Neidio i'r prif gynnwy

Diwygiwyd yr adroddiad hwn ar 11 Hydref 2023, ar ôl ei gyhoeddi ar 26 Ebrill 2023. Roedd y diwygiad o ganlyniad i ddata 2022 a gyflwynwyd yn hwyr gan un llu heddlu. Mae ystadegau drwy gydol y cyhoeddiad wedi eu heffeithio (data Heddlu De Cymru a Chymru). Mae newidiadau wedi'u marcio â (r). Cynyddodd nifer y gwrthdrawiadau ffyrdd a gofnodwyd o 3,312 to 3,315. Nid yw'r tueddiadau yn yr adroddiad wedi newid.

Prif bwyntiau (diwygiedig)

  • Yn 2022, cofnododd heddluoedd yng Nghymru gyfanswm o 3,315(r) o wrthdrawiadau ar y ffyrdd, Yn fras, mae'n debyg i'r nifer a welwyd yn 2021 a 23.4%(r) yn llai nag yn 2019.
  • Arweiniodd y gwrthdrawiadau hyn ar y ffyrdd yn 2022 at 4,447(r) o anafiadau personol. O'r rhain, cafodd 95(r) o bobl eu lladd, cafodd 921 o bobl eu hanafu'n ddifrifol a chofnodwyd 3,431(r) o ‘fân’ anafiadau.
  • Yn ystod 2022, digwyddodd dros hanner yr holl wrthdrawiadau ar y ffyrdd (51%) ar ffyrdd 30mya a digwyddodd y gyfran ail uchaf (25%) ar ffyrdd 60mya. Roedd rhannau o ffyrdd â therfyn cyflymder o 20mya yn cyfrif am 6% o'r holl wrthdrawiadau.

Nodi: Mae'r derminoleg o fewn y datganiad hwn wedi newid o ddamweiniau ffordd i wrthdrawiadau ffyrdd.

Ffigur 1: Gwrthdrawiadau ar y ffyrdd a gofnodwyd lle y cafwyd anafiadau personol, 1993 tan 2022 (diwygiedig)

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Mae'r siart llinell yn dangos cyfres amser y gwrthdrawiadau ar y ffyrdd sydd wedi’u cofnodi gan yr heddlu, ar gyfer Cymru gyfan o 1993 i 2022.

Ffynhonnell: Ystadegau Damweiniau Ffyrdd, Llywodraeth Cymru

  • O ran y duedd hirdymor, bu cwymp cyffredinol yn nifer y gwrthdrawiadau ar y ffyrdd lle y cafwyd anafiadau personol a gofnodwyd gan heddluoedd yng Nghymru.
  • Dros y blynyddoedd diwethaf, mae nifer y gwrthdrawiadau lle y cafodd rhywun ei ladd neu ei anafu'n ddifrifol wedi bod yn gymharol sefydlog. Mae’r gostyngiad cyffredinol yn nifer y gwrthdrawiadau yn cael ei ysgogi’n bennaf gan ostyngiad parhaus mewn gwrthdrawiadau lle y cafodd rhywun anaf ‘bach’.

Diffiniad a chwmpas y data

Mae'r data a gyflwynir yn yr adroddiad hwn yn adlewyrchu'r gwrthdrawiadau ar y ffyrdd lle y cafwyd anafiadau personol a gofnodwyd gan heddluoedd yng Nghymru. Er mai'r data hyn yw'r ffynhonnell wybodaeth fwyaf manwl a dibynadwy am dgwrthdrawiadau ac anafiadau ar y ffyrdd, nid ydynt yn rhoi cofnod cyflawn o'r holl ddigwyddiadau o'r fath – er enghraifft, mae data ysbytai, data o arolygon a data o hawliadau iawndal yn dangos na roddir gwybod i'r heddlu am lawer o dgwrthdrawiadau nad ydynt yn angheuol neu na chânt eu cofnodi gan yr heddlu.

Yn gyffredinol, mae'r ffynonellau sydd ar gael yn dangos mai dim ond is-set o'r holl dgwrthdrawiadau ar y ffyrdd lle ceir anaf personol yw'r gwrthdrawiadau y rhoddir gwybod i heddluoedd amdanynt ac a gofnodir gan heddluoedd, ond bod lefel yr anafiadau difrifol a'r marwolaethau a nodir yn dda (gweler Gwybodaeth am Ansawdd i gael rhagor o wybodaeth).

Effaith COVID-19 ar draffig

Effeithiodd pandemig y coronafeirws (COVID-19) ar nifer y gwrthdrawiadau ac anafiadau ar y ffyrdd a gofnodwyd gan yr heddlu drwy gydol y rhan fwyaf o 2020 hyd at 2021, yn sgil cyfyngiadau o ran sut, ble a pham y gallai pobl deithio yng Nghymru. Bu lleihad sylweddol mewn traffig yn ystod 2020 o ganlyniad i bandemig y coronafeirws (COVID-19) – 23.4% yn llai nag yn 2019. Parhaodd cyfyngiadau COVID-19 i effeithio ar arferion teithio yn 2021, ond i raddau llai.

Gwrthdrawiadau ffyrdd

Gall gwrthdrawiadau unigol arwain at anafiadau i nifer o bobl, sy'n amrywio o ran difrifoldeb. Yn ystod 2022, cofnododd heddluoedd yng Nghymru 3,315(r) o wrthdrawiadau ar y ffyrdd lle y cafwyd anafiadau personol, Yn fras, mae'n debyg i'r nifer a welwyd yn 2021, a 23.4%(r) yn llai nag yn 2019. (cyn pandemig COVID-19).

