sy’n defnyddio cyfuniad o dechnegau meintiol ac ansoddol) oherwydd byddant yn galluogi dull hyblyg a all nodi cymhlethdodau a naws y rhaglen, yn ogystal ag unrhyw newidiadau dros amser. Ar y cyfan, ychydig o enghreifftiau a ganfuwyd o werthusiadau o raglenni ac ymyriadau LHDTC+, yn ddomestig na’n rhyngwladol.

Ymgysylltu â rhanddeiliaid

Cynhaliwyd cyfweliadau gyda 38 o swyddogion polisi Llywodraeth Cymru a 12 cynrychiolydd o sefydliadau allanol. Pwysleisiodd rhanddeiliaid yn gyson y dylid bod yn ofalus wrth ddefnyddio mesurau meintiol i werthuso'r Cynllun Gweithredu, oherwydd bod risg na fyddai metrigau o'r fath yn nodi amrywiaeth a naws profiadau o fewn y gymuned LHDTC+ a grwpiau croestoriadol. Pwysleisiodd rhanddeiliaid hefyd yr angen am werthusiad i ddeall yr effaith y mae’r Cynllun Gweithredu yn ei chael ar ganfyddiadau a phrofiadau byw pobl LHDTC+ a grwpiau croestoriadol drwy ddulliau ansoddol, megis drwy gyfweliadau a grwpiau ffocws.

Theori Newid

Datblygwyd Theori Newid, wedi’i llywio gan gyfweliadau â rhanddeiliaid ac adolygiad o lenyddiaeth. Mae'r theori yn cael ei rhannu’n ddiagram ar gyfer pob un o themâu Cynllun Gweithredu LHDTC+ ac mae’n amlygu’n benodol ragdybiaethau allweddol a risgiau a ragwelir, ac y dylid eu hystyried yn ystod gwerthusiad. Mae'r Theori Newid hefyd yn cynnwys colofn i gynrychioli Gweledigaeth Gyffredinol Cynllun Gweithredu LHDTC+, sy'n cael ei llywio'n gyfan gwbl gan gyfweliadau â rhanddeiliaid mewnol ac allanol. Cydnabyddir hefyd y gall fod angen diweddaru'r Theori Newid yn nes at y gwerthusiad, wrth i allbynnau neu ddeilliannau nad ydynt yn rhagweladwy eto, ddatblygu ac y bydd angen eu cynrychioli yn y diagram.

Asesiad o’r ffynonellau data

Cymharol ychydig o dystiolaeth feintiol sydd ar gael y gellir ei defnyddio i fesur canlyniadau ac effaith Cynllun Gweithredu LHDTC+ yn hyderus. Ni nodwyd unrhyw ffynonellau a allai ddangos tystiolaeth o amcan y Cynllun Gweithredu ‘i wneud Cymru’r wlad fwyaf cyfeillgar i LHDTC+ yn Ewrop’. Mae peth data meintiol yn bodoli ac fe'i hamlinellir mewn Banc Data (Tabl 1) o fewn y prif adroddiad, a gellid defnyddio hwn i fesur canlyniadau pwysigy Cynllun Gweithredu. Fodd bynnag, dylid bod yn ofalus wrth ddefnyddio data meintiol o ystyried, fel y nododd rhai rhanddeiliaid, bod risg y gallai metrigau o’r fath orsymleiddio cymhlethdodau’r Cynllun Gweithredu a phrofiadau croestoriadol. At hynny, nid oes unrhyw gasgliad data systematig sy’n dal profiadau ac agweddau bywyd pobl LHDTC+ yng Nghymru dros amser. Yr oedd y rhanddeiliaid yn gyson yn gweld hyn fel nodwedd allweddol o unrhyw werthusiad yn y dyfodol.

Asesiad o opsiynau gwerthuso

Cynhaliwyd asesiad o'r methodolegau gwerthuso a restrir yn y Llyfr Magenta i ddod i'r opsiwn gwerthuso a ffefrir. Roedd hyn yn cynnwys asesu rhinweddau ac anfanteision cymharol methodolegau gwahanol yn seiliedig ar ganfyddiadau’r adolygiad llenyddiaeth, ymgysylltu â rhanddeiliaid, datblygiad y Theori Newid ac asesiad o ddata meintiol.

