Neidio i'r prif gynnwy

Enillydd

Urdd Gobaith Cymru

Yr Urdd yw'r mudiad ieuenctid gwirfoddol mwyaf yng Nghymru, ac mae'n cynnig cyfleoedd i bobl ifanc feithrin profiadau a sgiliau er mwyn sicrhau bod modd iddynt gyfrannu'n gadarnhaol at eu cymunedau. Mae pob rhan o ddarpariaeth 11+ yr Urdd yn cefnogi pobl ifanc ac yn eu galluogi i ffynnu yn y Gymraeg drwy gynnig amrywiaeth eang iawn o gyfleoedd sy'n ychwanegu at eu datblygiad personol, cymdeithasol ac addysgol, lle gall pobl ifanc fwynhau eu hunain a theimlo'n ddiogel a'u bod yn cael eu gwerthfawrogi. Fodd bynnag, am nad oedd modd cynnal gwasanaethau wyneb yn wyneb o ganlyniad i'r pandemig, roedd risg gwirioneddol na fyddai ddarpariaeth i bobl ifanc ar gael yn Gymraeg.

Ymatebodd yr Urdd drwy weddnewid yr hyn a gynigir ganddi at ddefnydd y byd digidol, gan greu darpariaeth amrywiol a chynhwysol yn Gymraeg, gyda 37,769 o unigolion yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau. Ymhlith enghreifftiau o hyn oedd: 'Y Sgwrs’ – clwb ieuenctid wythnosol sy'n cael ei arwain gan bobl ifanc sy'n gwahodd partneriaid i redeg sesiynau. ‘Cefn Llwyfan’ – rhaglen i bobl ifanc rhwng 14 a 25 oed sy'n canolbwyntio ar wahanol agweddau ar y celfyddydau. ‘Yr Awr Fawr’ – cyfle i bobl ifanc 11 oed a throsodd i gymryd rhan mewn gweithgareddau gyda'i gilydd mewn amgylchedd diogel dros Zoom. Sesiynau Diwydiant Cerddoriaeth, a gynhelir ar y cyd gan Faes B a Chlwb Ifor Bach (16-25) er mwyn darparu cyrsiau creadigol ym myd cerddoriaeth, ffilm a dylunio. Eisteddfod T - yr Eisteddfod ddigidol gyntaf erioed. Rhoddwyd llwyfan genedlaethol a rhyngwladol ar waith i roi cyfle i bobl ddangos yr hyn sy'n bosibl drwy'r Urdd a thrwy gyfrwng y Gymraeg. Mae hyn wedi helpu i ehangu gorwelion, gan ddileu unrhyw rwystrau'n ymwneud â lleoliad, a chan agor y drysau i ragor o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg i bobl ifanc.

Gwnaeth y panel dyfarnu ganmol y ffordd yr oedd y tîm wedi gallu mynd i'r afael â'r heriau a wynebwyd ganddo, gan dynnu sylw at yr arferion eithriadol ac arloesol ym maes y Gymraeg mewn gwaith ieuenctid a fydd bellach yn rhan barhaol o ddarpariaeth gwaith ieuenctid ‘hybrid’ yr Urdd.