O blith y gwrthdrawiadau hyn:

  • roedd 89(r) yn wrthdrawiadau angheuol, sef 7(r) yn fwy (8.5%(r)) nag yn 2021
  • roedd 792 yn wrthdrawiadau difrifol, sef 9 yn fwy (1.1%) nag yn 2021
  • roedd 2,434(r) yn fân wrthdrawiadau, sef 11(r) yn fwy (0.5%(r)) nag yn 2021
  • O gymharu â 2019 (y flwyddyn lawn olaf cyn y pandemig), bu 5.3%(r) yn llai o dwrthdrawiadau angheuol, 17.7%(r) yn llai o wrthdrawiadau difrifol, a 25.6%(r) yn llai o fân wrthdrawiadau

Caiff difrifoldeb damwain ei bennu ar sail yr unigolyn sydd wedi cael yr anafiadau mwyaf difrifol yn y ddamwain. Er enghraifft, os bydd pum unigolyn wedi'u hanafu ac un wedi'i ladd, caiff y ddamwain ei hystyried yn un angheuol.

Mae Ffigur 2 yn dangos y cyferbyniad rhwng y duedd am i lawr mewn gwrthdrawiadau ar ffyrdd yng Nghymru ers 1993 a'r cynnydd graddol mewn traffig ar y ffyrdd. Mae'n debygol bod ei gwneud hi'n orfodol i bobl wisgo gwregys diogelwch yn yr 1980au a gwelliannau i dechnoleg cerbydau wedi cyfrannu at y lleihad yn nifer y gwrthdrawiadau lle y cafwyd anafiadau personol yn yr hirdymor.

Sylwer: Mae’r data ar lefelau traffig yn y siart hyd at y flwyddyn 2021 yn unig.

Ffigur 2: Gwrthdrawiadau lle y cafwyd anafiadau personol a lefel y traffig ar ffyrdd yng Nghymru, 1993 i 2022 [Nodyn 1] (diwygiedig)

Image

Disgrifiad o Ffigur 2: Mae'r siart llinell yn dangos cyfres amser y gwrthdrawiadau ar y ffyrdd sydd wedi’u cofnodi gan yr heddlu, ar gyfer Cymru gyfan o 1993 i 2022. Y cyferbyniad rhwng tuedd am i lawr y gwrthdrawiadau ar ffyrdd Cymru ers 1993 a’r cynnydd graddol ym maint y traffig ffyrdd.

Ffynhonnell: Ystadegau Damweiniau Ffyrdd, Llywodraeth Cymru

[Nodyn 1] Data cyfaint traffig yw hyd at 2021 yn unig.

Yn fras roedd y duedd fisol yn 2022 yn debyg i 2021, gyda rhai eithriadau ar ddechrau 2021 pan oedd cyfyngiadau teithio COVID-19 ar waith. Mae’r ffigurau misol yn 2022 yn parhau i fod yn is na’r ffigurau cyn y pandemig yn 2022.

Ffigur 3: Gwrthdrawiadau yng Nghymru fesul mis, 2021 a 2022 (diwygiedig)

Image

Disgrifiad o Ffigur 3: Mae'r siart bar yn dangos tuedd fisol gwrthdrawiadau ar y ffyrdd yng Nghymru, gan gymharu 2021 â 2022.

Ffynhonnell: Ystadegau Damweiniau Ffyrdd, Llywodraeth Cymru

Gwrthdrawiadau lle y cafodd pobl eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol

Ceir tuedd hirdymor am i lawr yn nifer y gwrthdrawiadau lle y cafodd pobl eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol ar ffyrdd yng Nghymru, Ffigur 4. Yn 2022, bu 881(r) o wrthdrawiadau lle y cafodd pobl eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol, sef cynnydd o 16(r) (1.8%(r)) o gymharu â 2021 ond 16.7%(r) yn is nag yn 2019. Mae ein dangosfwrdd rhyngweithiol gwrthdrawiadau ar y ffyrdd, a gyhoeddir ochr yn ochr â'r bwletin hwn, yn dadansoddi'r data yn ôl nodweddion fel lleoliad a phriodoleddau demograffig mewn mwy o fanylder.

Cofnodwyd cyfanswm o 89(r) o wrthdrawiadau angheuol yng Nghymru yn 2022, sef 7(r) yn fwy na'r flwyddyn flaenorol. O edrych ar y duedd hanesyddol, mae nifer y gwrthdrawiadau angheuol a gofnodir wedi bod yn sefydlog ar y cyfan ers 2010, yn dilyn lleihad sylweddol dros ddegawdau blaenorol. Yn 2020 y cofnodwyd y nifer lleiaf o wrthdrawiadau angheuol yng Nghymru (73), ac mae'n debygol mai cyfyngiadau teithio'r coronafeirws (COVID-19), a arweiniodd at lefelau traffig is ar y ffyrdd, oedd y rheswm dros hynny. Nifer cyfartalog y marwolaethau ar y ffyrdd dros y tair blynedd diwethaf (2020 i 2022) oedd 81, sydd 56.0%(r) yn llai na chyfartaledd 1993 i 1995 ond, unwaith eto, mae'n debygol mai COVID-19 yw'r rheswm dros hynny. (ffigur 4).

Dylid bod yn ofalus wrth ddehongli newidiadau i niferoedd bach, megis gwrthdrawiadau angheuol bob blwyddyn. Er mwyn cael dadansoddiadau manwl o newid dros amser, gall fod yn fwy priodol edrych ar dueddiadau o ran cyfanswm y gwrthdrawiadau lle y cafodd pobl eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol.