Argymhellodd yr asesiad hwn yn erbyn defnyddio technegau arbrofol neu led-arbrofol yn y gwerthusiad, oherwydd pryderon moesegol ac argaeledd data cyfyngedig, ac felly argymhellodd y dylid defnyddio dulliau seiliedig ar theori. Cafodd rhai dulliau seiliedig ar theori eu diystyru fel opsiynau gwerthuso, yn bennaf oherwydd eu gofynion uchel ar ymgysylltu â rhanddeiliaid ac anallu i nodi cymhlethdodau Cynllun Gweithredu LHDTC+ Cymru.

At hynny, nid yw gwerthusiad economaidd yn cael ei argymell oherwydd diffyg data i feintioli a rhoi gwerth ariannol ar ganlyniadau allweddol gwerthusiad gwerth am arian, a’r risg o orsymleiddio cymhlethdodau’r Cynllun Gweithredu LHDTC+ a’r amrywiaeth o brofiadau pobl LHDTC+.

Opsiynau gwerthuso a argymhellir

Mae'r asesiad hwn yn argymell gwerthusiadau proses ac effaith ar wahân. Dylid cynnal gwerthusiad o'r broses cyn gynted â phosibl. Dylid ei gynnal cyn y gwerthusiad effaith i sicrhau y gellir ymgorffori unrhyw wersi a ddysgir o'r gwerthusiad proses i lunio polisïau, ac iddynt ddechrau dylanwadu cyn gwerthuso effaith. Gan gydnabod y bydd y gwerthusiad effaith yn cael ei lywio’n bennaf gan ganfyddiadau a phrofiadau pobl (y disgwylir iddynt newid yn araf dros amser), argymhellir bod y gwerthusiad effaith yn cael ei gynnal sawl blwyddyn ar ôl i’r Cynllun Gweithredu gael ei roi ar waith.

Ar gyfer y gwerthusiad proses, argymhellir defnyddio dulliau cymysg i ddeall i ba raddau y mae'r camau gweithredu wedi'u cwblhau, a sut y gellir gwella hyn. Dylai hefyd ystyried unrhyw welliannau pellach i ddata a phrosesau monitro, yn ogystal â digonolrwydd strwythurau a phrosesau llywodraethu i ymgysylltu â rhanddeiliaid allanol a phobl LHDTC+ yn fwy cyffredinol. 

Argymhellir bod y gwerthusiad effaith yn cynnwys dull cymysg o weithredu ynghyd ag egwyddorion gwerthuso realaidd. Mae gwerthusiad realaidd yn ddefnyddiol ar gyfer deall “beth sy'n gweithio o dan ba amgylchiadau ac ar gyfer pwy”, gan ei wneud yn ddefnyddiol i werthuso effaith a phroses, yn ogystal â nodi'r canlyniadau ar grwpiau croestoriadol. Yn yr achos hwn, bydd defnyddio dull ysgafn o ymdrin â gwerthusiad realaidd o Gynllun Gweithredu LHDTC+ yn lleihau'r ddibyniaeth ar amser ac arbenigedd rhanddeiliaid, a all fod yn rhwystrau sylweddol i gynnal gwerthusiadau realaidd.

Dylai’r gwerthusiad effaith ymgysylltu â swyddogion Llywodraeth Cymru i roi mewnwelediad defnyddiol i’r ffordd y mae’r Cynllun Gweithredu wedi arwain at newidiadau wrth lunio polisïau. Dylai hefyd ddeall a chynrychioli barn pobl LHDTC+ a grwpiau croestoriadol i roi cipolwg ar sut y gall y Cynllun Gweithredu gael effaith gadarnhaol ar eu bywydau a'u profiadau byw. Er mwyn mynd i'r afael â'r bylchau presennol yn y casglu data sydd ar gael ar brofiadau bywyd a chanfyddiadau pobl LHDTC+ a grwpiau croestoriadol, argymhellir cynnal arolwg ar raddfa fawr i gefnogi'r gwerthusiad. Gall arolwg gynyddu cyrhaeddiad gwerthusiad i’r eithaf a chael ei ddefnyddio i gofnodi agweddau pobl LHDTC+ yn systematig, a all wella argaeledd gwybodaeth ansoddol a meintiol i ganiatáu cymhariaeth dros amser ac ar draws grwpiau croestoriadol. Diffinnir llwyddiant y Cynllun Gweithredu ar hyn o bryd fel “gwneud Cymru'r wlad fwyaf cyfeillgar i LHDTC+ yn Ewrop”. Gan gydnabod nad yw’r amcan hwn yn fesuradwy, argymhellir ailedrych ar yr amcan hwn cyn ei ddefnyddio i fesur llwyddiant mewn gwerthusiad effaith.

