Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae’r data a gyflwynir yma yn adlewyrchu’r gwrthdrawiadau ar y ffyrdd lle y cafwyd anafiadau personol a gofnodwyd gan heddluoedd yng Nghymru rhwng mis Ionawr a mis Mawrth (Ch1) 2024. Er mai’r data hyn yw’r ffynhonnell wybodaeth fwyaf manwl a dibynadwy am wrthdrawiadau ac anafiadau ar y ffyrdd, nid ydynt yn rhoi cofnod cyflawn o’r holl ddigwyddiadau o’r fath.

O ystyried y diddordeb cynyddol mewn data am wrthdrawiadau ers cyflwyno’r terfyn cyflymder diofyn o 20mya ar 17 Medi 2023, rydym yn cyhoeddi hwn ochr yn ochr â’r tablau data chwarterol rheolaidd i grynhoi canlyniadau allweddol ac i helpu i ddehongli a deall yr wybodaeth. Hefyd, cyhoeddom ddiweddariad y Prif Ystadegydd ar ‘ddeall ystadegau ar wrthdrawiadau ac anafiadau ar y ffyrdd’ ar 24 Mai 2024.

Caiff yr holl ddata sylfaenol eu cyhoeddi ar StatsCymru, a’n dangosfwrdd gwrthdrawiadau ar y ffyrdd.

Mae’r data ar gyfer Ch1 2024 yn ddata dros dro a bydd yn destun adolygiad posibl yn y dyfodol. Caiff gwybodaeth fanwl am ansawdd ei chyhoeddi yn yr adroddiad ansawdd cysylltiedig.

Gwrthdrawiadau

Caiff data cyfres amser dros y tymor hir eu cyflwyno yn ein datganiad ystadegol blynyddol ac mae’r data yn dangos gostyngiad hirdymor yn nifer y gwrthdrawiadau ar y ffyrdd a gofnodwyd gan heddluoedd yng Nghymru.

Yn Ch1 2024, cafwyd 606 o wrthdrawiadau ar y ffyrdd a gofnodwyd gan heddluoedd yng Nghymru, ac o’u plith roedd:

  • 16 (3%) yn angheuol
  • 163 (27%) yn wrthdrawiadau difrifol
  • 427 (70%) yn fân wrthdrawiadau

Mae cyfanswm y gwrthdrawiadau 18% yn llai nag yn y chwarter blaenorol (737) ac 17% yn is nag yn yr un chwarter yn 2023 (733).

Nifer y gwrthdrawiadau ar y ffyrdd a gofnodwyd gan heddluoedd yn Ch1 2024 yw'r ffigur chwarterol isaf a gofnodwyd yng Nghymru y tu allan i gyfnod COVID-19. Fodd bynnag, mae nifer y gwrthdrawiadau ffyrdd chwarterol yng Nghymru wedi bod yn gostwng yn raddol yn gyffredinol dros y degawd diwethaf a gall ffigyrau chwarterol fod yn gyfnewidiol. Dylid cymryd gofal wrth ddehongli'r data hyn dros gyfnod byr.

Ffigur 1: Gwrthdrawiadau ar y ffyrdd a gofnodwyd gan heddluoedd yng Nghymru fesul chwarter, Ch1 2010 i Ch1 2024

 

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Mae'r siart llinell yn dangos cyfres amser ar gyfer nifer y gwrthdrawiadau ar y ffyrdd a gofnodwyd gan heddluoedd yng Nghymru fesul chwarter rhwng Ch1 2010 a Ch1 2024. Mae nifer y gwrthdrawiadau ffyrdd chwarterol wedi gostwng yn gyson dros y degawd diwethaf.

Ffynhonnell: Ystadegau gwrthdrawiadau ffyrdd, Llywodraeth Cymru

Terfyn cyflymder 20mya a 30mya ar y ffyrdd 

Daeth y rhan fwyaf o'r ffyrdd a oedd yn 30mya yn 20mya ar 17 Medi. O ystyried bod llawer mwy o ffyrdd bellach yn ffyrdd 20mya (cynnydd o ryw 870km i 13,000km), a bod llawer llai yn 30mya (gostyngiad o ryw 13,100km i 980km), mae'r adran hon yn ystyried gwrthdrawiadau a ddigwyddodd ar bob ffordd 20mya a 30mya (wedi’u cyfuno).

