Lela Patterson: MAD Abertawe
Teilyngwr
Mae Lela wedi gwneud cyfraniad eithriadol i waith ieuenctid drwy wirfoddoli gydag ystod eang o sefydliadau a phrosiectau gan gynnwys Coda Dy Lais, y Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol a phrosiect State of Mind.
Fel rhan o brosiect Clybiau Merched a Bechgyn Cymru a Coda Dy Lais MAD Abertawe, mae Lela wedi tynnu sylw at y rhwystrau y mae pobl ifanc sy'n ddall neu'n rhannol ddall yn eu hwynebu wrth geisio cymryd rhan yn y broses ddemocrataidd, ac mae'n parhau i ddadlau dros well hygyrchedd a chynhwysiant. Roedd Lela hefyd yn un o Gydfentoriaid cyntaf rhaglen State of Mind Platfform (sy’n cefnogi iechyd meddwl a lles pobl ifanc), gan ymgynghori ynghylch hygyrchedd, ac mae wedi cefnogi’r Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol i ddatblygu strategaethau cynhwysiant.
Ar hyn o bryd, mae Lela yn aelod o grŵp Camerados yn Ynys y Barri, lle mae'n cyfarfod bob wythnos â grŵp o bobl ifanc i greu cysylltiad cymunedol ac i leihau unigrwydd a’r ymdeimlad o fod wedi’u hynysu. Mae'r prosiect wedi tyfu o 4 sylfaenydd i 25 o bobl, ac mae Lela wedi bod yn ganolog o ran gofalu bod pobl yn cael croeso.
Cymeradwyodd y panel beirniaid Lela am ei gwybodaeth, ei hangerdd a'i hymrwymiad i godi ymwybyddiaeth o hawliau pobl anabl. Mae'n rhywun sy’n newid sefyllfaoedd, ac sy’n creu gofod diogel i bobl lle nad oes neb yn eu barnu, a lle gallant ddysgu, gan arwain at newidiadau cadarnhaol mewn agweddau, iaith ac arferion.