Ffigur 4: Nifer y gwrthdrawiadau lle y cafodd pobl eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol ar ffyrdd yng Nghymru o 1993 tan 2022 (diwygiedig)

Image

Disgrifiad o Ffigur 4: Mae'r siart llinell yn dangos cyfres amser y gwrthdrawiadau ar ffyrdd Cymru lle cafodd pobl eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol, o 1993 i 2022. Yn 2022, bu 792 o wrthdrawiadau difrifol, 9 yn fwy na’r flwyddyn cynt.

Ffynhonnell: Ystadegau Damweiniau Ffyrdd, Llywodraeth Cymru

Yn 2022, bu 792 o wrthdrawiadau difrifol. Dros amser, mae nifer y gwrthdrawiadau difrifol wedi dilyn tuedd debyg i'r duedd o ran gwrthdrawiadau angheuol. Nifer cyfartalog y gwrthdrawiadau difrifol dros y tair blynedd diwethaf (2020 i 2022) oedd 744, sydd 52% yn llai na chyfartaledd 1993 i 1995.

Gwrthdrawiadau ar y Ffyrdd fesul awdurdod lleol yng Nghymru

Yn 2022, cofnododd 11 o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru gynnydd mewn gwrthdrawiadau ar y ffyrdd a gofnodwyd gan yr heddlu, gyda’r gweddill yn gweld gostyngiad o’i chymharu â 2021. Mae rhagor o fanylion i'w gweld yn ein tablau StatsCymru.

Ffigur 5: Gwrthdrawiadau ar y ffyrdd fesul awdurdod lleol o 2021 tan 2022 (diwygiedig)

Image

Disgrifiad o Ffigur 5: Mae'r siart bar yn dangos gwrthdrawiadau ar y ffyrdd yn ôl awdurdod lleol yng Nghymru.

Ffynhonnell: Ystadegau Damweiniau Ffyrdd, Llywodraeth Cymru

Gwrthdrawiadau ar y ffyrdd fesul ardal heddlu

Yn 2022, aeth swyddogion yr heddlu i 98.9% o wrthdrawiadau angheuol, 92.0% o wrthdrawiadau difrifol ac 85.9% o fân wrthdrawiadau y rhoddwyd gwybod i'r heddlu amdanynt.

Heddlu Dyfed-Powys a gofnododd y nifer mwyaf o wrthdrawiadau yn 2022, sef cyfanswm o 981 (2.4% yn fwy na'r flwyddyn flaenorol), ac yna Heddlu De Cymru a gofnododd 944(r) o wrthdrawiadau ar y ffyrdd yn ystod yr un cyfnod (0.9%(r) yn llai na'r flwyddyn flaenorol). Cofnododd Heddlu Gogledd Cymru 802 o wrthdrawiadau yn 2022 (3.0% yn fwy na'r flwyddyn flaenorol), a Heddlu Gwent a gofnododd y nifer lleiaf o wrthdrawiadau ar y ffyrdd, sef 588 (1.5% yn llai na'r flwyddyn flaenorol).

Ffigur 6: Gwrthdrawiadau ffyrdd fesul ardal heddlu yn 2021 a 2022 (diwygiedig)

Image

Disgrifiad o Ffigur 6: Mae'r siart bar yn dangos yn cymharu cyfanswm y gwrthdrawiadau a fu ar ffyrdd Cymru, yn ôl ardal Heddlu rhwng 2020 a 2021.

Ffynhonnell: Ystadegau Damweiniau Ffyrdd, Llywodraeth Cymru

Gwrthdrawiadau ar y ffyrdd yn ôl math o gerbyd

Mae cyfran y gwrthdrawiadau ar y ffyrdd yn ôl math o gerbyd i'w gweld yn ffigur 7. Yn 2022, gwrthdrawiadau a oedd yn cynnwys ‘ceir, tacsis a bysiau mini’ oedd 73.2% (4,249(r)) o'r holl wrthdrawiadau ar y ffyrdd, a gwrthdrawiadau a oedd yn cynnwys ‘cerbydau eraill’ oedd 12.6%. Gwrthdrawiadau a oedd yn cynnwys beiciau pedalau oedd yn cyfrif am y gyfran isaf o wrthdrawiadau ar y ffyrdd, sef 5.5%.

Yn ôl math o gerbyd, roedd nifer y ‘ceir, tacsis a bysiau mini’ a oedd mewn gwrthdrawiadau ar y ffyrdd 1% yn llai, roedd nifer y beiciau modur 2.3% yn llai ac roedd nifer y cerbydau ‘eraill’ 1.8%(r) yn llai. Roedd nifer y beiciau pedalau a oedd mewn gwrthdrawiadau ar y ffyrdd 13.7% yn llai o gymharu â 2021.

Ffigur 7: Gwrthdrawiadau ar y ffyrdd yn ôl math o gerbyd, 2022

Image

Disgrifiad o Ffigur 7: Mae'r siart cylch yn dangos cyfran y gwrthdrawiadau ar y ffyrdd yn ôl math o gerbyd. Roedd 73% o’r holl wrthdrawiadau ar y ffyrdd yn 2022 yn ‘geir, tacsis a bysiau mini” (4,246) gyda ‘cerbydau eraill’ yn dilyn.

