Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am y brechlynnau BTV-3 sydd ar gael ar gyfer ceidwaid anifeiliaid a milfeddygon.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Chwefror 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Gweinidogion Cymru wedi cytuno y gellir trwyddedu'r tri brechlyn BTV-3 sydd heb eu hawdurdodi ond y caniateir eu defnyddio yn y DU, i'w defnyddio yng Nghymru. 

Y brechlynnau  

Er nad yw'r brechlynnau hyn wedi'u hawdurdodi, mae'r Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol (VMD) wedi eu hasesu. Yn ei barn hi, mae'r brechlynnau o ansawdd cyson ac yn ddiogel, a phrofwyd eu bod yn effeithlon. Felly, maent yn bodloni'r meini prawf gweinyddu o dan Atodlen 4 o Reoliadau Meddyginiaethau Milfeddygol 2013 (VMR 2013).

Ble y cewch chi ddefnyddio brechlyn BTV-3 

Gellir defnyddio'r brechlynnau hyn yng Nghymru a Lloegr, ond rhaid cydymffurfio ag amodau cyfreithiol y drwydded gyffredinol.

Gwybodaeth bwysig i filfeddygon

Yn ogystal â'ch cyfrifoldeb i roi gwybod i'r awdurdodau perthnasol am unrhyw effeithiau andwyol y byddwch yn sylwi arnynt, mae Prif Swyddog Milfeddygol Cymru wedi cyhoeddi nodyn cynghori. Mae hwn yn gofyn am eich cydweithrediad i gadw cofnodion o ddosau'r brechlyn tafod glas rydych chi'n eu harchebu, eu cyflenwi a'u rhagnodi.  

Dylai milfeddygon roi gwybod i ni am yr holl frechlynnau BTV-3 y maent yn eu rhagnodi o fewn 7 diwrnod ar ôl eu rhagnodi. E-bostiwch animaldiseases@gov.wales i roi'r manylion. 

Mae'r Prif Swyddog Milfeddygol wedi gofyn am gadw cofnod oherwydd dyma'r tro cyntaf i ni ddefnyddio'r pŵer i ganiatáu brechlyn sydd heb ei awdurdodi.

Siaradwch â'ch milfeddyg 

Os nad oes brechlyn wedi'i awdurdodi, dylai ceidwaid anifeiliaid drafod manteision brechu i'w hanifeiliaid a'u busnes gyda'u milfeddyg preifat. 

Gweithiwch gyda'ch milfeddyg i: 

  • benderfynu ai brechu’ch anifeiliaid â  BTV-3 yw'r peth iawn iddyn nhw
  • penderfynu pryd yn union i frechu

Ystyried nodweddion y brechlynnau 

Yn wahanol i'r brechlynnau sydd wedi'u hawdurdodi ar gyfer seroteipiau BTV eraill, mae'r brechlynnau BTV-3 yn honni eu bod yn lleihau firemia yn hytrach na'i atal. Mae hyn yn golygu na fyddant o bosib yn rhwystro'ch anifeiliaid rhag cael eu heintio neu droi'n heintus, ond (gan ddibynnu ar y brechlyn) gallent, ymhlith pethau eraill, leihau neu atal arwyddion clinigol a marwolaethau. 

Cadwch gofnod o'ch brechiadau 

Rhaid i'ch milfeddyg ragnodi'r brechlyn i chi, ond gallwch chi, ceidwad yr anifeiliaid, roi'r brechlyn i'ch anifeiliaid. Mae'n bwysig dilyn arferion diogel. 

Pan fyddwch yn defnyddio brechlyn BTV-3. rhaid i chi:  

Symud anifeiliaid sydd wedi'u brechu 

Gan fod Cymru yn wlad heb Dafod Glas, mae anifeiliaid sydd wedi eu brechu yng Nghymru yn rhydd i symud o amgylch Prydain Fawr. Ond os yw'r anifail sydd wedi'i frechu mewn ardal Tafod Glas (er enghraifft, parth dan gyfyngiadau neu barth rheoli dros dro), rhaid iddo gadw at yr un rheolau symud ag anifail sydd heb ei frechu.