Gwrthdrawiadau ffyrdd wedi’u cofnodi gan yr heddlu: Ebrill i Mehefin 2024 (dros dro)
Data am ddifrifoldeb yr anafiadau a'r math o ddefnyddiwr ffordd ar gyfer Ebrill i Mehefin 2024.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae’r data a gyflwynir yma yn adlewyrchu’r gwrthdrawiadau ar y ffyrdd lle y cafwyd anafiadau personol a gofnodwyd gan heddluoedd yng Nghymru rhwng mis Ebrill a mis Mehefin (Ch2) 2024. Er mai’r data hyn yw’r ffynhonnell wybodaeth fwyaf manwl a dibynadwy am wrthdrawiadau ac anafiadau ar y ffyrdd, nid ydynt yn cynnwys gwrthdrawiadau ffyrdd:
- na chafodd eu hadrodd i'r heddlu
- ddigwyddodd ar dir preifat h.y. meysydd parcio neu gaeau.
- lle na chofnodwyd unrhyw anaf personol
- lle cadarnhawyd y gwrthdrawiad yn ddiweddarach gan weithiwr meddygol proffesiynol neu grwner i fod yn hunanladdiad neu bennod feddygol
O ystyried y diddordeb cynyddol mewn data am wrthdrawiadau ers cyflwyno’r terfyn cyflymder diofyn o 20mya ar 17 Medi 2023, rydym yn cyhoeddi hwn ochr yn ochr â’r tablau data chwarterol rheolaidd i grynhoi canlyniadau allweddol ac i helpu i ddehongli a deall yr wybodaeth. Hefyd, cyhoeddom ddiweddariad y Prif Ystadegydd ar ‘ddeall ystadegau ar wrthdrawiadau ac anafiadau ar y ffyrdd’ ar 24 Mai 2024.
Caiff yr holl ddata sylfaenol eu cyhoeddi ar StatsCymru, a’n dangosfwrdd gwrthdrawiadau ar y ffyrdd. Mae hyn yn cynnwys manylion ychwanegol am wrthdrawiadau ac anafiadau yn ôl ardal ddaearyddol, terfyn cyflymder, difrifoldeb a math o gerbyd.
Mae’r data ar gyfer Ch2 2024 yn ddata dros dro a bydd yn destun adolygiad posibl yn y dyfodol. Gwnaed mân ddiwygiadau i ddata Ch1 2024 oherwydd argaeledd data wedi'i ddiweddaru gan heddluoedd, mae'r rhain wedi'u marcio â (r). Caiff gwybodaeth fanwl am ansawdd ei chyhoeddi yn yr adroddiad ansawdd cysylltiedig.
Gwrthdrawiadau
Caiff data cyfres amser dros y tymor hir eu cyflwyno yn ein datganiad ystadegol blynyddol ac mae’r data yn dangos gostyngiad hirdymor yn nifer y gwrthdrawiadau ar y ffyrdd a gofnodwyd gan heddluoedd yng Nghymru.
Yn Ch2 2024, cafwyd 730 o wrthdrawiadau ar y ffyrdd a gofnodwyd gan heddluoedd yng Nghymru, ac o’u plith roedd:
- 20 (3%) yn angheuol
- 218 (30%) yn wrthdrawiadau difrifol
- 492 (67%) yn fân wrthdrawiadau
Mae nifer y gwrthdrawiadau 16% yn is nag yn yr un chwarter (Ebrill i Mehefin) yn 2023 (869) a dyma’r ffigur chwarter 2 isaf a gofnodwyd y tu allan i gyfnod coronafeirws (COVID-19).
Mae nifer y gwrthdrawiadau 20% yn uwch nag yn y chwarter blaenorol (609 (r)). Mae data gwrthdrawiadau yn dymhorol ac yn cael ei effeithio gan ffactorau fel traffig a thywydd. Mae nifer y gwrthdrawiadau yn tueddu i fod yn uwch yn Ch2 na Ch1 (mae hyn yn wir am 11 o'r 15 mlynedd diwethaf).
Mae nifer y gwrthdrawiadau ffyrdd chwarterol yng Nghymru wedi bod yn gostwng yn raddol yn gyffredinol dros y degawd diwethaf a gall ffigyrau chwarterol fod yn gyfnewidiol. Dylid cymryd gofal wrth ddehongli'r data hyn dros gyfnod byr.
Ffigur 1: Gwrthdrawiadau ar y ffyrdd a gofnodwyd gan heddluoedd yng Nghymru fesul chwarter, Ch1 2010 i Ch2 2024
Disgrifiad o Ffigur 1: Mae'r siart llinell yn dangos cyfres amser ar gyfer nifer y gwrthdrawiadau ar y ffyrdd a gofnodwyd gan heddluoedd yng Nghymru fesul chwarter rhwng Ch2 2010 a Ch1 2024. Mae nifer y gwrthdrawiadau ffyrdd chwarterol wedi gostwng yn gyson dros y degawd diwethaf.
