Neidio i'r prif gynnwy

Mae gwell cynlluniau i wrthsefyll pwysau'r gaeaf yn eu lle i fynd i'r afael â'r heriau tymhorol sy'n wynebu GIG Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Tachwedd 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Amlinellodd Mr Gething nifer o gamau gweithredu cadarnhaol i leddfu'r pwysau ar ysbytai, gan gynnwys cynyddu nifer y gwelyau sydd ar gael a chryfhau gwasanaethau triniaeth ddydd brys er mwyn i gleifion â chyflyrau penodol gael eu trin heb orfod aros yn yr ysbyty dros nos.

Cyhoeddwyd y camau cadarnhaol hyn wrth i Brif Weithredwr GIG Cymru, Dr Andrew Goodall alw ar bobl i wneud Dewis Doeth a'r penderfyniadau cywir ynghylch ble i droi am gyngor a thriniaeth os oes angen, er mwyn helpu i leddfu'r pwysau ar feddygon teulu ac adrannau brys mewn ysbytai.

Hefyd lansiodd Dr Goodall fenter newydd, Fy Iechyd y Gaeaf Hwn. Bwriad y cynllun yw helpu pobl â chyflyrau iechyd corfforol neu feddyliol hirdymor i ddarparu gwybodaeth hanfodol i weithwyr iechyd proffesiynol sy’n ymweld â nhw, er mwyn caniatáu i fwy o bobl gael eu gweld a'u trin yn y cartref ac osgoi ymweliadau diangen ag adrannau damweiniau ac achosion brys.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething: 

"Mae'r gaeaf yn adeg heriol i'n gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ac i'r staff sy'n gweithio mor galed yma yng Nghymru, fel gweddill y Deyrnas Unedig.

"Bydd cyfres o gamau gweithredu cadarnhaol yn cael eu cyflwyno i gryfhau gwasanaethau lleol a chenedlaethol, gan gynnwys cynyddu nifer y gwelyau sydd ar gael mewn ysbytai ac yn y gymuned er mwyn dygymod â'r nifer uwch o gleifion ag amrywiol gyflyrau rydyn ni'n disgwyl y bydd angen eu derbyn i'r ysbyty dros y gaeaf.  

"Fel llynedd, byddwn yn gweld gwasanaethau triniaeth ddydd brys yn cryfhau er mwyn i gleifion â chyflyrau penodol gael eu trin heb orfod aros yn yr ysbyty dros nos lle bynnag y bo hynny'n bosib.

"Camau eraill sy'n cael eu cymryd y gaeaf hwn yw mwy o ddarpariaeth saith diwrnod gwaith; mwy o benderfyniadau uwch wrth ddrws ffrynt yr ysbyty; ymestyn oriau gwaith; cymorth ychwanegol i wasanaethau y tu allan i oriau a chartrefi gofal; gwell defnydd o weithwyr cymdeithasol mewn ysbytai a mwy o ddefnydd o gefnogaeth fferyllfeydd."

Dywedodd Prif Weithredwr GIG Cymru, Dr Andrew Goodall:

"Bydd dewis y gwasanaethau a'r triniaethau cywir yn arbed amser ac yn sicrhau eich bod chi a'ch teulu'n cael y gofal cywir, a hynny'n gyflym. Rwy'n gwybod y bydd staff y gwasanaeth iechyd yn gweithio'n galed y gaeaf hwn.  Bydd dewis doeth yn eu helpu nhw i'ch helpu chi."

Dywedodd Dr Goodall bod 10,000 copi o Fy Iechyd y Gaeaf Hwn, sydd hefyd yn cynnwys awgrymiadau defnyddiol am iechyd a gofal dros y gaeaf, yn cael eu dosbarthu gan fyrddau iechyd, awdurdodau lleol a nifer o sefydliadau allweddol gan gynnwys Age Cymru.

Dywedodd: 

"Nod Fy Iechyd y Gaeaf Hwn yw rhoi ffurflen i bobl â chyflyrau cronig, neu eu gofalwyr, er mwyn iddyn nhw ei harddangos ar yr oergell neu rywle arall yn y cartref lle gellir ei gweld yn hawdd. Yna os bydd gweithiwr iechyd a gofal proffesiynol, aelod o'r teulu neu gymydog yn ymweld â nhw yn eu cartref mewn argyfwng, bydd gwybodaeth bwysig, ddefnyddiol ar gael i helpu'r person hwnnw i benderfynu beth i'w wneud nesaf.  Rydyn ni'n disgwyl y bydd hyn yn helpu i osgoi ymweliadau diangen â'r ysbyty."

Atgoffodd Dr Goodall bod modd i bawb helpu i leddfu pwysau'r gaeaf drwy ddefnyddio'r amrywiol weithwyr proffesiynol iechyd a gofal mewn cymunedau i gael cyngor a thriniaeth pan maent yn sâl.

"Gall fferyllwyr cymunedol roi cyngor i chi a'ch teulu am fân anhwylderau, peswch neu annwyd. Gallan nhw gynnig cyngor arbenigol, meddyginiaeth dros y cownter a phresgripsiynau, a'ch cynghori p'un a oes angen i chi weld meddyg ai peidio," meddai Dr Goodall. 

"Drwy wneud y penderfyniad hanfodol hwn, yn aml gallwch gael eich gweld a'ch trin yn gynt, gan arbed amser a rhyddhau meddygon teulu ac adrannau brys mewn ysbytai i'r rhai sydd eu hangen mewn gwirionedd.

"Os yw eich symptomau’n parhau, os oes gennych chi haint neu os oes gan eich plentyn wres, ewch i weld eich meddyg teulu.

“Os nad yw'n achos sy'n peryglu bywyd a'ch bod yn ansicr at bwy i fynd, ffoniwch Galw Iechyd Cymru ar 0845 46 47 neu edrychwch ar dudalen Hunan Asesiadau  Galw Iechyd Cymru.

"Mae'r adran frys yna i bobl sy'n wael iawn neu sydd wedi cael anaf difrifol. Os nad dyma eich sefyllfa chi gallwch gael y gofal cywir yn gyflymach drwy wneud dewis doeth.  Hyd yn oed os yw'r adran frys yn agosach, nid dyma'r lle i fynd i drin y rhan fwyaf o broblemau iechyd.

“Mae sawl peth bach y gall pob un ohonon ni ei wneud i helpu fel sicrhau bod presgripsiynau wedi cael eu harchebu ymlaen llaw.  Gall ffrindiau a pherthnasau pobl hŷn helpu drwy fynd i'w gweld a gwneud yn siŵr eu bod yn cadw eu tai yn gynnes – 18 – 21 gradd – er mwyn atal unrhyw broblemau iechyd presennol rhag gwaethygu.”