Ffynhonnell: Ystadegau Damweiniau Ffyrdd, Llywodraeth Cymru

Gwrthdrawiadau ar y ffyrdd yn ôl terfyn cyflymder yn 2022

Wrth ystyried amlder gwrthdrawiadau ar y ffyrdd yn ôl terfyn cyflymder, mae’n bwysig ystyried cyfanswm yr holl ffyrdd yng Nghymru yn ôl terfyn cyflymder, yn ogystal â’r lefelau traffig ar y ffyrdd hyn. I roi rhywfaint o’r cyd-destun hwn, rydym yn bwriadu cyhoeddi amcangyfrifon o’r ffyrdd yn ôl terfyn cyflymder ledled Cymru erbyn Gorffennaf 2023.

Mae Ffigur 8 yn dangos bod 51.1% o'r holl wrthdrawiadau ar y ffyrdd yn ystod 2022 wedi digwydd ar ffyrdd 30mya a bod y gyfran ail uchaf (24.6%) wedi digwydd ar ffyrdd 60mya.

Rhannau o ffyrdd â therfyn cyflymder o 70mya oedd yn cyfrif am y gyfran isaf o wrthdrawiadau yn 2022% sef 4.7% o'r holl wrthdrawiadau.

Ffigur 8: Cyfanswm y gwrthdrawiadau yn ôl terfyn cyflymder y ffordd, 2022 (diwygiedig)

Image

Disgrifiad o Ffigur 8: Mae'r siart bar yn dangos cyfanswm y gwrthdrawiadau yn ôl terfyn cyflymder y ffordd, 2022.

Ffynhonnell: Ystadegau Damweiniau Ffyrdd, Llywodraeth Cymru

Ar gyfer gwrthdrawiadau lle y cafodd rhywun ei ladd neu ei anafu’n ddifrifol, yn fras roedd y dosbarthiad yn debyg i gyfanswm y gwrthdrawiadau. Mae cyfran y gwrthdrawiadau lle y cafodd rhywun ei ladd neu ei anafu’n ddifrifol yn tueddu i gynyddu gyda therfyn cyflymder y ffordd. Er enghraifft, cafodd rhywun ei ladd neu ei anafu’n ddifrifol mewn un o bob tri o’r holl wrthdrawiadau ar ffyrdd â therfyn cyflymder o 50mya neu 60mya, o'u cymharu â thua un o bob pump ar ffyrdd â therfyn cyflymder o 30mya.

Ffigur 9: Gwrthdrawiadau lle y cafodd pobl eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol yn ôl terfyn cyflymder y ffordd, 2022 (diwygiedig)

Image

Disgrifiad o Ffigur 9: Mae'r siart bar yn dangos gwrthdrawiadau lle cafodd pobl eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol yn ôl terfyn cyflymder y ffordd, 2022.

Ffynhonnell: Ystadegau Damweiniau Ffyrdd, Llywodraeth Cymru

Yr hyn a achosodd y gwrthdrawiadau

Ystyr ffactorau cyfrannol mewn gwrthdrawiadau ar y ffyrdd yw'r gweithredoedd a'r methiannau allweddol a arweiniodd yn uniongyrchol at y ddamwain. Maent yn dangos barn swyddogion yr heddlu a aeth i safleoedd gwrthdrawiadau ynghylch beth a'u hachosodd, ac yn cynnig cliwiau sy'n awgrymu sut y gellid bod wedi'u hosgoi.

Gall swyddogion yr heddlu sy'n mynd i safleoedd gwrthdrawiadau gofnodi hyd at chwe ffactor cyfrannol ar gyfer pob damwain o restr o 78 o ffactorau posibl. Mae'r dadansoddiad hwn yn canolbwyntio ar dgwrthdrawiadau lle y cafodd pobl eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol, gan fod swyddogion yr heddlu'n mynd i safleoedd llawer mwy o'r gwrthdrawiadau hyn.

Mae'r 78 o ffactorau cyfrannol wedi'u rhannu'n naw categori (ffigur 10). Mae'r rhain yn cynnwys nifer o ffactorau megis gwall gan yrrwr/beiciwr, cerddwyr, peidio ag arwyddo neu edrych yn iawn a cholli rheolaeth, diofalwch a gyrwyr dan ddylanwad alcohol.

Yn 2022, cofnodwyd bod cyfanswm o 1,877(r) o ffactorau cyfrannol wedi achosi gwrthdrawiadau lle y cafodd pobl eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol yng Nghymru. Y categori o ffactorau cyfrannol a gofnodwyd amlaf gan yr heddlu oedd gwall neu ymateb gan yrrwr/beiciwr, a ddefnyddiwyd 740(r) o weithiau sef 39.4%(r) o'r holl ffactorau cyfrannol a gofnodwyd ar gyfer gwrthdrawiadau lle y cafodd pobl eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol). Mae Ffigur 10 yn dangos y prif ffactorau cyfrannol yn ôl tebygolrwydd. Ystyrir bod ffactorau cyfrannol naill ai'n debygol iawn neu'n bosibl yn seiliedig ar hyder y swyddog eu bod wedi achosi'r ddamwain neu wedi cyfrannu at wneud hynny.

Ffigur 10: Categorïau ffactorau cyfrannol a restrwyd fel yr hyn a achosodd dgwrthdrawiadau lle y cafodd pobl eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol, yn ôl tebygolrwydd, 2022 (diwygiedig)

Image

Disgrifiad o Ffigur 10: Mae'r siart bar yn dangos categorïau’r ffactorau cyfrannol a nodwyd fel achos gwrthdrawiadau lle cafodd pobl eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol, yn ôl tebygolrwydd, 2022.