Ffynhonnell: Ystadegau gwrthdrawiadau ffyrdd, Llywodraeth Cymru
Terfyn cyflymder 20mya a 30mya ar y ffyrdd
Daeth y rhan fwyaf o'r ffyrdd a oedd yn 30mya yn 20mya ar 17 Medi 2023. Felly mae llawer mwy o ffyrdd bellach yn ffyrdd 20mya (cynnydd o ryw 870km i 13,000km), a bod llawer llai yn 30mya (gostyngiad o ryw 13,100km i 980km).
Mae'r adran hon yn ystyried gwrthdrawiadau a ddigwyddodd ar bob ffordd 20mya a 30mya (gyda'i gilydd) i ganiatáu cymariaethau uniongyrchol ar gyfer yr un set o ffyrdd cyn ac ar ôl y newid yn y terfyn cyflymder diofyn ar ffyrdd cyfyngedig.
Yn Ch2 2024, roedd 361 o wrthdrawiadau ar ffyrdd â therfynau cyflymder 20mya a 30mya (wedi’u cyfuno). O'r rhain, roedd 6 yn wrthdrawiadau angheuol, 90 yn ddifrifol a 265 yn fân wrthdrawiadau.
Mae nifer y gwrthdrawiadau ar ffyrdd 20mya neu 30mya (wedi’u cyfuno) a 24% yn is nag yn yr un chwarter yn 2023 (477) a dyma’r ffigur chwarter 2 isaf a gofnodwyd yng Nghymru y tu allan i gyfnod COVID-19. Yn gyffredinol, mae'r rhif hwn wedi bod yn gostwng ar y cyfan dros y degawd diwethaf.
Mae nifer y gwrthdrawiadau ar ffyrdd 20 a 30mya (wedi’u cyfuno) 14% yn uwch nag yn y chwarter blaenorol (318 (r)).
Ar hyn o bryd mae data am wrthdrawiadau ar y ffyrdd ar ôl y newid i'r terfyn cyflymder diofyn o 20mya wedi'u cyfyngu i gyfnod byr o amser (17 Medi 2023 i 30 Mehefin 2024) ac mae'n gyfnewidiol dros y tymor byr. Dylid cymryd gofal wrth ddehongli'r data hyn dros gyfnod byr. Byddwn yn parhau i fonitro hyn dros amser wrth i fwy o ddata ddod ar gael. Mae diweddariad ein Prif Ystadegydd yn cynnwys rhagor o wybodaeth.
Ffigur 2: Gwrthdrawiadau ar ffyrdd sydd â therfyn cyflymder o 20mya neu 30mya (wedi’u cyfuno) a gofnodwyd gan heddluoedd yng Nghymru fesul chwarter, Ch1 2010 i Ch2 2024
Disgrifiad o Ffigur 2: Mae'r siart llinell yn dangos cyfres amser ar gyfer gwrthdrawiadau ar y ffyrdd a gofnodwyd gan heddluoedd ar ffyrdd sydd â therfyn cyflymder o 20mya neu 30mya (wedi’u cyfuno) yng Nghymru fesul chwarter rhwng Ch1 2010 a Ch2 2024. Mae nifer y gwrthdrawiadau ar ffyrdd 20mya neu 30mya fesul chwarter wedi gostwng yn gyson dros y degawd diwethaf.
Ffynhonnell: Ystadegau gwrthdrawiadau ffyrdd, Llywodraeth Cymru
Anafiadau
Gall gwrthdrawiadau unigol ar y ffyrdd arwain at anafiadau i lawer o bobl, sy’n amrywio o ran difrifoldeb.
Yn Ch2 2024, cafodd 1,006 o bobl eu hanafu mewn gwrthdrawiadau ar y ffyrdd yng Nghymru, ac o blith yr anafiadau hyn:
- cafodd 21 (2%) eu lladd
- cafodd 245 (24%) o bobl eu hanafu’n ddifrifol
- cafodd 740 (74%) fân anafiadau
Mae nifer yr anafiadau 12% yn is nag yn yr un chwarter yn 2023 (1,138) a dyma’r ffigur chwarter 2 isaf yng Nghymru y tu allan i gyfnod COVID-19. Yn gyffredinol, mae'r nifer hwn wedi bod yn gostwng dros y degawd diwethaf.
Mae nifer yr anafiadau mewn gwrthdrawiadau ffyrdd a gofnodwyd gan yr heddlu yn 2024 24% yn uwch nag yn y chwarter blaenorol (814 (r)). Mae data gwrthdrawiadau yn dymhorol ac yn cael ei effeithio gan ffactorau fel traffig a thywydd. Mae nifer y marwolaethau yn tueddu i fod yn uwch yn Ch2 na Ch1 (mae hyn yn wir am 11 o'r 15 mlynedd diwethaf).