Yn Ch1 2024, roedd 316 o wrthdrawiadau ar ffyrdd â therfynau cyflymder 20mya a 30mya (wedi’u cyfuno). O'r rhain, roedd 5 yn wrthdrawiadau angheuol, 69 yn ddifrifol a 242 yn fân wrthdrawiadau.

Mae nifer y gwrthdrawiadau ar ffyrdd 20mya neu 30mya 17% yn is nag yn y chwarter blaenorol (379) a 25% yn is nag yn yr un chwarter yn 2023 (421).

Nifer y gwrthdrawiadau ar y ffyrdd a gofnodwyd gan heddluoedd ar ffyrdd 20mya neu 30mya yn Ch1 2024 yw'r ffigur chwarterol isaf a gofnodwyd yng Nghymru y tu allan i gyfnod COVID-19. Yn gyffredinol, mae'r nifer hwn wedi bod yn gostwng dros y degawd diwethaf.

Ar hyn o bryd mae data am wrthdrawiadau ar y ffyrdd ar ôl y newid i'r terfyn cyflymder diofyn o 20mya wedi'u cyfyngu i gyfnod byr o amser (17 Medi 2023 i 31 Mawrth 2024) ac mae'n gyfnewidiol dros y tymor byr. Dylid cymryd gofal wrth ddehongli'r data hyn dros gyfnod byr. Byddwn yn parhau i fonitro hyn dros amser wrth i fwy o ddata ddod ar gael. Mae diweddariad ein Prif Ystadegydd yn cynnwys rhagor o wybodaeth.

Ffigur 2: Gwrthdrawiadau ar ffyrdd sydd â therfyn cyflymder o 20mya neu 30mya (wedi’u cyfuno) a gofnodwyd gan heddluoedd yng Nghymru fesul chwarter, Ch1 2010 i Ch1 2024

Image

Disgrifiad o Ffigur 2: Mae'r siart llinell yn dangos cyfres amser ar gyfer gwrthdrawiadau ar y ffyrdd a gofnodwyd gan heddluoedd ar ffyrdd sydd â therfyn cyflymder o 20mya neu 30mya (wedi’u cyfuno) yng Nghymru fesul chwarter rhwng Ch1 2010 a Ch1 2024. Mae nifer y gwrthdrawiadau ar ffyrdd 20mya neu 30mya fesul chwarter wedi gostwng yn gyson dros y degawd diwethaf.

Ffynhonnell: Ystadegau gwrthdrawiadau ffyrdd, Llywodraeth Cymru

Anafiadau

Gall gwrthdrawiadau unigol ar y ffyrdd arwain at anafiadau i lawer o bobl, sy’n amrywio o ran difrifoldeb.

Yn Ch1 2024, cafodd 811 o bobl eu hanafu mewn gwrthdrawiadau ar y ffyrdd yng Nghymru, ac o blith yr anafiadau hyn: 

  • cafodd 16 (2%) eu lladd
  • cafodd 188 (23%) o bobl eu hanafu’n ddifrifol
  • cafodd 607 (75%) fân anafiadau

Mae cyfanswm yr anafiadau 17% yn is nag yn y chwarter blaenorol (982) a 16% yn is nag yn yr un chwarter yn 2023 (968).

Nifer yr anafiadau mewn gwrthdrawiadau ar y ffyrdd a gofnodwyd gan heddluoedd yn Ch1 2024 yw'r ffigur chwarterol isaf a gofnodwyd yng Nghymru y tu allan i gyfnod COVID-19. Yn gyffredinol, mae'r nifer hwn wedi bod yn gostwng dros y degawd diwethaf.

Ffigur 3: Anafiadau mewn gwrthdrawiadau ar y ffyrdd yng Nghymru fesul chwarter, Ch1 2010 i Ch1 2024

Image

Disgrifiad o Ffigur 3: Mae'r siart llinell yn dangos cyfres amser ar gyfer nifer yr anafiadau mewn gwrthdrawiadau ffyrdd a gofnodwyd gan heddluoedd yng Nghymru fesul chwarter rhwng Ch1 2010 a Ch1 2024. Mae nifer yr anafiadau chwarterol wedi gostwng yn gyson dros y degawd diwethaf.

