Mick Holt: Darpariaeth Ieuenctid Integredig Sir y Fflint
Teilyngwr
Mick Holt yw Swyddog Arweiniol Gwasanaeth Ieuenctid Integredig Cyngor Sir y Fflint. Mae hefyd yn rhedeg eco-ganolfan bwrpasol ar gyfer pobl ifanc. Mae'r ganolfan hon yn hafan i bobl ifanc sydd mewn perygl o gael eu gwahardd, plant sy’n mynd i Unedau Cyfeirio Disgyblion a phlant anabl.
Drwy gydweithio â Dechrau’n Deg, y tîm sy'n cefnogi teuluoedd â phlant o dan bedair oed, sylwodd Mick ar fwlch yn y ddarpariaeth i deuluoedd â phlant hŷn. Datblygodd Mick syniad ddefnyddio cyllid Haf o Hwyl yn 2021 er mwyn agor yr eco-ganolfan ar gyfer teuluoedd â phlant o bob oed, a rhoddodd y cynllun ar waith. Roedd y sesiynau yn canolbwyntio ar weithgareddau i’r teulu cyfan, ac yn help i ddatblygu sgiliau cymdeithasol ac emosiynol i blant, pobl ifanc a rhieni, gan gynnwys rhieni ifanc.
O ganlyniad i ddull gweithredu arloesol Mick, mae ei dîm bellach yn derbyn arian drwy'r Gronfa Datblygiad Plant i ddarparu sesiynau wythnosol mewn cydweithrediad â Dechrau'n Deg i rieni yn yr eco-ganolfan, sy'n cynnal a chyfrannu at y gwaith gyda phobl ifanc. Mae'r tîm hefyd yn croesawu teuluoedd sydd wedi cofrestru gyda gwasanaethau statudol, gan gydnabod yr effaith y gall y gwaith hwn ei chael ar blant mewn perygl.
Gwnaeth hyn argraff fawr ar y panel beirniaid, yn enwedig felly’r ffordd yr aeth Mick i'r afael â bwlch penodol mewn darpariaeth, gan nodi’r cyfleoedd i'r prosiect barhau a symud ymlaen.