Neidio i'r prif gynnwy

Teilyngwr

Young Traders Project

Mae Karen Morris yn Weithiwr Ieuenctid Arweinydd Ysgol wedi'i lleoli yn Ysgol Coedcae, Llanelli. Enwebwyd Karen am arwain menter gyffrous a oedd yn cynnwys cydweithredu â Phrosiect Marchnad Masnachwyr Ifanc Llanelli. Rhaglen ddysgu ymyrraeth gynnar oedd hon a gyflwynwyd mewn partneriaeth â Hannah Megan Thomas, gwneuthurwr a dylunydd gemwaith cymwys leol. 

Roedd y prosiect yn cynnwys pobl ifanc yn masnachu yn eu marchnad awyr agored leol, yn dysgu sgiliau mewn perthynas â rheoli arian, masnachu a bod yn fos arnynt eu hunain. Cymerodd grŵp o ddisgyblion Blwyddyn 7 ran yn y Prosiect a buont yn gweithio ochr yn ochr â Hannah Megan Thomas am 6 wythnos. Fe wnaethant ddylunio a chreu gemwaith, y byddent wedyn yn ei werthu yn y farchnad, gan ddatblygu eu sgiliau entrepreneuraidd ynghyd â magu hyder a dysgu siarad â chwsmeriaid.

Bu'r panel beirniadu dynnu sylw at allu Karen i weithio'n dda gydag ystod o wahanol fudiadau partner yn ogystal ag ysbrydoli'r bobl ifanc dan sylw. Arweiniodd ei phenderfynoldeb at ganlyniadau diriaethol, amlwg i'r bobl ifanc dan sylw.

Roedd y prosiect yn rhan o strategaeth ehangach i ymgysylltu a datblygu presenoldeb masnachwyr ifanc ym Marchnadoedd Sir Gaerfyrddin. Fe'i cefnogwyd gan Adran Marchnadoedd Cyngor Sir Caerfyrddin, Ysgol Coedcae, Cyngor Tref Llanelli, Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid Sir Gaerfyrddin, Ymlaen Llanelli, Fusion a This Time Project, Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed a Choleg Sir Gâr.