Argymhellion i gefnogi gwerthusiad yn y dyfodol

Gwneir yr argymhellion a ganlyn i wella’r dirwedd ddata a thrwy hynny gefnogi gwerthusiad Cynllun Gweithredu LHDTC+ Cymru yn y dyfodol:

  1. Dylai Llywodraeth Cymru orsamplu unigolion LHDTC+ o fewn Arolwg Cenedlaethol Cymru i wella ansawdd a defnyddioldeb data yn ôl cyfeiriadedd rhywiol. Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod data o Arolwg Cenedlaethol Cymru ar gael i werthuswyr ar gyfer mwy o gwestiynau yn ôl cyfeiriadedd rhywiol. Dylai gwerthuswyr ddefnyddio'r data hwn yn ofalus, oherwydd pryderon ynghylch meintiau sampl bach.
  2. Dylai Llywodraeth Cymru ychwanegu cwestiynau perthnasol at Arolwg Cenedlaethol Cymru, gan gynnwys cwestiwn i fesur ymwybyddiaeth ymatebwyr o droseddau casineb gwrth-LHDTC+ a’r opsiynau sydd ar gael i adrodd am droseddau casineb.
  3. Dylai gwasanaethau cyhoeddus Cymru, gan gynnwys y GIG, ystyried casglu data’n amlach ar hunaniaeth rhywedd a chyfeiriadedd rhywiol defnyddwyr gwasanaethau er mwyn nodi unrhyw anghydraddoldebau o ran darparu gwasanaethau. Dylid safoni a chasglu data yn gyson.
  4. Dylai Llywodraeth Cymru gysylltu â gwasanaethau cymorth a/neu wasanaethau cyhoeddus i archwilio argaeledd data ar arferion trosi. Os nad yw’r data hwn ar gael, dylai swyddogion Llywodraeth Cymru weld a oes data ar arferion trosi ar gael gan Galop a Chymorth i Ddioddefwyr yng Nghymru.
  5. Dylai swyddogion Llywodraeth Cymru goladu rhestr o'r fforymau cydraddoldeb a ddisgrifir yn Thema A Cynllun Gweithredu LHDTC+ Cymru. Gellid defnyddio hwn i werthuso gweithrediad y cam gweithredu canlynol: Cryfhau cynrychiolaeth LHDTC+ ar fforymau cydraddoldeb.
  6. Dylai Llywodraeth Cymru ofyn am ddata gan y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol ar nifer y bobl sy’n gwneud cais am Dystysgrif Cydnabod Rhywedd yng Nghymru.
  7. Dylai Llywodraeth Cymru ganolbwyntio mwy ar faterion cydraddoldeb yn adroddiadau’r Rhwydwaith Tramor er mwyn llywio’r gwerthusiad o’r broses. Dylai Llywodraeth Cymru gynnwys pennod wedi’i neilltuo ar gyfer materion cydraddoldeb.
  8. Dylai Llywodraeth Cymru ofyn am ddata monitro ar droseddau casineb yn ôl nodweddion gwarchodedig a ddarperir gan y Swyddfa Gartref ar heddluoedd Cymru ac, os oes angen, ei goladu er mwyn llywio’r gwerthusiad.
  9. Dylai Llywodraeth Cymru ofyn am ddata monitro gan Ganolfan Cymorth Casineb Cymru. Dylai’r cais am ddata gynnwys: data monitro ynghylch nifer yr atgyfeiriadau LHDTC+, data ynghylch eu hymgysylltiad â phobl LHDTC+, a data sy’n mesur effaith eu gwasanaethau ar gyfer unigolion LHDTC+. 
  10. Dylai Llywodraeth Cymru ofyn am ddata gan heddluoedd Cymru ynghylch cynrychiolaeth LHDTC+ ymhlith PCSOs a swyddogion heddlu.
  11. Dylai Llywodraeth Cymru ofyn am ddadansoddiadau rhanbarthol yn ôl cyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth rhywedd o gymharu â'r rhyw a gofnodwyd adeg geni o Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr. Bydd dilysu ansawdd y data hwn hefyd yn hollbwysig, gan fod disgwyl meintiau sampl isel.
  12. Dylai Llywodraeth Cymru roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ganlyniad yr adolygiad o ddangosyddion VAWDASV (trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol) a cheisio sicrhau y bydd dangosyddion ar gael yn unol â chyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth rhywedd.
  13. Dylai Llywodraeth Cymru gynnwys cwestiwn o gyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth rhywedd yn arolwg boddhad Gwasanaeth Noddfa Cymru. Bydd angen cael y data a'i ddilysu. Gall hyn fod yn gymhleth o ystyried nad yw lloches yn faes polisi datganoledig.
