Data am ddifrifoldeb yr anafiadau a'r math o ddefnyddiwr ffordd ar gyfer Ebrill i Fehefin 2023.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Gwrthdrawiadau ffyrdd wedi’u cofnodi gan yr heddlu
Cyhoeddwyd data ar StatsCymru. Ar 15 Mai 2023, mabwysiadodd Heddlu Dyfed Powys system adrodd ar sail anafiadau (IBRS) ar gyfer adrodd am wrthdrawiadau ffyrdd a gofnodwyd gan yr heddlu. Cesglir data gan ddefnyddio'r system CRaSH (Collision Reporting and Sharing), pan fo'r heddwas sy'n bresennol yn cofnodi holl anafiadau'r person a anafwyd. Yna caiff yr anafiadau eu categoreiddio'n awtomatig yn ôl lefel difrifoldeb naill ai ‘mân’ i ‘difrifol’, ac mae'r lefel difrifoldeb uchaf yn cael ei defnyddio i nodi lefel difrifoldeb anafiadau'r person. Mae'r tri llu heddlu arall yng Nghymru yn parhau i ddefnyddio system adrodd nad yw'n seiliedig ar anafiadau pan fo swyddogion yr heddlu yn defnyddio eu barn a'u canllawiau i benderfynu yn uniongyrchol ar ddifrifoldeb o ran y person a anafwyd (angheuol, difrifol neu fân).
Mae'r rhan fwyaf o heddluoedd yn Lloegr, yn ogystal â Heddlu'r Alban yn defnyddio'r system CRaSH, ac mae rhai wedi gwneud hynny ers sawl blwyddyn. Mae cyflwyno IBRS wedi arwain at newid yn nifrifoldeb rhai anafusion ffyrdd yr adroddwyd amdanynt (mae'n bosibl i rai anafusion a fyddai'n cael eu categoreiddio fel rhai ‘mân’ ar systemau adrodd nad ydynt yn seiliedig ar anafiadau gael eu cofnodi fel rhai ‘difrifol’ mewn systemau adrodd sy'n seiliedig ar anafiadau). Mae dadansoddiad a wnaed gan yr Adran Drafnidiaeth yn awgrymu bod newid i IBRS yn ychwanegu rhwng 5% a 15% at gyfanswm Prydain Fawr ar gyfer anafiadau ‘difrifol’, ac yn lleihau nifer yr anafiadau ‘mân’. Nid yw cyfanswm y gwrthdrawiadau a'r anafusion yn cael eu heffeithio.
Nid ydym wedi addasu unrhyw ffigurau i ystyried y newidiadau hyn. Mae difrifoldeb y gwrthdrawiadau a'r anafusion a gyhoeddir fel yr adroddwyd gan heddluoedd. Mae'n debygol o Ch2 2023 ymlaen y bydd mwy o wrthdrawiadau yn Nyfed Powys yn cael eu hadrodd fel rhai difrifol nag o'r blaen, a llai fel rhai mân. Gall hyn hefyd effeithio ar gyfanswm y gwrthdrawiadau difrifol a mân ledled Cymru. Nid yw cyfanswm y gwrthdrawiadau a'r anafusion yn cael eu heffeithio. Wrth i ni gael mwy o ddata gan Ddyfed Powys byddwn yn adolygu'r angen i gynhyrchu addasiad, a byddwn yn parhau i roi gwybod i ddefnyddwyr am y newid hwn.
Cyswllt
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.