Neidio i'r prif gynnwy

Mae Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol Cymru 2018 yn gwahodd enwebiadau yn awr.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Tachwedd 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cynhelir y gwobrau gan Croeso Cymru i ddathlu'r gorau o ddiwydiant twristiaeth Cymru - gan arddangos busnesau twristiaeth Cymru a llwyddiannau'r diwydiant. 

Cynhelir y seremoni wobrwyo ddydd Iau, 8 Mawrth 2018 yng Ngwesty'r Celtic Manor, Casnewydd a gwahoddir enwebiadau yn awr ar gyfer amryw o gategorïau.

Mae categorïau’r gwobrau fel a ganlyn:

  • Gwesty Gorau
  • Gwely a Brecwast Gorau
  • Llety Hunan-ddarpar Gorau
  • Maes Carafanau, Gwersylla neu Glampio Gorau 
  • Atyniad Gorau
  • Gweithgaredd Gorau
  • Digwyddiad Gorau
  • Lle Gorau i Fwyta 
  • Cyrchfan Orau
  • Person Ifanc Twristiaeth y Flwyddyn
  • Gwobr Arloesi Busnesau Twristiaeth

Bydd enillwyr y gwobrau rhanbarthol yn cystadlu yn y Gwobrau Cenedlaethol ym mis Mawrth.  Roedd y Gweinidog Twristiaeth, Dafydd Elis Thomas, yn bresennol yn Ngwobrau Twristiaeth Gogledd Cymru wythnos diwethaf, lle y cyhoeddwyd rhai o’r enillwyr rhanbarthol cyntaf a fydd yn cystadlu ar gyfer y Gwobrau Cenedlaethol.   

Wrth sôn am y gwobrau, dywedodd y Gweinidog Twristiaeth: 

“Bu Gwobrau Twristiaeth Gogledd Cymru yn llwyddiant ysgubol ac mae’n wych gweld yr enillwyr yn awr yn cystadlu yng Ngwobrau Cymru. Rwy’n annog pob busnes twristiaeth ar draws gweddill Cymru i enwebu eu hunain ar gyfer y gwobrau hyn; mae’r ymdrech o gystadlu am wobrau yn gallu bod yn hynod o werth chweil, yn enwedig i godi morâl y tîm a’r staff. Wrth gwrs, mae dweud mai chi yw’r ‘gorau yng Nghymru’ hefyd yn gallu rhoi hwb i’ch busnes o safbwynt marchnata.

“Mae ansawdd yr hyn sydd i’w gynnig gan y diwydiant twristiaeth yng Nghymru yn mynd o nerth i nerth, ac mae’r Gwobrau yn gyfle i bawb ddathlu llwyddiannau’r diwydiant ac arddangos ansawdd rhagorol ein sector twristiaeth bywiog.

“Dyma ein cyfle i roi amlygrwydd i’r diwydiant twristiaeth a thalu teyrnged i’r sawl sy’n ymroddedig ac yn angerddol ynghylch eu busnesau, twristiaeth a Chymru.”

Yn siarad yr wythnos diwethaf yng Ngwobrau Twristiaeth Gogledd Cymru, dywedodd y Cyfarwyddwr Reolwr, Jim Jones fod ansawdd yr ymgeiswyr eleni yn tanlinellu pam bod y rhanbarth yn cael eu gydnabod fwyfwy fel lleoliad o safon byd ac sy'n cynhyrchu £2.8 biliwn bob blwyddyn ac yn cyflogi tua 40,000 o bobl.

Dywedodd: 

"Mae’r gwobrau wedi bod yn llwyddiannus iawn a hoffwn longyfarch yr enillwyr. Fodd bynnag, yn fy llygaid i mae pob un a enwebwyd yn enillydd ac mae pob un wedi chwarae rhan i wneud eleni  yn flwyddyn lwyddiannus ar gyfer Twristiaeth Gogledd Cymru.

"Mae'r digwyddiad hwn yn arddangos y gorau o ogledd Cymru ac rydym wedi gweld cymaint o enwebiadau anhygoel. Bydd nifer o’r enillwyr bellach yn mynd ymlaen i gynrychioli Gogledd Cymru yng Ngwobrau Twristiaeth Cenedlaethol Croeso Cymru yn 2018 a dymunaf bob llwyddiant iddynt."

Gall busnesau twristiaeth enwebu eu hunain, neu gall unrhyw un enwebu busnes sy’n enillydd teilwng yn eu barn hwy. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma (dolen allanol). Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yw dydd Gwener, 12 Ionawr 2018.