Ffigur 3: Anafiadau mewn gwrthdrawiadau ar y ffyrdd yng Nghymru fesul chwarter, Ch1 2010 i Ch2 2024
Disgrifiad o Ffigur 3: Mae'r siart llinell yn dangos cyfres amser ar gyfer nifer yr anafiadau mewn gwrthdrawiadau ffyrdd a gofnodwyd gan heddluoedd yng Nghymru fesul chwarter rhwng Ch1 2010 a Ch2 2024. Mae nifer yr anafiadau chwarterol wedi gostwng yn gyson dros y degawd diwethaf.
Ffynhonnell: Ystadegau gwrthdrawiadau ffyrdd, Llywodraeth Cymru
Terfyn cyflymder 20mya a 30mya ar y ffyrdd
Yn Ch2 2024, cafodd 444 o bobl eu hanafu mewn gwrthdrawiadau ar ffyrdd sydd â therfynau cyflymder o 20mya a 30mya (wedi’u cyfuno). O blith yr anafiadau hyn, roedd 6 yn angheuol, 98 yn ddifrifol a 340 yn fân anafiadau.
Mae nifer yr anafiadau ar ffyrdd 20mya a 30mya 19% (wedi’u cyfuno) 24% yn is nag yn yr un chwarter yn 2023 (584) a 17% yn uwch nag yn y chwarter blaenorol (379 (r)).
Nifer yr anafiadau ar ffyrdd sydd â therfynau cyflymder o 20mya a 30mya (wedi’u cyfuno) yn Ch2 2024 oedd y ffigurau chwarter 2 isaf a gofnodwyd yng Nghymru y tu allan i gyfnod COVID-19. Yn gyffredinol, mae'r nifer hwn wedi bod yn gostwng dros y degawd diwethaf.
Ffigur 4: Anafiadau a gofnodwyd ar ffyrdd sydd â therfynau cyflymder o 20mya a 30mya yng Nghymru fesul chwarter, Ch1 2010 i Ch2 2024
Disgrifiad o Ffigur 4: Mae'r siart llinell yn dangos cyfres amser chwarterol o anafiadau mewn gwrthdrawiadau ffyrdd a gofnodwyd gan heddluoedd ar ffyrdd sydd â therfynau cyflymder o 20mya neu 30mya (wedi’u cyfuno) yng Nghymru fesul chwarter rhwng Ch1 2010 a Ch2 2024. Mae'r niferoedd wedi gostwng yn gyson dros y degawd diwethaf.
Ffynhonnell: Ystadegau gwrthdrawiadau ffyrdd, Llywodraeth Cymru
Nodiadau
Mae’r ystadegau’n cyfeirio’n unig at bobl a gafodd anafiadau personol mewn gwrthdrawiadau ar y ffyrdd y rhoddwyd gwybod amdanynt i’r heddlu. Ceir rhywfaint o bosibilrwydd o thangofnodi achosion o’r fath, yn enwedig ar gyfer digwyddiadau llai difrifol lle nad oedd swyddogion yr heddlu yn bresennol ynddynt.
Nid yw’r ystadegau hyn yn cynnwys gwrthdrawiadau ar y ffyrdd:
- na roddwyd gwybod amdanynt i’r heddlu
- a ddigwyddodd ar dir preifat h.y. meysydd parcio neu gaeau
- lle na gofnodwyd unrhyw anafiadau personol
- lle cadarnhawyd y gwrthdrawiad yn hwyrach gan weithiwr meddygol proffesiynol neu grwner i fod yn hunanladdiad neu episod meddygol
Ar 17 Medi 2023, newidiodd y gyfraith y terfyn cyflymder diofyn ar ffyrdd cyfyngedig yng Nghymru o 30mya i 20mya. Mae'r ffyrdd hyn fel arfer yn strydoedd preswyl neu brysur i gerddwyr gyda goleuadau stryd. Bydd y newidiadau wedi effeithio ar y rhan fwyaf o ffyrdd oedd yn 30mya cyn 17 Medi, ond nid pob un. Rydym wedi cyhoeddi map ar MapDataCymru sy'n dangos pa ffyrdd sydd wedi aros ar 30mya.
Mae rhai materion ansawdd data wedi'u nodi mewn perthynas â’r terfyn cyflymder a gofnodwyd ar gyfer y ffyrdd lle digwyddodd y gwrthdrawiadau. Caiff hyn ei esbonio’n fanylach ar ddechrau Gwrthdrawiadau ffyrdd a gofnodwyd gan yr Heddlu: bwletin ystadegol 2023 ac yn yr adroddiad ansawdd data.