Neidio i'r prif gynnwy

Mae Gŵyl flynyddol Gregynog yn dechrau heddiw gan ganolbwyntio’n arbennig ar y cysylltiadau rhwng Cymru a Lloegr.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Mehefin 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r ŵyl, sy’n derbyn cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, yn cynnwys sawl cerddor a siaradwr amlwg o’r Iwerddon, fydd yn teithio i leoliadau ledled y Canolbarth, gan gynnwys Neuadd Gregynog ger Y Drenewydd, am ddigwyddiadau rhwng 16 a 26 Mehefin.

Mae’r perfformwyr eleni yn canolbwyntio ar ganu gwerin yn ogystal â cherddoriaeth glasurol, gyda Jordi Savall a Hespèrion XXI a Martin Hayes, Mahan Esfahani, The Irish Consort, Ailish Tynan a Iain Burnside, The Fidelio Trio, Chamber Choir Ireland, Daniel Grimwood, Ensemble Nevermind, Finghin Collins, The Goodman Trio and Aoife Ní Bhríain, pob un ohonynt yn cerdded i lawr carped gwyrdd Gregynog.

Hefyd fel rhan o’r Ŵyl, bydd telynores swyddogol Tywysog Cymru, Anne Denholm, yn dod â chyfres o gyngherddau “Coffi Gwyddelig” i gymunedau ym Mhowys.  Bydd yn perfformio mewn tri digwyddiad cyhoeddus yn Y Drenewydd, Sir Drefaldwyn ac Aberhonddu ym Mhowys, fel rhan o Ŵyl Gregynog eleni, fydd yn cael ei chynnal rhwng 16 a 26 Mehefin mewn lleoliadau ledled y Canolbarth.

Mae’r rhaglen, sy’n cael ei chyflwyno mewn partneriaeth â Live Music Now a’i hariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru, yn mynd â cherddoriaeth i gymunedau i dynnu sylw at fanteision cerddoriaeth ac i annog pobl, yn ifanc a hŷn, i fod yn rhan o bethau.  

Mae Gŵyl Gregynog hefyd yn cefnogi rhaglen Llywodraeth Cymru, Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914 – 1918 i goffáu canmlwyddiant carcharorion o’r Iwerddon yn cyrraedd Fron-goch ger y Bala.

Meddai Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith:

“Gŵyl Gregynog yw un o’n gwyliau cerddoriaeth glasurol hynaf, a chafodd ei lansio gan y chwiorydd Davies – ac rwy’n falch o weld ei fod yn parhau i dynnu sylw at ddoniau lleol a rhyngwladol, gan ddod â cherddoriaeth glasurol yn fyw i bawb yn yr ardal.

“Cafodd Iwerddon ei dewis fel un o farchnadeodd tramor pwysicaf Cymru ar gyfer ein diwydiant twristiaeth, ac mae’n gwneud cyfraniad sylweddol i’n heconomi.  Daw oddeutu 134,000 o ymwelwyr y flwyddyn i Gymru o Weriniaeth Iwerddon i wario oddeutu £30 miliwn. Rwy’n dymuno’n dda i’r trefnwyr a’r perfformwyr am ddigwyddiad llwyddiannus yn 2016.”

Mae gŵyl eleni hefyd yn ddigwyddiad arbennig i’r Cyfarwyddwr Artistig, Dr Rhian Davies, sy’n dathlu 10 mlynedd fel curadur.  Meddai:

“Mae hon yn flwyddyn arbennig iawn i mi gan bod degawd wedi mynd heibio ers imi fod yn gyfrifol am Ŵyl Gregynog, gŵyl sydd wedi bod yn agos at fy nghalon erioed, fel rhywun sydd wedi ei geni a’i magu yn Y Drenewydd ac wedi bod mewn cyngherddau yno pan yn blentyn.”

meddai Dr Davies.

“Dros y ddeng mlynedd ddiwethaf, rydym wedi parhau i ddatblygu yr ŵyl, gan wahodd y cerddorion rhyngwladol gorau un i ganu am y tro cyntaf erioed, fel y gallwn i gyd fwynhau cerddoriaeth o’r safon uchaf yma yn un o leoliadau hyfrytaf y Canolbarth.”

Mae ticedi a rhagor o wybodaeth am yr Ŵyl ar gael drwy www.gregynogfestival.org ac ar 01686 207100.