Ffynhonnell: Ystadegau Damweiniau Ffyrdd, Llywodraeth Cymru

Caiff ffactorau eu nodi ar sail tystiolaeth, a all ddod o amrywiaeth o ffynonellau, megis datganiadau gan dystion ac archwiliadau o gerbydau a safleoedd. Gall ffactorau cyfrannol fod yn oddrychol a dibynnu ar sgìl a phrofiad y swyddog ymchwilio o ran ail-greu'r digwyddiadau a arweiniodd yn uniongyrchol at y ddamwain. Maent yn adlewyrchu barn y swyddog adrodd ar adeg llunio'r adroddiad ac nid ydynt o reidrwydd yn deillio o ymchwiliad helaeth.

Mae Ffigur 11 yn dangos y 10 ffactor cyfrannol unigol mwyaf cyffredin y penderfynwyd ei bod naill ai'n bosibl neu'n debygol iawn iddynt achosi gwrthdrawiadau lle y cafodd pobl eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol yn 2022. Y ddau ffactor cyfrannol mwyaf cyffredin oedd peidio ag edrych yn iawn (235(r) o achosion) a cholli rheolaeth (186(r) o achosion). Mae saith o'r 10 ffactor cyfrannol mwyaf cyffredin yn ymwneud â'r gyrrwr/beiciwr, mae dau yn ymwneud ag amgylchedd y ffordd ac mae un yn ymwneud â cherddwyr.

Nodyn: Nodwyd gwall yn ein datganiad blaenorol a thanadroddwyd nifer y ffactorau cyfrannol ar gyfer gwrthdrawiadau KSI yn 2022. Felly, diwygowyd y ffigurau hyno ganlyniad i’r gwall hwn, yn ogystal â'r data hwyr a dderbyniwyd (y manylir arno yn yr adran ansawdd).

Ffigur 11: Y 10 ffactor mwyaf cyffredin a achosodd dgwrthdrawiadau lle y cafodd pobl eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol, yn ôl hyder y swyddogion adrodd, 2022 (diwygiedig)

Image

Disgrifiad o Ffigur 11: Mae'r siart bar yn dangos achosion mwyaf cyffredin gwrthdrawiadau lle cafodd pobl eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol, yn ôl barn y swyddog cofnodi, 2022.

Ffynhonnell: Ystadegau Damweiniau Ffyrdd, Llywodraeth Cymru

Anafiadau ar y ffyrdd y rhoddwyd gwybod amdanynt

Gall gwrthdrawiadau unigol ar y ffyrdd arwain at anafiadau i nifer o bobl, sy'n amrywio o ran difrifoldeb. Yn 2022, cafodd mwy nag un person ei ladd neu ei anafu mewn tua 23% o wrthdrawiadau.

Mae'r adran hon yn cynnwys gwybodaeth lefel uchel am bobl a gafodd eu lladd neu eu hanafu. Mae dadansoddiadau o'r data hyn ar gael yn ein bwletin ar anafiadau ar y ffyrdd y rhoddwyd gwybod amdanynt yng Nghymru a gaiff ei gyhoeddi ar 20 Mehefin 2023. Bydd y bwletin hwn yn cynnwys dadansoddiadau pellach megis defnyddwyr y ffyrdd, oedran a rhyw.

Yn ystod 2022, cofnododd yr heddlu wrthdrawiadau a arweiniodd at anafiadau i 4,447(r) o bobl. O blith yr anafiadau hyn:

  • roedd 95(r) yn angheuol, sef 9(r) yn fwy (10.5%(r)) nag yn 2021
  • cafodd 921 o bobl eu hanafu’n ddifrifol, yn fras yn debyg i yn 2021
  • cafodd 3,431(r) o bobl fân anafiadau, sef 94(r) yn fwy (2.8%(r)) o gymharu â 2021
  • o gymharu â 2019 (y flwyddyn lawn olaf cyn y pandemig), cafodd 2.1% yn llai o bobl anafiadau angheuol, cafodd 16% yn llai o bobl anafiadau difrifol, a chafodd 25.7%(r) yn llai o bobl fân dwrthdrawiadau

Mae Ffigur 12 yn dangos y duedd o ran nifer y bobl a gafodd anafiadau angheuol, anafiadau difrifol ac anafiadau mewn gwrthdrawiadau lle y cafodd pobl eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol o 1999 tan y presennol. Heb ei Ddiweddaru Dros y cyfnod hwn, bu lleihad sylweddol yn nifer y bobl a gafodd eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol, o 1,871 yn 1999 i 820 yn 2020.

Yn 2022 adroddwyd am 1,016(r) o ddamweiniau lle y cafodd rhywun ei ladd neu’i anafu’n ddifrifol. Yn fras roedd hyn yn debyg i 2021, ac yn gostyngiad o 14.8%(r) o’i chymharu â 2019 (cyn y pandemig).

Ffigur 12: Pobl a gafodd eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol yn ôl difrifoldeb, o 1999 tan 2022 (diwygiedig)

Image

Disgrifiad o Ffigur 12: Mae'r siart llinell yn dangos tuedd y nifer cafodd eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol yn ôl difrifoldeb, 1999 i 2022.

Ffynhonnell: Ystadegau Damweiniau Ffyrdd, Llywodraeth Cymru

Gwybodaeth allweddol am ansawdd

Cyd-destun

Mae'r bwletin hwn yn cynnwys gwybodaeth sy'n berthnasol i bolisi diogelwch ar y ffyrdd mewn perthynas â gwrthdrawiadau ar y ffyrdd a gofnodwyd gan yr heddlu ac yn cynnig man cychwyn ar gyfer unrhyw ymchwiliad manwl pellach o'r gwrthdrawiadau sy'n arwain at anafiadau.

