Neidio i'r prif gynnwy

Polisi

Ym mis Awst 2022 fe wnaethom gyhoeddi Datganiad Polisi Caffael Cymru a oedd yn nodi ein gweledigaeth strategol ar gyfer holl gaffael yn y sector cyhoeddus yng Nghymru. Cyhoeddwyd ein Datganiad Polisi Caffael ein hunain ar gyfer Caffael Llywodraeth Cymrut yn Tachwedd 2021 fel enghraifft i sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus.

Mae Nodiadau Polisi Caffael Cymru Gyfan (WPPNs) a Nodiadau Polisi Caffael Llywodraeth y DU (PPNs) yr ydym wedi'u mabwysiadu ar gael yma.

Rydym wedi cyhoeddi nifer o adroddiadau a allai fod o ddiddordeb i brynwyr sector cyhoeddus:

Mae caffael yn arf pwysig ac effeithiol i gyflawni ein huchelgeisiau polisi yng Nghymru. Mae rhagor o wybodaeth, arweiniad a hyfforddiant ar sut y gall caffael gynyddu gwerth cymdeithasol i'r eithaf trwy ddarparu mwy o effeithiau ar lesiant ar gael yma.

Adnoddau

Mae Cyd yn ganolfan ragoriaeth gydweithredol lle gall cymunedau caffael a masnachol ddysgu a chefnogi ei gilydd. Mae'n cynnwys llawer o adnoddau defnyddiol gan gynnwys taith gaffael gam wrth gam [dolen] i weithwyr proffesiynol caffael ei dilyn.

Yn ogystal â'r wybodaeth broffesiynol ar wefan Cyd gallwch ddarganfod beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella gallu o fewn y proffesiwn caffael yma.

Os ydych chi'n brynwr a bod gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â ni trwy e-bostio: PolisiMasnachol@llyw.cymru