Ffynhonnell: Ystadegau gwrthdrawiadau ffyrdd, Llywodraeth Cymru

Terfyn cyflymder 20mya a 30mya ar y ffyrdd

Yn Ch1 2024, cafodd 377 o bobl eu hanafu mewn gwrthdrawiadau ar ffyrdd sydd â therfynau cyflymder o 20mya a 30mya (wedi’u cyfuno). O blith yr anafiadau hyn, roedd 5 yn angheuol, 73 yn ddifrifol a 299 yn fân anafiadau.

Mae nifer yr anafiadau ar ffyrdd 20mya neu 30mya 19% yn is nag yn y chwarter blaenorol (463) a 26% yn is nag yn yr un chwarter yn 2023 (510).

Nifer yr anafiadau ar ffyrdd sydd â therfynau cyflymder o 20mya a 30mya (wedi’u cyfuno) yn Ch1 2024 oedd y ffigurau chwarterol isaf a gofnodwyd yng Nghymru y tu allan i gyfnod COVID-19. Yn gyffredinol, mae'r nifer hwn wedi bod yn gostwng dros y degawd diwethaf.

Ffigur 4: Anafiadau a gofnodwyd ar ffyrdd sydd â therfynau cyflymder o 20mya a 30mya yng Nghymru fesul chwarter, Ch1 2010 i Ch1 2024

Image

Disgrifiad o Ffigur 4: Mae'r siart llinell yn dangos cyfres amser chwarterol o anafiadau mewn gwrthdrawiadau ffyrdd a gofnodwyd gan heddluoedd ar ffyrdd sydd â therfynau cyflymder o 20mya neu 30mya (wedi’u cyfuno) yng Nghymru fesul chwarter rhwng Ch1 2010 a Ch1 2024. Mae'r niferoedd wedi gostwng yn gyson dros y degawd diwethaf.

Ffynhonnell: Ystadegau gwrthdrawiadau ffyrdd, Llywodraeth Cymru

Nodiadau

Mae’r ystadegau’n cyfeirio’n unig at bobl a gafodd anafiadau personol mewn gwrthdrawiadau ar y ffyrdd y rhoddwyd gwybod amdanynt i’r heddlu. Ceir rhywfaint o bosibilrwydd o thangofnodi achosion o’r fath, yn enwedig ar gyfer digwyddiadau llai difrifol lle nad oedd swyddogion yr heddlu yn bresennol ynddynt.

Nid yw’r ystadegau hyn yn cynnwys gwrthdrawiadau ar y ffyrdd: 

  • na roddwyd gwybod amdanynt i’r heddlu
  • a ddigwyddodd ar dir preifat h.y. meysydd parcio neu gaeau
  • lle na gofnodwyd unrhyw anafiadau personol
  • lle cadarnhawyd y gwrthdrawiad yn hwyrach gan weithiwr meddygol proffesiynol neu grwner i fod yn hunanladdiad neu episod meddygol.

Ar 17 Medi 2023, newidiodd y gyfraith y terfyn cyflymder diofyn ar ffyrdd cyfyngedig yng Nghymru o 30mya i 20mya. Mae'r ffyrdd hyn fel arfer yn strydoedd preswyl neu brysur i gerddwyr gyda goleuadau stryd. Bydd y newidiadau wedi effeithio ar y rhan fwyaf o ffyrdd oedd yn 30mya cyn 17 Medi, ond nid pob un. Rydym wedi cyhoeddi map ar MapDataCymru sy'n dangos pa ffyrdd sydd wedi aros ar 30mya.

Mae rhai materion ansawdd data wedi'u nodi mewn perthynas â’r terfyn cyflymder a gofnodwyd ar gyfer y ffyrdd lle digwyddodd y gwrthdrawiadau. Caiff hyn ei esbonio’n fanylach ar ddechrau Gwrthdrawiadau ffyrdd a gofnodwyd gan yr Heddlu: bwletin ystadegol 2023 ac yn yr adroddiad ansawdd data.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: James Khonje
E-bost: ystadegau.trafnidiaeth@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Image