Targedau diogelwch ar y ffyrdd i Gymru

Daeth y targedau gan Lywodraeth Cymru ar gyfer diogelwch ar y ffyrdd a gyflwynwyd yn flaenorol yn y bwletin hwn i ben yn 2020. Gellir cael gwybodaeth am y rhain mewn fersiynau blaenorol o'r datganiad hwn. Pan fydd targedau diogelwch newydd i Gymru wedi cael eu gosod, byddwn yn cynnwys gwybodaeth amdanynt mewn cyhoeddiadau yn y dyfodol.

Cyhoeddiadau cysylltiedig

Mae cyhoeddiadau sy'n gysylltiedig â data Stats19 (h.y. data ar dgwrthdrawiadau ar y ffyrdd a gofnodwyd gan yr heddlu ar gael ar y wefan ystadegau ac ymchwil.

Mae Adran Drafnidiaeth Llywodraeth y DU yn cyhoeddi 'Reported road casualties in Great Britain main results' bob blwyddyn.

Mae Transport Scotland yn cyhoeddi 'Key reported road casualties Scotland' bob blwyddyn. Cafodd ystadegau ar gyfer 2021 eu cyhoeddi ym mis Mai 2022. Cyhoeddodd tîm ystadegau gwrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd Gwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon y ddogfen Police Recorded Injury Road Traffic Collisions and Casualties Northern Ireland 2021 Key Statistics Report ar 31 Mawrth 2023.

Caiff data ar dgwrthdrawiadau, pobl a gafodd eu lladd neu eu hanafu, a cherbydau ar gyfer blynyddoedd blaenorol eu cyhoeddi ar StatsCymru bob chwarter. Ochr yn ochr â'r data, cyhoeddir data ar lefel gwrthdrawiadau unigol a geiriadur data sy'n amlinellu'r newidynnau a gaiff eu cynnwys wrth gasglu data Gwrthdrawiadau ar y Ffyrdd Stats19.

Rydym hefyd yn cyhoeddi dangosfwrdd rhyngweithiol ochr yn ochr â'r bwletin ystadegol hwn. Mae'r dangosfwrdd yn galluogi defnyddwyr i archwilio amrywiaeth o nodweddion daearyddol a demograffig, a nodweddion eraill y data.

Perthnasedd

Mae amrywiaeth o sefydliadau yn defnyddio data am dgwrthdrawiadau traffig a phobl a gafodd eu lladd neu eu hanafu ar y ffyrdd yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio data am wrthdrawiadau traffig a phobl a gafodd eu lladd neu eu hanafu ar y ffyrdd er mwyn helpu i lunio polisi diogelwch ar y ffyrdd. Fe'u defnyddir hefyd ar gyfer dangosyddion perfformiad, ar gyfer Strategaeth Drafnidiaeth Llywodraeth Cymru ac ar gyfer rhai dangosyddion Perfformiad Iechyd. Mae defnyddwyr eraill yn cynnwys Awdurdodau Priffyrdd, gan gynnwys Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am y rhwydwaith traffyrdd a chefnffyrdd, ac awdurdodau lleol, sy'n gyfrifol am ffyrdd eraill yng Nghymru. Ymhlith y cyrff eraill sy'n ymwneud â diogelwch ar y ffyrdd mae'r Bartneriaeth Camerâu Diogelwch, Asiantiaid Cefnffyrdd, a Phartneriaethau'r Heddlu a Diogelwch Cymunedol. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn darparu data i sefydliadau cynllunio trafnidiaeth er mwyn cefnogi asesiadau diogelwch ar y ffyrdd.

Cywirdeb

Mae'r ystadegau'n cyfeirio at bobl a gafodd anafiadau personol mewn gwrthdrawiadau ar ffyrdd cyhoeddus y rhoddwyd gwybod amdanynt i'r heddlu ac a anfonwyd ymlaen i Lywodraeth Cymru. Mae'r heddlu'n casglu data ystadegol am dgwrthdrawiadau ac anafiadau traffig ar y ffyrdd (a elwir yn ddata Stats19) ar gyfer Llywodraeth Cymru a'r Adran Drafnidiaeth. Gwneir hyn ar ôl i'r heddlu fod yn bresennol ar safleoedd gwrthdrawiadau sy'n cynnwys unrhyw anafiadau personol, ac ar ôl i aelodau o'r cyhoedd roi gwybod yn uniongyrchol i'r heddlu am dgwrthdrawiadau lle y cafwyd anafiadau personol. Mae'r ffigurau yn seiliedig ar wybodaeth sydd ar gael i'r llywodraeth 14 wythnos ar ôl diwedd y chwarter diweddaraf. Yn ogystal, gall newidiadau mewn arferion cofnodi'r heddlu olygu nad oes modd cymharu'r ystadegau'n uniongyrchol dros amser. Gall y ffigurau a ddangosir newid yn y dyfodol os bydd diwygiadau hwyr. Yn yr un modd, gall y ffigurau ar gyfer blynyddoedd cynharach fod yn wahanol i'r rhai a gyhoeddwyd yn flaenorol. Dim ond gwrthdrawiadau y rhoddwyd gwybod i'r heddlu amdanynt lle y cafwyd anafiadau personol sydd wedi'u cynnwys yn y ffigurau. Ceir rhywfaint o bosibilrwydd o danadrodd a thangofnodi yn ogystal â chamddosbarthu gwrthdrawiadau, ond mae'r ffaith bod awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru yn cynnal nifer o brosesau dilysu data yn lleihau hyn cymaint â phosibl. Er enghraifft, gall dadansoddwyr data Llywodraeth Cymru holi'r heddlu ynghylch lleoliad damwain pan fydd cyfeirnod grid damwain mewn awdurdod lleol gwahanol i'r un a nodir yn y data. Daw'r data hyn o ffynonellau gweinyddol ac felly mae'n bosibl y bydd newidiadau i weithdrefnau o fewn y systemau hynny'n effeithio arnynt. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r awdurdodau heddlu yng Nghymru i sicrhau ansawdd y systemau data a ddefnyddir i lunio'r ystadegau hyn. Yn 2022, aeth Llywodraeth Cymru a'r heddluoedd ati i sefydlu grŵp defnyddwyr Casglwyr Data Stats19 i drafod yr heriau a wynebir a chydweithio ar atebion o ran casglu a dilysu data.

