Neidio i'r prif gynnwy

Gwaith ymchwil ynghylch yr hyn sy’n cael ei roi mewn biniau du yn gweld bod chwarter ohono yn fwyd a chwarter arall yn ddeunydd y gellid ei ailgylchu.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Mehefin 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Gallai hyn fod yn allweddol i gyrraedd ein targedau ailgylch yn gynnar a hybu economi Cymru.

Yn wir, pe byddai dim ond hanner y bwyd a’r deunydd sych y gellid ei ailgylchu sydd ym miniau Cymru yn cael ei ailgylchu, byddai Cymru yn cyrraedd ei tharged statudol ar gyfer 2025 o ailgylchu 70 y cant naw mlynedd yn gynnar.  

Mae’r gwaith ymchwil gan WRAP Cymru (dolen allanol), ar ran Llywodraeth Cymru, wedi’i gyhoeddi cyn datganiad cyntaf Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig yn y Senedd, pryd y bydd yn nodi ei blaenoriaeth i greu economi mwy cylchol yng Nghymru.  

Economi gylchol yw un ble y mae’n bosib i ddeunydd o safon uchel sy’n deillio o wastraff gael ei roi yn ôl i weithgynhyrchwyr Cymru fel deunydd crai eilaidd i’w ddefnyddio i gynhyrchu eto ac eto.    

Amcangyfrifir ei fod yn bosibl i’r economi gylchol greu oddeutu 30,000 o swyddi yng Nghymru, gyda phobl yn cael eu cyflogi i gasglu, cludo, ail-brosesu ac ail-weithgynhyrchu y deunyddiau hyn, ac y gallai fod o werth economaidd o dros £2 biliwn y flwyddyn.  

Mae ein strategaeth Tuag at Ddyfodol Diwastraff yn golygu sicrhau bod deunydd perthnasol gwerthfawr yn cael ei ddefnyddio am cyhyd â phosib ac ei fod yn cyd-fynd ag egwyddor yr economi gylchol.  

Mae’r dadansoddiad gan WRAP yn datgelu y tueddiadau diweddaraf yng Nghymru ym maes ailgylchu, ac er y bu cynnydd o 14 y cant mewn deunyddiau y gellir eu hailgylchu yn cael eu hailgylchu o gartrefi, mae biniau ledled Cymru yn parhau i gael eu llenwi gydag eitemau y gellid eu hailgylchu neu eu hail-ddefnyddio yn hawdd.  

Yn ogystal â gwastraff bwyd a deunydd sych y gellir ei ailgylchu, gwelwyd yn yr astudiaeth bod 17 y cant o’r gwastraff yn drydanol ac yn offer electronig a 50 y cant yn ddillad a defnyddiau, a’u bod yn cael eu hanfon i safleoedd tirlenwi.   

Meddai Lesley Griffiths:


“Mae’n wych gweld bod arferion ail-gylchu pobl yn gwella’n sylweddol.  Fodd bynnag, mae’r gwaith ymchwil hwn yn dangos bod mwy i’w wneud o hyd i gyrraedd ein nod o fod yn wlad â Dyfodol Diwastraff erbyn 2050.  


“Yn ogystal â’r manteison amgylcheddol amlwg, mae bod yn gymdeithas sy’n ailgylchu llawer yn sail i economi gylchol gref.  Gall ail-gylchu deunyddiau gwerth uchel roi hwb enfawr i economi Cymru, greu swyddi yn ail-brosesu’r deunyddiau hyn yma yng Nghymru, a gostwng ein hôl-troed carbon.  

“Mae ein gwaith ymchwil i arferion ail-gylchu yn bwysig wrth lywio ein gwaith i gyrraedd ein targedau ailgylchu.  Er bod llawer i’w ddathlu, mae’n dangos y gallai newidiadau bychain i arferion ailgylchu pobl gael effaith amgylcheddol ac economaidd enfawr.  Byddwn nawr yn ceisio gwneud mwy i ddatblygu yr economi gylchol ac i gael mwy o bobl i ailgylchu.”  

Yn ystod datganiad yn y Senedd heddi, mae disgwyl i Ysgrifennydd y Cabinet bennu cynlluniau i ddatblygu’r economi gylchol, gan gynnwys edrych ar ddulliau, megis deddfwriaeth, o’i wneud yn ofynnol i elfen uchel o ddeunyddiau sydd wedi eu hailgylchu gael eu cynnwys mewn cynnyrch sy’n cael ei gaffael gan y sector cyhoeddus yng Nghymru, ac i edrych ar ddefnyddio Cyfrifoldeb Estynedig gan Gynhyrchwyr i sicrhau bod cynhyrchwyr a manwerthwyr yn rhannu y baich o reoli gwastraff o gartrefi.  

Mae strategaeth wastrafff Llywodraeth Cymru, Tuag at Ddyfodol Diwastraff: Cymru'n Un: Cenedl Un Blaned, yn pennu ein huchelgeisiau i ddod yn wlad sy’n ailgylchu llawer erbyn 2025, ac yn wlad ddiwastraff erbyn 2050.  Bydd y Strategaeth yn cael ei hadolygu yn ystod y flwyddyn nesaf.