Jo Sims: Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
Enillydd
Mae Jo Sims, Rheolwr Gwasanaethau Pobl Ifanc a Phartneriaethau yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, yn batrwm o arweinydd eithriadol, a’i gwaith yn mynd y tu hwnt i deitlau swyddi. Mae arweinyddiaeth Jo yn ffynnu ar bob lefel. Yn lleol, mae’n cadeirio’r Grŵp Codi Dyheadau a’r Bwrdd Partneriaeth Ôl-16, gan arwain cynlluniau sy’n hybu lleisiau pobl ifanc ac yn sicrhau bod eu hanghenion yn cael sylw. Yn rhanbarthol, mae hi’n allweddol wrth ddylanwadu ar bolisi gwaith ieuenctid drwy fod yn aelod o grwpiau pwysig fel Bwrdd Gweithredu’r Strategaeth Gwaith Ieuenctid a Grŵp y Prif Swyddogion Ieuenctid. Mae ei dylanwad yn ymestyn drwy’r wlad hefyd, a hithau’n cyfrannu’n weithgar at gynlluniau’r Gwarant i Bobl Ifanc ac ETS Cymru.
Yn ôl unigolyn ifanc sydd wedi elwa o arweiniad Jo, mae’n ei disgrifio fel arweinydd sy’n grymuso pobl, sy’n meithrin sgiliau datrys problemau ymhlith unigolion, ac sy’n creu amgylchedd cefnogol, didwyll. Mae unigolyn ifanc arall yn adleisio hyn, gan ganmol pa mor hawdd i siarad â hi yw Jo, a’r ymddiriedaeth y mae’n ei chreu yn ei thîm. Mae’n credu ei fod o’i hun yn enghraifft o’r canlyniadau cadarnhaol sy’n deillio o arweinyddiaeth Jo, ar ôl camu o fod yn unigolyn ifanc a ddefnyddiai’r gwasanaeth i fod yn wirfoddolwr, yn fyfyriwr prifysgol, a bellach yn aelod cyflogedig o’r staff.
Gallai’r panel beirniadu weld bod Jo yn arweinydd ysbrydoledig sy’n mynd y filltir ychwanegol.Canmolwyd ei gallu i ragori wrth wneud gwaith strategol, ond gan fod yn llwyr ymwybodol o hyd o’r realiti sy’n wynebu pobl ifanc.