Mae Adran Drafnidiaeth y DU yn archwilio'r ffynonellau ychwanegol mewn rhywfaint o fanylder yn ei dogfen Reported Road Casualties report for Great Britain. Mae ei dadansoddiad o ddata'r Arolwg Teithio Cenedlaethol yn awgrymu na roddir gwybod i'r heddlu am tua 50% o dgwrthdrawiadau sy'n cynnwys rhywfaint o anaf personol, a dwy ran o dair o'r holl anafiadau ar y ffyrdd nad ydynt yn angheuol. Ymhlith yr enghreifftiau y rhoddir gwybod amdanynt yn yr Arolwg Teithio Cenedlaethol mae anaf atchwipio a mân friwiau a chleisiau, ond nid yw'n hysbys faint o'r rhain a fyddai wedi cael eu hystyried yn anafiadau y dylid eu cofnodi pe bai'r heddlu wedi bod yn bresennol. Mae dadansoddiad o ystadegau ar hawliadau yswiriant yn dangos ei bod yn debygol mai anaf atchwipio yw cyfran sylweddol iawn o'r anafiadau na roddir gwybod i'r heddlu amdanynt. Rydym yn rhan o'r broses o adolygu'r derminoleg a ddefnyddir yn y datganiad a chaiff diweddariadau pellach eu rhoi mewn cyhoeddiadau yn y dyfodol, lle bo hynny'n briodol.

Amseroldeb a phrydlondeb

Ar ôl y datganiad hwn, caiff Bwletin Ystadegol ategol ei gyhoeddi er mwyn rhoi mwy o wybodaeth i ddefnyddwyr am bynciau allweddol.

Mae cyhoeddiadau cysylltiedig ar gael o'r wefan Ystadegau ac Ymchwil. Mae ystadegau ar Dgwrthdrawiadau ar y Ffyrdd ar gyfer Cymru ar gael ar StatsCymru. Mae'r dangosfwrdd Gwrthdrawiadau ar y Ffyrdd sy'n cyd-fynd â'r adroddiad ar gael ar Gwrthdrawiadau ffyrdd wedi’u cofnodi gan yr heddlu: dangosfwrdd rhyngweithiol. Bydd yr Adran Drafnidiaeth yn cyhoeddi canlyniadau ar gyfer Prydain Fawr ym drwy'r dudalen we Road accidents and safety statistics.

Hygyrchedd ac eglurder

Caiff y datganiad ystadegol hwn ei rag-gyhoeddi a'i gyhoeddi ar wefan Ystadegau ac Ymchwil Llywodraeth Cymru ac mae'r holl ddata yn y bwletin hwn, yn ogystal â data ar gyfer blynyddoedd blaenorol, ar gael ar StatsCymru.

Cymharu a chydlynu

Yn dilyn y datganiad cyntaf bydd cyhoeddiad pellach y bwriedir iddo roi mwy o wybodaeth i ddefnyddwyr am dgwrthdrawiadau ac anafiadau ar y ffyrdd yng Nghymru yn ystod 2021. Mae hyn yn cynnwys pobl a gafodd eu lladd neu eu hanafu mewn gwrthdrawiadau. Gall sawl person gael eu lladd neu eu hanafu mewn un ddamwain. Caiff y bobl hyn eu his-rannu i'r categorïau canlynol: pobl a gafodd eu lladd, pobl a gafodd eu hanafu'n ddifrifol a phobl a gafodd fân anafiadau. Dim ond pobl a fu farw o fewn 30 diwrnod o ganlyniad i'r ddamwain a gaiff eu cynnwys fel pobl a gafodd eu lladd. Nid yw hyn yn cynnwys pobl a fu farw o achosion naturiol (e.e. trawiad ar y galon) yn hytrach nag o ganlyniad i'r ddamwain, nac achosion o hunanladdiad wedi'u cadarnhau.

