Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae Ystadau Cymru yn rhan bwysig o ddull strategol Llywodraeth Cymru o reoli asedau tir ac eiddo. Mae cydweithredu yn ymddygiad allweddol yn strategaeth rheoli asedau Llywodraeth Cymru ei hun ac mae Ystadau Cymru yn parhau i chwarae rhan allweddol fel yr arweinydd strategol wrth gefnogi a hyrwyddo manteision rheoli asedau cydweithredol ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru.

Mae Gwobrau blynyddol Ystadau Cymru yn rhoi cyfle i ni ddathlu a hyrwyddo rhagoriaeth ym maes rheoli'r ystâd gyhoeddus yng Nghymru, a gyflawnwyd drwy gyrff yn y sector cyhoeddus yn cydweithio.

Meini Prawf y Gwobrau

  • Rhaid i'r sefydliad sy'n ymgeisio ddod o'r sector cyhoeddus yng Nghymru ac mae'n rhaid bod y prosiect wedi'i gyflawni yng Nghymru.
  • Rhaid i’r prosiectau fod wedi'u cyflawni mewn cydweithrediad ag o leiaf un partner arall yn y sector cyhoeddus, y sector preifat neu'r trydydd sector.
  • Rhaid i’r prosiectau fod wedi'u cyflawni rhwng mis Ebrill 2022 ac 14 Hydref 2024.

Ystyriwch sut mae eich prosiect yn alinio â gwaith Ystadau Cymru a’i ffocws allweddol ar y canlynol:

  • Sicrhau bod asedau’n darparu gwerth i’r cyhoedd
  • Rheoli asedau ar y cyd
  • Adeiladu economi gryfach a gwyrddach
  • Datgarboneiddio’r ystad gyhoeddus
  • Gwella bioamrywiaeth
  • Cefnogi’r Economi Sylfaenol
  • Gwneud ein dinasoedd, ein trefi a’n pentrefi yn lleoedd gwell i fyw a gweithio ynddynt
  • Cefnogi datblygu Canolfannau Cymunedol a Chanolfannau Gweithio o Bell

Yn olaf, meddyliwch am y ffordd mae eich prosiect yn dangos Pum Ffordd o Weithio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ac egwyddorion datblygu cynaliadwy:

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 – Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru

1. Tymor Hir

Pwysigrwydd cydbwyso anghenion tymor byr â’r angen i ddiogelu’r gallu i ddiwallu anghenion tymor hir.

3. Integreiddio

Ystyried sut y gall amcanion llesiant y corff cyhoeddus effeithio ar bob un o’r nodau llesiant, ar eu hamcanion nhw neu ar amcanion cyrff cyhoeddus eraill.

3. Cynnwys

Pwysigrwydd cynnwys pobl sydd â diddordeb mewn cyflawni’r nodau llesiant, a sicrhau bod y bobl hynny’n adlewyrchu amrywiaeth yr ardal mae’r corff yn ei gwasanaethu.

4. Cydweithio

Cydweithio ag unrhyw berson arall (neu rannau gwahanol o’r corff ei hun) a allai helpu’r corff i gyflawni ei amcanion llesiant.

5. Atal

Sut gall gweithredu i atal problemau rhag digwydd neu waethygu helpu cyrff cyhoeddus i gyflawni eu hamcanion.

Gwybodaeth ategol

Rhowch dystiolaeth ychwanegol i gefnogi'ch cais. Dylid anfon y rhain fel atodiadau neu ddolenni gwe ar wahân mewn e-bost.

Delweddau a logos sy'n helpu i gefnogi a hyrwyddo eich prosiect a gwaith YC.

Dylid cyflwyno delweddau eglur iawn naill ai mewn ffeil JPEG neu PNG sydd wedi'i hatodi ar wahân. Dimensiynau cyffredin yw 1024x576, 1280x720 neu 1920x1080.

Peidiwch ag ymgorffori dogfennau na lluniau yn y ffurflen gais

Rydym hefyd yn eich gwahodd i anfon gwybodaeth atodol arall fel datganiadau i'r wasg, fideos neu adroddiadau fel opsiwn ychwanegol.

Tystebau

Datganiadau o gefnogaeth yw tystebau a ddefnyddir i ddangos y gwaith cydweithio yn eich prosiect. Rydym yn awgrymu eich bod yn cynnwys un gan noddwr o'ch sefydliad a rhywbeth gan bartneriaid neu fuddiolwyr eich prosiect.

Dyddiad cau

5pm ar 14 Hydref 2024

Mae'r amser a'r dyddiad cau yn derfynol ac ni dderbynnir ceisiadau hwyr na diwygiadau i geisiadau sy'n bodoli eisoes ar ôl hyn.

Rydym yn disgwyl i'r Gwobrau barhau yn 2025. Os nad oes gennych lawer o dystiolaeth, er enghraifft o effaith, efallai yr hoffech ystyried oedi cyn cyflwyno'ch cais tan y flwyddyn nesaf.

Awgrymiadau defnyddiol

Dyma rai pethau i'w hystyried yn eich cais:

  • Sut ydych chi wedi addasu neu greu gweithleoedd i gefnogi llesiant staff a/neu ddefnyddwyr?
  • Disgrifiwch sut mae'r prosiect yn dangos arloesedd gwirioneddol. Dylech ddangos sut rydych wedi ystyried y dyfodol ac amlygwch unrhyw ddulliau newydd rydych wedi'u defnyddio i sicrhau bod y prosiect yn llwyddo.
  • Gwnewch Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a'r Pum Ffordd o Weithio yn ganolog yn eich cais ac ystyriwch sut rydych chi'n cwrdd â phob un o'r Pum Ffordd.
  • Dywedwch wrthym sut rydych wedi cydweithio'n effeithlon, gan ddatblygu a chynnal cydberthnasau.
  • Eglurwch sut rydych wedi gwella gwasanaethau ac wedi darparu canlyniadau cadarnhaol i staff a dinasyddion nid yn unig am y tro ond yn y dyfodol.
  • Rhowch ddarlun o sut beth yw arfer gorau fel y gall eraill ddilyn gan weld beth y gellir ei gyflawni.
  • Edrychwch ar enillwyr blaenorol yn Ystadau Cymru ar LLYW.CYMRU