Neidio i'r prif gynnwy

Teilyngwr

The Urdd National Eisteddfod staffing team

Derbyniodd Tîm Staffio Eisteddfod yr Urdd, dan arweiniad Siân Eirian, yr heriau a berwyd gan bandemig Covid-19 a llwyddo i addasu i greu Eisteddfod-T ‘rhithwir’ cwbl newydd, yr Eisteddfod Ddigidol gyntaf erioed.

Wrth i weithgareddau wyneb yn wyneb gael eu gorfodi i gau, gwelodd Siân gyfle i ddefnyddio llwyfannau digidol i wneud rhywbeth newydd, a allai fod yn fwy cynhwysol, yn llai traddodiadol ac yn fwy cyfoes a blaengar. Roedd Siân yn gyfrifol am godi safonau a chymryd yr awenau trwy gyfnod o ansicrwydd a newid enfawr. Aeth hi ati i amlinellu'r weledigaeth ar gyfer y dull newydd hwn ac ysbrydolodd y tîm i'w gefnogi; gan berswadio pobl i dderbyn y newid cyfeiriad a sicrhau bod yr holl fudd-ddeiliaid yn ymwybodol o'r hyn a oedd yn digwydd ar bob adeg. Roedd dull Siân yn seiliedig ar sicrhau bod pobl yn cael hwyl yn ystod amser heriol, ac ymdrin â heriau dyddiol trwy feddwl mewn modd amgen. Arweiniodd y tîm i wneud pethau'n wahanol a chwilio am ddatrysiadau, nid rhwystrau. Cynhaliwyd yr Eisteddfod-T cyntaf erioed gyda dim ond 6 wythnos o gynllunio, gyda 6,000 yn cymryd rhan a 57 awr o ddarlledu ar y teledu a'r radio.

Bu'r panel beirniadu gydnabod y sgiliau arwain sy'n ofynnol i arwain prosiect o'r math hwn ac roeddent yn teimlo bod Siân a'r tîm yn arddangos priodweddau arweinwyr rhagorol, gan lwyddo'n benodol i ddarparu datrysiadau arloesol i gwrdd â her newid.