Mae’r adroddiad hwn yn nodi manylion canfyddiadau ymchwil ynghylch y data am bobl LHDTC+, a sut mae hyn yn llywio’r opsiynau ar gyfer gwerthuso cynllun gweithredu LHDTC+.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Prif ganfyddiadau
Wrth fynd ati i werthuso Cynllun Gweithredu LHDTC+, argymhellir gwerthuso’r broses a chynnal gwerthusiad damcaniaethol o’r effaith, gan ganolbwyntio ar ansawdd.
Negeseuon pwysig
Dylid cynnal gwerthusiad o’r broses yn brydlon fel y gellir gweithredu unrhyw argymhellion i gynyddu effaith Cynllun Gweithredu LHDTC+.
Dylai’r gwerthusiad o’r effaith gynnwys proses casglu data cychwynnol yn y lle cyntaf, ac yna proses casglu data pellach a gwerthusiad ymhen rhai blynyddoedd. Bydd hyn yn ei gwneud yn bosibl mesur unrhyw newid graddol yng nghanfyddiadau a phrofiadau pobl.
Crewyd Damcaniaeth Newid. Mae hyn yn tynnu sylw at ragdybiaethau allweddol ynghylch sut bydd gweithgareddau yn arwain at allbynnau, canlyniadau ac effeithiau, yn ogystal â risgiau posibl. Bydd angen diweddaru’r Ddamcaniaeth Newid wrth i allbynnau neu ganlyniadau newydd ddod i’r amlwg.
Ar hyn o bryd, ychydig yw’r data meintiol y gellir eu defnyddio i fesur canlyniadau ac effaith Cynllun Gweithredu LHDTC+. Mae angen gwella swmp ac ansawdd y data er mwyn dadansoddi’r bobl hynny y mae elfennau croestoriadol i’w hunaniaeth, er enghraifft ymchwilio i brofiadau pobl Ddu LHDTC+ a phobl anabl LHDTC+.
Ni chynghorwyd defnyddio technegau arbrofol neu led-arbrofol ar gyfer gwerthusiad effaith oherwydd pryderon moesegol a’r ffaith y byddai’r data dan sylw yn gyfyngedig.
Diystyrwyd rhai dulliau damcaniaethol o werthuso effaith oherwydd y gofynion ar randdeiliaid. Hefyd, nid oedd y dulliau hyn yn gallu darparu ar gyfer cymhlethdodau Cynllun Gweithredu LHDTC+ Cymru.
Ni argymhellwyd gwerthusiad economaidd. Y rheswm am hyn oedd diffyg data i gyfrifo canlyniadau yn ariannol, a chymhlethdod meintioli profiadau LHDTC+.
Adroddiadau
Gynllun Gweithredu LHDTC+ Cymru: asesiad gwerthusadwyedd , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 5 MB
Cyswllt
Uned Tystiolaeth Cydraddoldeb
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.