Mae ymchwil ddiweddaraf Llywodraeth Cymru yn dangos bod y diwydiant twristiaeth yng Nghymru wedi cael haf llwyddiannus iawn
Y prif reswm oedd bod mwy o bobl o Brydain wedi aros yn y DU dros yr haf.
Mae Arolwg Baromedr Busnesau Twristiaeth Cymru, a gyhoeddwyd heddiw, yn arolwg o 922 o fusnesau twristiaeth ar draws pob sector yng Nghymru ac mae'n cynnig darlun o’r modd mae uchafbwynt misoedd yr haf yn cymharu â llynedd.
Mae'r cynnydd yn nifer yr ymwelwyr i'w weld ar draws holl sectorau a rhanbarthau’r diwydiant yng Nghymru. Yn benodol, mae safleoedd carafanau a gwersylla wedi cael cyfnod gwych, gyda dau ym mhob tri (67%) yn adrodd eu bod wedi cael mwy o ymwelwyr o’u cymharu â haf diwethaf. Mae'r tywydd braf a mwy o bobl Prydain yn aros yn y DU wedi cyfrannu at haf llwyddiannus ar gyfer y sector hon.
Yn dilyn haf da, dywedodd 84% o ymatebwyr eu bod yn teimlo'n hyderus iawn neu'n weddol hyderus am y tymor sydd i ddod.
Gofynnwyd cwestiwn am effaith Brexit ar dwristiaeth, a dywedodd 67% o fusnesau nad oedd wedi cael unrhyw effaith ar eu busnesau hyd yn hyn, ond y consensws cyffredinol oedd bod yn rhaid aros i weld beth fydd yr effaith lawn. Roedd ychydig o adborth yn awgrymu y gallai'r bunt fwy gwan greu cyfle i'r diwydiant, ond roedd eraill hefyd yn nodi eu pryderon am golli'r cyllid y mae twristiaeth wedi'i dderbyn gan yr UE yn y gorffennol.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith, Ken Skates:
"Mae'n newyddion gwych bod y cipolwg hwn o uchafbwynt misoedd yr haf yn rhoi darlun cadarnhaol o sefyllfa'r diwydiant. Mae'n amlwg bod ansicrwydd wedi arwain at fwy o wyliau gartref a bod y tywydd sych hefyd wedi rhoi hwb i'r diwydiant.
"Un mesur perfformiad twristiaeth yn unig yw'r baromedr twristiaeth ac mae'n rhoi syniad o hyder y diwydiant ar ôl tymor prysur yr haf.
"Yn gyffredinol, mae perfformiad twristiaeth yng Nghymru yn gadarn ac mae'r diwydiant yn parhau i gyflawni'r targed o 10% o dwf go iawn yn enillion ymwelwyr sy'n aros gartref erbyn 2020. Mae'r twf hwn yn cefnogi swyddi ac yn ychwanegu at werth economi Cymru, ac rydym bellach yn ceisio cynnal y lefelau hyn."
Dywedodd Justin Baird Murray, Cadeirydd Cymru o Gymdeithas Lletygarwch Prydain, bod y ffigurau yn adlewyrchiad o fuddsoddiad, dyfeisgarwch ac arloesi busnesau lletygarwch ym mhob rhan o Gymru:
"Marchnata a chyflenwad yw'r ddau beth pwysig tu ôl cynaliadwyedd y diwydiant. Yr haf hwn mae busnesau gwesty wedi cyflwyno profiadau gwych i ymwelwyr er bod prisiau yn parhau i fod yn gystadleuol iawn, mae gennym un o’r cyfraddau TAW uchaf yn Ewrop a chostau cynyddol. Rydym yn cyflogi 125,000 o bobl yng Nghymru gyda llawer mwy o fusnesau lleol yn dibynnu ar ein busnesau am eu hincwm, felly byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i wneud y gorau o farchnata 2017 a chael unrhyw help y gallwn i leihau ar y costau a hybu cyflogaeth i adeiladu ar dueddiadau cadarnhaol eleni.”