  14. Dylai Llywodraeth Cymru geisio sicrhau data cwynion iechyd ar nifer y cwynion gan bobl sy’n nodi eu bod yn LHDTC+. Os nad yw hyn yn bosibl, dylent geisio nifer y cwynion sy'n cyfeirio at wahaniaethu gwrth-LHDTC+ mewn gofal iechyd.
  15. Nid yw’n glir a yw Arolwg Staff GIG Cymru yn gofyn i ymatebwyr rannu eu cyfeiriadedd rhywiol a’u hunaniaeth rhywedd. Dylai swyddogion Llywodraeth Cymru ymchwilio i hyn, gyda’r nod o ddadansoddi canlyniadau’r arolwg yn ôl cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, ac a yw rhywedd unigolyn yn cyd-fynd â’r rhyw a rhoddwyd adeg ei eni.
  16. Dylai swyddogion Llywodraeth Cymru ofyn am ddata monitro gan Wasanaeth Rhywedd Cymru – yn enwedig ynghylch mesurau canlyniadau a adroddir gan gleifion (PROMs), mesurau profiad a adroddir gan gleifion (PREMs), ac adborth dienw o gyfarfodydd rhwng WGS a chynrychiolwyr trawsryweddol – a rhyddhau’r data sydd ar gael i'r gwerthuswyr.
  17. Dylai swyddogion Llywodraeth Cymru gysylltu â’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion i sicrhau bod Arolygon Iechyd a Llesiant Myfyrwyr yn y dyfodol yn gofyn cwestiynau i ddisgyblion ysgolion uwchradd am gyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth rhywedd ac yn sicrhau bod y data hwn ar gael i werthuswyr Cynllun Gweithredu LHDTC+ Cymru. Ar hyn o bryd, mae’r arolwg yn gofyn am rywedd a rhyw’r ymatebydd adeg geni ac nid yw’n casglu data ynghylch a yw pobl yn nodi eu bod yn LHDTC+ neu unrhyw grŵp o fewn y gymuned.
  18. Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod data dadansoddi gwefannau ar gael i werthuswyr ar gyfer tudalennau gwefan “Magu Plant: Rhowch Amser iddo”. Er mwyn gwella defnyddioldeb y data hwn ar gyfer y gwerthusiad, dylai Llywodraeth Cymru ystyried gofyn i’r rhai sy’n ymweld â’r dudalen we am adborth ar eu profiad o ddefnyddio’r rhain.
  19. Dylai Llywodraeth Cymru gryfhau’r Arolwg Ymgeiswyr Llywodraeth Leol drwy ofyn a yw hunaniaeth rhywedd pobl yr un fath â’r rhyw a ddisgrifiwyd adeg eu geni. Yn ogystal, dylai Llywodraeth Cymru geisio cynyddu’r gyfradd ymateb i’r arolwg hwn.
  20. Dylai Llywodraeth Cymru gasglu data ar faint o Gyrff Rheoli Chwaraeon Cenedlaethol yng Nghymru sydd â pholisïau traws-gynhwysol drwy adolygu polisïau sampl o gyrff chwaraeon. Dylid ailadrodd yr ymarfer hwn cyn i'r gwerthusiad ddechrau. Bydd hyn yn caniatáu casglu gwaelodlin y gall gwerthuswyr ei defnyddio i bennu newidiadau mewn traws-gynhwysedd mewn chwaraeon yng Nghymru a rhoi’r camau gweithredu canlynol ar waith: Gwella mynediad a chyfranogiad pobl drawsryweddol mewn chwaraeon.
  21. Dylai Llywodraeth Cymru geisio data monitro gan sefydliadau diwylliannol a ariennir gan Lywodraeth Cymru (Amgueddfa Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, a Chwaraeon Cymru) i bennu eu rôl yn hyrwyddo cynhwysiant LHDTC+ ac unrhyw effeithiau mesuradwy.

Manylion cyswllt

Awduron yr adroddiad: Alma Economics

Mae’r safbwyntiau a fynegwyd yn yr adroddiad hwn yn perthyn i’r ymchwilwyr ac nid o reidrwydd Llywodraeth Cymru.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Victoria Saynor
Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd Is-adran Cydraddoldeb, Tlodi, Tystiolaeth a Chymorth Plant
Llywodraeth Cymru,
Parc Cathays
Caerdydd,
CF10 3NQ

Ebost: yrunedtystiolaethcydraddoldeb@llyw.cymru

Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 83/2024
ISBN digidol 978-1-83625-932-9

Image
GSR logo