Diwygiadau

Cafodd y bwletin ei ddiwygio ar  11 Hydref 2023 i ymgorffori data a gyflwynwyd yn hwyr yn ymwneud â data 3 gwrthdrawiad ffordd (a 5 anaf) o un llu heddlu. Cafodd hyn effaith fychan ar ran fwyaf o ffigyrau 2022 sydd yn y bwletin. O ganlyniad i’r diwygiad:

  • newidiodd nifer y gwrthdrawiadau o 3,312 i 3,315
  • newidiodd nifer y bobl a anafwyd o 4,442 i 4,447
  • newiddiodd nifer y bobl a laddwyd o 93 i 95

Problemau o ran ansawdd data/tanadrodd

  • Ar gyfer data 2012: Rhwng mis Ebrill 2012 a dechrau 2013, gwnaeth Heddlu De Cymru newidiadau i'w weithdrefnau ar gyfer cofnodi'r data hyn a olygai bod nifer o bobl a gafodd fân anafiadau ac anafiadau difrifol wedi cael eu cofnodi na fyddent wedi cael eu cofnodi mewn blynyddoedd blaenorol na dilynol. Mae hyn yn golygu cymharu 2013 â 2012 yn rhoi camargraff o'r newid yn nifer bobl a gafodd fân anafiadau ac anafiadau difrifol. Nid yw'r broblem hon yn effeithio ar y dull o fesur marwolaethau mewn gwrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd.
  • Ar gyfer data 2015: Cafodd Heddlu De Cymru anawsterau gyda'i feddalwedd Gwrthdrawiadau ar y Ffyrdd ac ni lwyddodd i ddarparu ei set lawn o ddata ar bobl a gafodd eu lladd neu eu hanafu. Credir y bydd yr achos hwn o danadrodd yn golygu bod tua 10 damwain at goll o'r data a gyflwynir yn y datganiad hwn, sy'n cynnwys o leiaf un ddamwain ffordd angheuol.
  • Ar gyfer data 2015: Mae nifer y gwrthdrawiadau ar gyfer Heddlu Gwent yn 2015 yn llawer is na'r nifer yn 2014.
  • Yn sgil y cyfyngiadau teithio gorfodol yn ystod pandemig COVID-19, effeithiodd gwahanol ffactorau ar y broses o gasglu data Stats19. Ymhlith y ffactorau hyn roedd y ffaith bod staff heddluoedd a oedd yn darparu'r data yn addasu i weithio gartref (gan olygu bod angen i bob heddlu gyflwyno trefniadau ailosod ychwanegol ar gyfer systemau TG) a diffyg data gofodol ar gyfer rhai gwrthdrawiadau (nid effeithiodd hyn ar y data a gyflwynir yn y datganiad hwn).

Statws Ystadegau Gwladol

Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig wedi dynodi'r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf Ystadegau a'r Gwasanaeth Cofrestru 2007 a chan gadarnhau eu bod yn cydymffurfio â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Mae statws Ystadegau Gwladol yn golygu bod yr ystadegau swyddogol yn bodloni'r safonau uchaf o ran eu dibynadwyedd, eu hansawdd a'u gwerth i'r cyhoedd ac mae cyfrifoldeb arnom i sicrhau ein bod yn cydymffurfio â'r safonau hyn. Dylai unrhyw ystadegau swyddogol gydymffurfio â phob agwedd ar y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Dyfernir statws Ystadegau Gwladol iddynt yn dilyn asesiad gan gangen rheoleiddio Awdurdod Ystadegau'r DU. Mae'r Awdurdod yn ystyried p'un a yw'r ystadegau yn cyrraedd y safonau uchaf o ran cydymffurfio â'r Cod, gan gynnwys y gwerth y maent yn ei ychwanegu at benderfyniadau a thrafodaethau cyhoeddus. Cadarnhawyd dynodiad yr ystadegau hyn fel Ystadegau Gwladol ym mis Gorffennaf 2013 yn dilyn asesiad llawn yn erbyn y Cod Ymarfer.

Ers yr adolygiad diweddaraf gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau, rydym wedi parhau i gydymffurfio â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau, ac wedi gwneud y gwelliannau canlynol: • Gwella adnoddau gweledol drwy symleiddio a safoni siartiau a thablau  Mae cyfrifoldeb ar Lywodraeth Cymru i sicrhau cydymffurfiaeth â'r safonau a ddisgwylir gan Ystadegau Gwladol. Os byddwn yn pryderu p'un a yw'r ystadegau hyn yn dal i gyrraedd y safonau priodol, byddwn yn trafod unrhyw bryderon â'r Awdurdod yn ddi-oed. Gellir diddymu statws Ystadegau Gwladol ar unrhyw adeg os na lwyddir i gynnal y safonau uchaf, a gellir adfer y statws hwnnw pan gaiff y safonau eu cyrraedd unwaith eto.

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol

Mae a wnelo Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015 â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae'r Ddeddf yn pennu saith nod llesiant i Gymru, sef sicrhau Cymru iachach a mwy cyfartal, ffyniannus, cydnerth a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o'r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) y mae'n rhaid eu cymhwyso er mwyn mesur cynnydd tuag at gyrraedd y nodau llesiant, a (b) gosod copi o'r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol rhaid iddynt (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Gosodwyd y dangosyddion cenedlaethol hyn gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratifau ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a gwybodaeth dechnegol gysylltiedig, ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai'r ystadegau sydd wedi'u cynnwys yn y datganiad hwn hefyd gynnig naratif ategol ar gyfer y dangosyddion cenedlaethol a gallai byrddau gwasanaethau cyhoeddus eu defnyddio mewn perthynas â'u hasesiadau llesiant lleol a'u cynlluniau llesiant lleol.

Hoffem gael eich adborth

Byddem yn croesawu unrhyw adborth ar unrhyw agwedd ar yr ystadegau hyn, a gellir ei anfon drwy e-bost i: ystadegau.trafnidiaeth@llyw.cymru

Manylion cyswllt

Ystadegydd: James Khonje
E-bost: ystadegau.trafnidiaeth@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 37/2023 (R)

Image
Ystadegau Gwladol