Neidio i'r prif gynnwy

Teilyngwr

Rebecca Williams, Ceredigion County Council Support and Prevention Service

Mae Rebecca yn weithiwr ieuenctid cymwys sydd wedi bod yn rhan o Wasanaeth Cefnogaeth ac Atal Cyngor Sir Ceredigion er 2013. Dechreuodd ei gyrfa fel gweithiwr sesiynol rhan-amser, a arweiniodd ati yn ennill cyflogaeth amser llawn fel Gweithiwr Ieuenctid Allgymorth.

Ar hyn o bryd mae Rebecca yn cydlynu ac yn rheoli ystod eang o weithgareddau a phrosiectau ar gyfer pobl ifanc 16+ sydd wedi canolbwyntio ar ddigartrefedd ieuenctid, LGBTQ+, cyflogadwyedd, iechyd meddwl a lles emosiynol. Ers cychwyn pandemig Covid 19, mae Rebecca wedi addasu ei dull, gan sicrhau nad yw pobl ifanc yn teimlo'n ynysig a'u bod yn cael eu cynnwys mewn gweithgareddau ar-lein, galwadau ffôn neu ymweliadau stepen drws yn dibynnu ar eu hanghenion. Yn benderfynol o sicrhau ei bod yn parhau â darpariaeth wyneb yn wyneb mewn modd diogel, roedd hi ar y brig yn gyson o ran hawliadau milltiroedd!

Yn aelod gwerthfawr o'r tîm, mae ei chyfoedion a'r bobl ifanc y mae'n eu cefnogi yn hoffi ac yn parchu Rebecca yn fawr. Mae gan lawer o bobl ifanc y mae'n ymgysylltu â nhw anghenion dysgu ychwanegol a phroblemau iechyd. Yn amyneddgar ac empathig, mae Rebecca yn creu cysylltiad â phob unigolyn, gan ddod o hyd i'r dulliau ymgysylltu gorau, gan eu hannog i symud ymlaen ar eu cyflymder eu hunain.

Bu'r panel beirniadu gydnabod fod yr effaith y mae Rebecca wedi'i chael ar y gwasanaeth ac ar bobl ifanc wedi bod yn aruthrol, gan gyfeirio'n benodol at nifer y bobl ifanc sy'n cael cymorth i gael mynediad i gyfleoedd addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant oherwydd eu hymglymiad mewn cymorth allgymorth - er gwaethaf COVID-19.